Skip page header and navigation

Mae un o raddedigion cwrs Seicoleg Prifysgol Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn gobeithio y bydd ei hymchwil i brofiadau pobl sy’n aros am ddiagnosis endometriosis yn helpu i wella cefnogaeth i gleifion yn ystod un o gyfnodau mwyaf heriol eu gofal. 

Kayleigh Phillips in her cap and gown

Archwiliodd Kayleigh Phillips, a raddiodd heddiw gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Seicoleg a Chwnsela, effaith oedi diagnostig ar bobl yng Nghymru, gan dynnu sylw at yr angen am well gwybodaeth, cymorth emosiynol, ac ymyrraeth gynharach. 

Er bod llawer o ymchwil presennol yn canolbwyntio ar fywyd ar ôl diagnosis, roedd Kayleigh eisiau deall effaith y cyfnod o aros am atebion, sy’n aml yn gyfnod hir. 

Roedd cwblhau’r traethawd hir yn arbennig o arwyddocaol gan fod Kayleigh yn llywio ei diagnosis endometriosis ei hun ac yn gwella o lawdriniaeth fawr yn ystod ei blwyddyn olaf. Meddai:

 “Roedd yn un o gyfnodau mwyaf heriol fy mywyd. Roedd y gefnogaeth a gefais gan y tîm Seicoleg a Chwnsela, yn enwedig Dr Ceri Phelps, wedi gwneud cymaint o wahaniaeth. Roedden nhw’n credu ynof fi, hyd yn oed pan oeddwn yn amau fy hun.” 

Canfu’r astudiaeth y gall oedi diagnostig effeithio’n sylweddol ar ansawdd bywyd, gyda chyfranogwyr yn disgrifio effaith poen cronig, llesiant emosiynol gwael, perthnasoedd dan straen, llai o hyder, a cholli rheolaeth. Nododd y cyfranogwyr hefyd bum maes allweddol lle mae angen mwy o gefnogaeth: rheoli poen, rheoli symptomau, cefnogaeth emosiynol, dilysu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a phryderon ffrwythlondeb. 

 “Roeddwn i eisiau rhoi llais i bobl sy’n aml yn cael eu hanwybyddu yn ystod y broses ddiagnostig,” meddai Kayleigh. “Disgrifiodd llawer o gyfranogwyr deimlo nad oedd unrhyw un yn gwrando, eu bod yn cael eu rhoi i’r neilltu neu heb gefnogaeth wrth geisio cael mynediad at ofal.” 

Canfu ei hymchwil hefyd fod llawer o bobl yn dibynnu ar chwiliadau ar-lein a chyfryngau cymdeithasol am wybodaeth a chymorth, gan dynnu sylw at yr angen am adnoddau hygyrch, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, wrth aros am ddiagnosis. 

 “Mae’r canfyddiadau’n dangos nad oedi gofal iechyd yn unig yw’r cyfnod aros diagnostig ond profiad seicogymdeithasol sylweddol a all effeithio’n negyddol ar lesiant ac ansawdd bywyd,” meddai. “Rwy’n gobeithio y bydd yr ymchwil yn cyfrannu at gefnogaeth gynharach, mwy o ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwell gofal i bobl cyn diagnosis.” 

Gan ddychwelyd i addysg uwch yn 2020 ar ôl seibiant sylweddol, dewisodd Kayleigh radd Seicoleg a Chwnsela rhan-amser hyblyg PCYDDS fel y gallai gydbwyso astudio â bywyd gwaith a theuluol. 

Ochr yn ochr â’i hastudiaethau, daeth Kayleigh yn Lywydd ar y Gymdeithas Seicoleg, yn Llysgennad Myfyrwyr, ac yn Llysgennad Myfyrwyr Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS). Gweithiodd hefyd yn y trydydd sector yn cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd, profiadau a gryfhaodd ei diddordeb mewn seicoleg ac ymchwil iechyd. 

Wrth edrych nôl dros ei chyfnod yn PCYDDS, dywedodd Kayleigh:

“Daeth yr hyn a ddechreuodd fel penderfyniad i ddychwelyd i addysg yn daith drawsnewidiol. Rhoddodd y cyfle i mi dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol wrth adeiladu gyrfa yn gwneud rhywbeth rwy’n angerddol amdano.” 

Mae hi’n rhoi clod i lwybr astudio rhan-amser hyblyg y Brifysgol am wneud addysg uwch yn bosibl wrth gydbwyso gwaith, bywyd teuluol a heriau iechyd personol. 

Mae’r sgiliau y mae wedi’u datblygu yn PCYDDS eisoes wedi siapio ei gyrfa. Mae hi bellach yn gweithio ym maes Cyfathrebu Ymchwil gyda’r Gymdeithas Alzheimer’s, gan helpu i gyfathrebu ymchwil a thystiolaeth i gynulleidfaoedd ehangach wrth gefnogi ymgysylltu ag ymchwil ar draws cymunedau.  

Mae hi’n bwriadu parhau â’i hastudiaethau trwy addysg ôl-raddedig gyda’r uchelgais o adeiladu gyrfa mewn seicoleg ac ymchwil iechyd.  

 “Rwy’n gobeithio adeiladu ar yr ymchwil hwn trwy astudiaeth ôl-raddedig a chyhoeddi yn y dyfodol. Fy nod yw parhau i gryfhau lleisiau cleifion, cyfrannu at wella dealltwriaeth o oedi diagnostig, a helpu i lywio ymchwil, gwasanaethau cymorth a pholisi iechyd yn y dyfodol sy’n ymwneud â gofal endometriosis yng Nghymru a thu hwnt.  

 “Dychwelyd i’r brifysgol oedd un o’r penderfyniadau gorau rydw i wedi’i wneud erioed. Rhoddodd hyder i mi, agorodd ddrysau nad oeddwn erioed wedi’u dychmygu a dangosodd i mi nad yw byth yn rhy hwyr i ddilyn eich uchelgeisiau.” 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon