Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth
Archwiliwch eich potensial creadigol gyda’n graddau mewn Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf Abertawe. Datblygwch eich syniadau, darganfyddwch ffyrdd newydd o weithio a meithrinwch y sgiliau creadigol, technegol a phroffesiynol i lunio eich dyfodol yn y diwydiannau creadigol.
Gydag ystod eang o bynciau i ddewis ohonynt, gan gynnwys Celf Gain, Darlunio, Dylunio Graffig, Ffotograffiaeth, Patrymau Arwyneb a Thecstilau, Dylunio Crefftau, Celf a Dylunio Sylfaen a Ffilm a Theledu, mae digon o gyfleoedd i ddarganfod eich llwybr a datblygu eich arfer creadigol eich hun.
Profiad ysgol gelf
Dewch i fwynhau’r profiad o astudio mewn coleg celf arbenigol, lle byddwch yn dod yn rhan o gymuned greadigol, yn rhannu syniadau ac yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau creadigol.<0} Bydd gennych fynediad at fannau stiwdio pwrpasol, gweithdai arbenigol a chyfleusterau digidol cyfoes, gan roi’r rhyddid i chi arbrofi, datblygu eich sgiliau a dod â’ch syniadau’n fyw.
Mae ein staff academaidd profiadol a’n technegwyr arbenigol yn darparu arweiniad drwy gydol eich astudiaethau, gan eich helpu i archwilio eich diddordebau, datblygu eich gwaith a manteisio i’r eithaf ar y cyfleusterau sydd ar gael ar draws y Coleg.
Cysylltiedig â’r diwydiant i’ch paratoi ar gyfer eich dyfodol.
Mae ein cyrsiau’n cynnig cyfleoedd i ymgysylltu â’r diwydiannau creadigol drwy brosiectau byw, briffiau diwydiant, lleoliadau proffesiynol ac ymarferwyr gwadd. Gall y profiadau hyn eich helpu i gael cipolwg ar arfer proffesiynol, gwneud cysylltiadau â’r diwydiant a meithrin y sgiliau a’r profiad i baratoi ar gyfer eich dyfodol.
Cydnabyddiaeth am ragoriaeth greadigol
Rydym yn falch o gyflawniadau ein myfyrwyr a’n graddedigion. Mae PCYDDS wedi dod yn 1af yng Nghymru a 1af yn y DU am Ffasiwn a Thecstilau, ac yn 1af yn y DU am Gynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth yn y Guardian University Guide 2027.
Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus ar draws y diwydiannau creadigol, gyda chyn-fyfyrwyr yn gweithio i sefydliadau yn cynnwys LEGO, McLaren, Apple a Rolls-Royce, yn ogystal â sefydlu eu busnesau creadigol a’u cwmnïau annibynnol eu hunain.
Dewch i ddarganfod Coleg Celf Abertawe
Dysgwch ragor am y gymuned greadigol, y cyfleusterau arbenigol, y cysylltiadau â’r diwydiant a’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr yng Ngholeg Celf Abertawe.
Pam astudio Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth yn PCYDDS?
Clearing
Dewch i ymweld â ni mewn Diwrnod Agored neu Noson Agored
Darganfyddwch fwy am eich cwrs, cwrdd â myfyrwyr presennol, y tîm addysgu, ac archwilio ein campws a’n cyfleusterau proffesiynol.
Swansea College of Art
Coleg Celf Abertawe: Profiad Ysgol Gelf mewn Prifysgol Gyfoes
Mae ein Sioeau Haf yn arddangos gwaith eithriadol ein myfyrwyr sy’n graddio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol.
Spotlights
Lle i archwilio. Cyfleusterau i greu.
O weithdai arbenigol a mannau gwneud traddodiadol i stiwdios digidol ac offer o safon y diwydiant, mae Coleg Celf Abertawe yn darparu amgylchedd ysbrydoledig i archwilio syniadau a datblygu eich arfer creadigol. P’un a ydych yn arbrofi gyda deunyddiau, yn dysgu technegau newydd neu’n dod â phrosiect yn fyw, byddwch yn cael mynediad at y mannau, yr offer a’r adnoddau i gefnogi eich creadigrwydd.
Ein cyhoeddiad diweddaraf
A celebration of the creative talent, inspiring work, student stories and courses that shape the creative community at Swansea College of Art.
Straeon Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth
Dewch i adnabod ein myfyrwyr a’n graddedigion. Dewch i glywed am eu profiadau yng Ngholeg Celf Abertawe a darganfyddwch le mae astudio gyda ni wedi mynd â nhw.
Ein Staff
Ein Staff
Archwiliwch ein proffiliau staff i ddysgu am arbenigedd, cyflawniadau, a theithiau proffesiynol yr academyddion sy’n llunio ac addysgu ein cyrsiau. Mae’r straeon hyn yn amlygu’r angerdd a’r ymroddiad sy’n helpu i gyfoethogi profiadau ein myfyrwyr ac yn gyrru arloesi yn eu meysydd.
Newyddion
Newyddion
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf ym maes Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth yn PCYDDS
Digwyddiadau
Digwyddiadau
Darganfyddwch y diweddaraf am arddangosfeydd, diwrnodau agored, sioeau gradd a digwyddiadau sydd ar ddod ar draws ein cymuned greadigol.