O Gaerfyrddin i Kona: Un o raddedigion y Drindod Dewi Sant yn cymryd llwyfan mwyaf triathlon yn Hawaii
Yn ddiweddar, bu Guto Morgans, myfyriwr graddedig o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Ironman y Byd yn Kona, Hawaii, ar ôl cymhwyso ar gyfer un o ddigwyddiadau dygnwch mwyaf mawreddog y byd.
Fe wnaeth Guto, a raddiodd o gampws Caerfyrddin PCYDDS yn 2019 gyda BSc mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, sicrhau ei le yn y digwyddiad eiconig ar ôl gorffen yn chweched yn ei grŵp oedran yn Ironman Cymru gydag amser o 10 awr a 30 munud. Aeth ymlaen i gwblhau Pencampwriaeth Ironman y Byd mewn 11:15:23, gan gystadlu ochr yn ochr â rhai o driathletwyr grŵp oedran gorau’r byd yn yr hyn y mae llawer yn ei ystyried fel pinacl triathlon pellter hir.
Ers iddo raddio, mae wedi parhau i ddatblygu fel athletwr dygnwch ac fel gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio yn y sector chwaraeon a ffitrwydd.
Darganfod angerdd am driathlon
I Guto, mae cymhwyso ar gyfer Kona yn nodi penllanw blynyddoedd o ymroddiad i’r triathlon a nod y mae wedi gweithio tuag ato ers amser maith.
Dechreuodd ar ei lwybr i’r gamp ar ôl cael anaf rygbi yn 17 oed. Wrth chwilio am her newydd, fe ddaeth ar draws triathlon ac yn fuan fe ddatblygodd angerdd am chwaraeon dygnwch. Tra’n astudio yn PCYDDS, cafodd ysbrydoliaeth bellach gan y darlithydd Geraint Foster, a oedd yn hyfforddi ar gyfer Ironman Cymru ar y pryd.
Meddai Guto: “Fe wnaeth gweld rhywun roeddwn i’n ei adnabod yn mynd trwy’r broses o baratoi ar gyfer Ironman fy ysbrydoli i roi cynnig arni fy hun. Cefais gyfle hefyd i gynrychioli’r Brifysgol yn Nhriathlon Sbrint Abertawe.
“Ers hynny, mae triathlon wedi dod yn llawer mwy na hobi. Kona fydd fy negfed Ironman ac mae’r gamp wedi mynd â mi ledled y byd. Rydw i wedi cael y cyfle i ymweld â llefydd anhygoel, i gwrdd â phobl wych a gwneud ffrindiau gydol oes.
“Ar ôl yr holl flynyddoedd hyn, mae triathlon wedi dod yn rhan enfawr o fy mywyd a phwy ydw i.”
Adeiladu gyrfa o amgylch chwaraeon
Ochr yn ochr â’i uchelgeisiau chwaraeon ei hun, mae Guto wedi adeiladu gyrfa yn helpu athletwyr eraill i gyflawni eu nodau. Ef yw sylfaenydd Top Step Tri, sy’n hyfforddi athletwyr triathlon o amrywiol alluoedd a lefelau profiad, ac mae hefyd yn gweithio fel Therapydd Tylino Chwaraeon, gan gefnogi athletwyr wrth iddynt hyfforddi a chystadlu. Trwy’r rolau hyn, mae ef wedi gweithio mewn digwyddiadau dygnwch mawr gan gynnwys Long Course Weekend a Her Cymru.
Wrth siarad am yr hyn y mae’n ei fwynhau fwyaf am hyfforddi, dywedodd Guto: “Y peth rwy’n ei fwynhau fwyaf yw helpu pobl i gyrraedd eu potensial llawn a chyflawni nodau a allai fod wedi ymddangos yn amhosibl ar y dechrau.
“Rydw i wedi derbyn cymaint o gefnogaeth gan bobl eraill dros y blynyddoedd, felly mae gallu rhoi rhywbeth yn ôl a helpu rhywun arall i gyflawni eu nodau yn hynod werthfawr.”
Cymhwyso gwybodaeth y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth
Tra yn PCYDDS, astudiodd Guto Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gyda ffocws ar ffitrwydd awyr agored, gan ddatblygu dealltwriaeth o berfformiad, hyfforddiant ac adferiad trwy astudiaeth academaidd a phrofiad ymarferol.
Cryfhaodd y radd ddiddordeb presennol mewn chwaraeon dygnwch ac mae’n parhau i ddylanwadu ar ei waith fel hyfforddwr ac athletwr.
“Rhoddodd fy ngradd sylfaen gref i mi ddeall sut mae’r corff yn ymateb i hyfforddiant a phwysigrwydd defnyddio gwyddoniaeth ac ymchwil i gefnogi’r ffordd rwy’n hyfforddi athletwyr.
“Rwy’n ceisio peidio â dibynnu ar brofiad personol yn unig. Er fy mod wedi bod yn ymwneud â triathlon ers blynyddoedd lawer, rwy’n credu ei bod yn bwysig defnyddio’r ymchwil a’r dystiolaeth ddiweddaraf i lywio fy hyfforddi.”
Yn ystod ei amser yn y Drindod Dewi Sant, cynrychiolodd y Brifysgol hefyd yn Triathlon Sbrint Abertawe, profiad a helpodd i danio angerdd cynyddol am y gamp.
Myfyrio ar Kona ac Edrych ymlaen
Wrth fyfyrio ar y profiad o gystadlu ar lwyfan mwyaf triathlon, dywedodd Guto: “Mae Kona, gyda’i hanes a’i statws, yn cael ei ystyried yn pinacl triathlon. Mae cael y cyfle i rasio yno yn anhygoel o arbennig.
“Fy nod oedd perfformio cystal ag y gallwn wrth wneud y gorau o’r profiad. Fe wnes i wneud yn siŵr o werthfawrogi a mwynhau’r foment gan nad oeddwn am golli golwg ar ba mor arbennig oedd y cyfle.”
Ac yntau wedi ei blentyn cyntaf yn gynharach eleni, dywedodd Guto fod rhannu’r profiad gyda’i wraig, ei ferch a’i rieni yn gwneud yr achlysur hyd yn oed yn fwy arbennig.
Gydag un Bencampwriaeth y Byd bellach wedi’i chwblhau, mae eisoes wedi sicrhau ei her nesaf, ar ôl cymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth y Byd Ironman 70.3 2027 yn Chattanooga, Tennessee.
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996