Coleg Celf Abertawe
Profiad Ysgol Gelf mewn Prifysgol Gyfoes
Nid oes addysg brifysgol arall yn debyg i addysg coleg celf. Mae’n unigryw yn y ffordd y mae’n meithrin, cyfarwyddo ac annog unigoliaeth, creadigrwydd ac arloesi.
Mae gan y DU ystod gyfoethog ac amrywiol o golegau celf sydd â threftadaeth arbennig o gynhyrchu artistiaid, dylunwyr, animeiddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau a pherfformwyr a gydnabyddir ar draws y byd. Yn goleg celf hynaf a mwyaf sefydledig Cymru, mae Coleg Celf Abertawe yn rhan uchel ei pharch o’r traddodiad hwnnw.
Beth gallaf astudio?
Mae gan ein holl gyrsiau athroniaeth gyffredin; galluogi unigoliaeth, rhyddid creadigol a hyblygrwydd academaidd, ac rydym yn credu bod y rhain i gyd yn hanfodol wrth ddod o hyd i’ch llais eich hun o fewn eich dewis faes creadigol.
I Ôl-raddedigion
Mae ein Portffolio MA Deialogau Cyfoes yn creu llwyfan dysgu unigryw a ddefnyddir i annog myfyrwyr i ehangu eu profiad creadigol trwy arbrofi, cydweithio a disgwrs ryngddisgyblaethol.
Sioeau Haf
Mae ein Sioeau Haf yn arddangos gwaith eithriadol ein myfyrwyr sy’n graddio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol.
Bydd yr arddangosfeydd a pherfformiadau yn cael eu cynnal yng Ngholeg Celf Abertawe, Caerfyrddin, Chaerdydd a Llundain trwy gydol mis Mai, Mehefin a Gorffennaf.
Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i artistiaid, dylunwyr a pherfformwyr sefydlog yn ogystal â darpar artistiaid, darlunwyr a pherfformwyr brofi’r gwaith arloesol ac ysbrydoledig a gynhyrchwyd gan ein myfyrwyr.
MAE EIN SAFLEOEDD DIWEDDARAF YN DANGOS SUT RYDYM YN SEFYLL LEDLED Y DU
Daeth PCYDDS yn:
1 yn y DU am Gynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth
1af trwy Gymru am Ffasiwn a Thecstilau (5 yn y DU)
(Guardian University League Table 2026)
Enwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd Addysgu 2026 gan The Times and Sunday Times Good University Guide.
Statistics
Ein Llyfrau
Profiad o Goleg celf Traddodiadol Mewn Prifysgol Gyfoes
Mwy o opsiynau
I Brentisiaid
Cydnabyddir Coleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant yn un o ganolfannau rhagoriaeth y DU mewn gwydr lliw. Mae gan yr adran dreftadaeth gyfoethog mewn addysg gwydr lliw ac mae ganddi archif gwefreiddiol o ddyluniadau’n rhychwantu 80 mlynedd, sy’n darparu adnodd addysgu amhrisiadwy.
Y Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP)
Y Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP) yw cainc fasnachol yr adran enwog yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe.