Mesur Meintiau (Llawn amser) (BSc Anrh)
Mae ein rhaglen Mesur Meintiau yn cynnig cyfuniad o ysgogiad deallusol a gweithredu ymarferol i’ch paratoi ar gyfer gyrfa werth chweil yn y maes hwn.
Fel Syrfëwr Meintiau, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli prosiectau adeiladu, gan sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu’n ddidrafferth o’r dechrau i’r diwedd. Mae ein cwrs wedi’i gynllunio i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth, gan eich gwneud yn fyfyriwr graddedig cymwys sy’n barod ar gyfer y byd proffesiynol.
Mae’r diwydiant adeiladu yn datblygu’n gyflym, gyda thechnoleg a chyflenwi integredig yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae ein rhaglen yn cael ei datblygu mewn cydweithrediad ag arbenigwyr yn y diwydiant a chyrff proffesiynol, gan gynnwys Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a Chanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC). Mae’r partneriaethau hyn yn sicrhau bod ein cwricwlwm yn bodloni gofynion ac anghenion presennol y diwydiant.
Mae’r cwrs hwn hefyd wedi’i achredu gan Gymdeithas Siartredig y Peirianwyr Adeiladu (CABE), gan roi cydnabyddiaeth broffesiynol i chi a chyfoethogi eich cyflogadwyedd.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn cymryd rhan mewn modiwlau sy’n canolbwyntio ar ddatrys problemau creadigol, a chydweithio. Mae ein cwricwlwm yn cynnwys ystod eang o bynciau, gan gynnwys rheoli costau, caffael, mesur a meintioli, rheoli risg ac economeg dylunio.
Byddwch hefyd yn meithrin arbenigedd mewn meysydd fel contractau, cynllunio costau ac amcangyfrif. Mae’r cwrs yn pwysleisio pwysigrwydd sgiliau ariannol, sgiliau cyfreithiol, sgiliau rheoli a sgiliau cyfathrebu, sy’n hanfodol ar gyfer rheoli prosiectau adeiladu o ddechrau’r prosiect tan y diwedd.
Yn ogystal â dysgu yn yr ystafell ddosbarth, mae’r cwrs yn cynnig profiadau ymarferol, gan gynnwys lleoliadau gwaith sy’n caniatáu ichi roi eich gwybodaeth ar waith mewn lleoliadau byd go iawn. Mae’r profiad hwn yn y diwydiant yn amhrisiadwy, gan roi dealltwriaeth i chi o ymarfer proffesiynol a’ch helpu i adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau â’r diwydiant.
Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn barod i ymgymryd â rolau mewn meysydd allweddol o fewn y diwydiant adeiladu a chael effaith sylweddol ym maes mesur meintiau.
Ymunwch â ni a chychwyn ar daith a fydd yn eich herio a’ch ysbrydoli, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn un o sectorau mwyaf deinamig a hanfodol yr economi.
Course details
- Saesneg
Undergraduate Fees
Home (Full-time): £9,535 per year
Overseas (Full-time): £15,525 per year
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
“Mae’r diwydiant adeiladu yn effeithio ar bawb, gan ddylanwadu ar gynhyrchiant a llesiant, ac yn creu’r cartrefi, ysbytai, ysgolion, gweithleoedd a seilwaith sy’n hanfodol ar gyfer ansawdd bywyd da”, Caroline Gumble, CIOB.
Mae ein hathroniaeth dysgu ac addysgu wedi’i gwreiddio mewn darparu addysg ymarferol, sy’n berthnasol i’r diwydiant. Ein nod yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i fyfyrwyr ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y sector deinamig ac arloesol hwn.
Byddwch yn dysgu hanfodion technoleg adeiladu, prosesau caffael, yn meithrin sgiliau mesur digidol, ac yn deall iechyd, diogelwch a llesiant ym maes adeiladu. Byddwch hefyd yn archwilio deunyddiau adeiladu, gwasanaethau adeiladu, y gyfraith ar gyfer yr amgylchedd adeiledig, a thechnegau mesur ac amcangyfrif.
Byddwch yn dyfnhau eich gwybodaeth gyda modiwlau, gan gynnwys modelu gwybodaeth am adeiladau, amcangyfrif a thendro uwch, a datblygu cynaliadwy.
Byddwch hefyd yn ymgymryd â dylunio prosiect ymchwil, yn dysgu am weinyddu contractau, ac yn astudio technoleg adeiladu yn fanylach, ochr yn ochr â rheoli busnes ar gyfer adeiladu a rheoli prosiectau.
Mae’r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar bynciau datblygedig a phrosiectau ymarferol. Byddwch yn cwblhau prosiect annibynnol a phrosiect integredig, yn astudio technoleg adeiladu uwch a mesur meintiau uwch, ac yn ymchwilio i reoli masnachol. Bydd y modiwlau hyn yn eich paratoi ar gyfer rolau arwain a heriau cymhleth yn y diwydiant adeiladu.
Course Page Disclaimer
-
The modules outlined above provide examples of what you can expect to learn on this course based on recent academic teaching. We continuously review our courses to ensure quality enhancement and to manage our resources. The precise modules available to you in future years may vary depending on staff availability and research interests, new topics of study, timetabling and student demand. Where your course includes optional modules, these are to provide an element of choice within the course. The availability of optional modules may vary from year to year and will be subject to minimum student numbers being achieved. This means the availability of specific optional modules cannot be guaranteed.
You’ll typically complete 120 credits per year of study on a full-time course. For more information visit our Student Agreement.
tysteb
Visit us at an Open Day or Open Evening
Find out more about your course, meet current students, the teaching team, and explore our campus and industry-grade facilities.
Staff
Our People
You will be taught and supported by a wide range of professional staff and teams here to help you get the university experience you are looking for. Our teaching staff were ranked 2nd in Wales for Teaching, Assessment and Feedback and Academic Support (NSS 2024) meaning that the support and feedback you get will help you learn and develop strong academic skills. Our students have placed us 1st in Wales for Learning Opportunities and Student Voice (NSS 2024) meaning that there are a wide range of opportunities available to enhance your studies and that students play an active role in shaping their learning experiences. Our commitment to your learning has seen our students place us as 1st in Wales and joint 3rd in the UK for student satisfaction (Times Higher Education, 2024, ‘Overall Positivity’ measure). Find out more about our academic staff who teach across our courses.
Gwybodaeth allweddol
-
104-120 o Bwyntiau Tariff UCAS
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.
Llwybrau mynediad amgen
Os ydi’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:
-
‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd.
-
Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu’n grynodol ac wedi’u cynllunio i sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau. Fel arfer, bydd y math hwn o asesiadau wedi’i llunio ar ffurf ymarferion ymarferol lle mae dull ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr ar amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn para dwy awr.
Mae arholiadau’n ddull traddodiadol o wirio mai gwaith y myfyriwr yntau yw’r gwaith a gynhyrchwyd. Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.
Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau’r ymchwil ar lafar/yn weladwy i’r darlithydd a chyfoedion, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn. Mae’r cyfryw strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r nod yw creu gwaith sydd dan arweiniad myfyrwyr, yn unigol, yn adfyfyriol a phan fo’n briodol, wedi’i gyfeirio at alwedigaeth. Bydd adborth i fyfyrwyr yn digwydd ar ddechrau’r cyfnod astudio ac yn parhau gydol y cyfnod astudio a thrwy hynny ganiatáu ar gyfer ychwanegu gwerth o’r radd flaenaf at yr hyn y mae’r myfyriwr yn ei ddysgu.
-
Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac er nad oes unrhyw fodiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs hwn ar hyn o bryd, ym mhob achos gall myfyrwyr gyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig
A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hwn heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae galw mawr am fesurwyr meintiau yn y DU ac mae diffyg ohonynt. Bydd y ffaith fod gweithlu’r DU yn heneiddio ac effaith Brexit yn golygu ei fod yn hanfodol i’r prinder sgiliau hyn cael ei ddatrys. Yng Nghymru’n unig, amcangyfrifir y bydd angen recriwtio 1,300 o bobl bob blwyddyn i lenwi’r bylchau fydd yn cael eu gadael yn y diwydiant o ganlyniad i ymddeoliadau. Nod y cwrs gradd hwn yw cynhyrchu graddedigion â’r sgiliau mesur meintiau sydd eu hangen i lenwi’r bwlch yn niwydiant adeiladu’r DU.
Mae adeiladu’n cyfrannu tua £132 biliwn i’r asedau sefydlog sy’n sail i economi’r DU. Yn ôl disgrifiad y CIOB (2020) mae gennym dros 28 miliwn o gartrefi, ¼ miliwn milltir o ffyrdd, 46 maes awyr, 350,000 milltir o garthffosydd a 10,000 milltir o reilffyrdd cenedlaethol. Yn fwy a mwy aml, fel diwydiant, rydym yn gweld effeithiau technolegau digidol ar y ffordd rydym yn gweithio, megis dronau a realiti rithwir ac estynedig. Hefyd, mae gan y diwydiant adeiladu ran bwysig i chwarae wrth symud tuag at well effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd.
Dylunnir y rhaglen hon gan ystyried y materion uchod. Er enghraifft, mae deilliannau’r modylau yn mynd i’r afael â phryderon megis cynaladwyedd, effeithlonrwydd ynni, rheoli cyfleusterau, yn ogystal â’r deilliannau mwy cyfarwydd megis theorïau rheoli, llythrennedd, datrys problemau ac anghenion y cleient. Mae amrywiaeth o sgiliau uwch sydd wedi’u dylunio i integreiddio gyda’r deilliannau’r modylau yn atodi’r rhain.
Gwnaiff y rhaglen hon fodloni gofynion y diwydiant ac wrth wneud hynny, darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n gofyn llawer yn ddeallusol, sy’n gysylltiedig â chyrff diwydiannol a phroffesiynol, gofyniad sy’n bodloni anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. Yn ychwanegol i hyn, mae y tîm rhaglen wedi datblygu amcanion ar gyfer y rhaglen sy’n cyfoethogi datblygiad cymhwysedd a hyfforddiant technegol ar lefel sy’n gallu bodloni gofynion cyfredol y diwydiant ar gyfer rheolaeth ganol.
Bydd graddedigion y Rhaglen Mesur Meintiau’n dod o hyd i waith naill ai ar ochr ymgynghori’r diwydiant fel Mesurwyr Meintiau, yn rhoi cyngor i gleientiaid ar economeg eu prosiectau datblygu, neu mewn rolau fel Rheolwyr Masnachol ar ochr gontractio’r diwydiant. Ar ddiwedd y cwrs, rhagwelir y bydd graddedigion wedi ennill sgiliau digonol i allu ymgymryd â rôl syrfëwr meintiau graddedig yn y naill sector neu’r llall. Mae gennym hanes cyflogaeth ardderchog ar gyfer ein myfyrwyr graddedig.