Dylunio Gemau Cyfrifiadurol (Llawn amser) (BA Anrh)
Ydych chi eisiau creu gemau? Mae ein gradd Dylunio Gemau Cyfrifiadurol yn berffaith i chi. Byddwch yn dysgu sut i fod yn Artist 3D, animeiddiwr neu ddylunydd gemau. Mae gennym bartneriaid diwydiant ardderchog i’ch cefnogi.
Byddwch yn defnyddio offer pwerus fel Unreal Engine a pheiriannau gemau Unity. Gan ddysgu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, sydd â phrofiad o’r byd go iawn, byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu portffolio o waith sy’n barod ar gyfer gyrfa i arddangos eich sgiliau i gyflogwyr yn y dyfodol.
Yn ystod y cwrs, bydd eich astudiaethau yn cynnwys theori dylunio gemau, dylunio lefelau ac amgylcheddau a rhaglennu. Mae ein cyfleusterau datblygu gemau o’r safon uchaf yn cynnwys meddalwedd diweddaraf Adobe Creative Cloud (Adobe CC), sy’n rhoi’r holl offer angenrheidiol i chi lwyddo yn eich astudiaethau. Mae dosbarthiadau bach yn golygu y bydd ein staff, sy’n brofiadol yn y diwydiant, yn gallu eich arwain bob cam o’r ffordd.
Cewch brofiad ymarferol gyda datblygiad ac animeiddio Realiti Estynedig/Realiti Rhithwir (AR/VR), gan ddysgu’r technolegau Gemau diweddaraf. Bydd ein cwrs yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o sgiliau creadigol, beirniadol, dadansoddol a dehongli sy’n angenrheidiol ar gyfer dylunio a gweithredu gemau cyfrifiadurol. Ein nod yw gwella eich datblygiad fel unigolyn ac fel aelod o dîm.
Erbyn i chi raddio, bydd gennych y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y diwydiant gemau. Byddwch yn gallu gweithio gyda stiwdios blaenllaw neu ddechrau eich prosiectau eich hun. Bydd y radd hon yn eich rhoi ar y llwybr cywir ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn dylunio gemau.
Course details
- Saesneg
Undergraduate Fees
Home (Full-time): £9,535 per year
Overseas (Full-time): £15,525 per year
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Rydym yn credu mewn rhoi’r grym i chi ddylunio a chreu prosiectau rhyngweithiol sy’n wirioneddol arddangos eich gwybodaeth datblygu gemau. Mae ein cwrs yn ymwneud ag annog eich archwiliad creadigol wrth sicrhau eich bod yn datblygu’r sgiliau technegol sydd eu hangen i lwyddo ym myd cystadleuol dylunio gemau cyfrifiadurol.
Trwy gydol y cwrs, byddwch yn dysgu cynhyrchu amrywiaeth eang o brosiectau dylunio gemau, gan eich paratoi ar gyfer rolau fel Artist Lefel, Modelydd Amgylcheddol, Artist Cymeriadau, Artist Gwead ac Artist Cysyniadau. Trwy ddeall y cylch cynhyrchu llawn a’i gyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol, byddwch chi’n barod i ymuno â’r diwydiant gemau fel gweithiwr proffesiynol medrus a meddylgar.
Ym mlwyddyn gyntaf y cwrs dylunio gemau cyfrifiadurol byddwch yn dechrau archwilio byd datblygu gemau. Byddwch yn dechrau dysgu hanfodion creu cymeriadau, graffeg 3D ac animeiddio. Mewn seminarau a gweithdai, byddwch yn archwilio mecaneg gemau a systemau rheolau drwy brosiectau hwyliog, ymarferol, yn aml yn defnyddio modelau cysyniadol ar bapur i gael teimlad go iawn o sut mae gemau’n cael eu creu. Mae ein grwpiau tiwtorial bach yn golygu eich bod yn cael digon o gymorth personol gan eich darlithwyr, gan eich helpu i feithrin eich sgiliau a’ch hyder o’r dechrau.
Wrth i chi symud i’r ail flwyddyn, byddwch yn adeiladu ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu, gan fynd i’r afael â phynciau mwy datblygedig fel modelu cymeriadau ac amgylcheddau, gweadu a dylunio rhyngwynebau. Dyma pan fydd eich prosiectau yn dechrau mynd yn fwy cymhleth ac arloesol. Byddwch hefyd yn edrych ar y darlun ehangach gydag astudiaethau cyd-destunol, gan ddeall ochr gymdeithasol a diwylliannol dylunio gemau. Gyda mannau gwaith pwrpasol ar gyfer ein cwrs yn unig, bydd gennych yr amgylchedd perffaith i adael i’ch creadigrwydd a’ch sgiliau technegol ffynnu.
Yn eich blwyddyn olaf, mae’n ymwneud ag arbenigo yn yr hyn rydych chi’n ei garu fwyaf. P’un ai eich bod yn hoff o gelf cymeriadau, modelu amgylcheddol neu rywbeth arall, byddwch eich astudiaethau’n canolbwyntio ar yr hyn rydych chi’n angerddol amdano. Daw’r flwyddyn hon i ben gyda phrosiectau a gyfarwyddir yn bersonol, lle byddwch yn cynhyrchu gwaith o ansawdd proffesiynol sy’n arddangos eich arddull unigryw. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych bortffolio trawiadol a byddwch yn barod i gamu i’r diwydiant gemau.
Course Page Disclaimer
-
The modules outlined above provide examples of what you can expect to learn on this course based on recent academic teaching. We continuously review our courses to ensure quality enhancement and to manage our resources. The precise modules available to you in future years may vary depending on staff availability and research interests, new topics of study, timetabling and student demand. Where your course includes optional modules, these are to provide an element of choice within the course. The availability of optional modules may vary from year to year and will be subject to minimum student numbers being achieved. This means the availability of specific optional modules cannot be guaranteed.
You’ll typically complete 120 credits per year of study on a full-time course. For more information visit our Student Agreement.
tysteb
Visit Us At An Open Day
Get to know us, the place you will call home while studying with us and the experts who lead our courses. Meet current students and hear what they love about studying with us.
Staff
Our People
You will be taught and supported by a wide range of professional staff and teams here to help you get the university experience you are looking for. Our teaching staff were ranked 2nd in Wales for Teaching, Assessment and Feedback and Academic Support (NSS 2024) meaning that the support and feedback you get will help you learn and develop strong academic skills. Our students have placed us 1st in Wales for Learning Opportunities and Student Voice (NSS 2024) meaning that there are a wide range of opportunities available to enhance your studies and that students play an active role in shaping their learning experiences. Our commitment to your learning has seen our students place us as 1st in Wales and joint 3rd in the UK for student satisfaction (Times Higher Education, 2024, ‘Overall Positivity’ measure). Find out more about our academic staff who teach across our courses.
Facilities
Cyfleusterau
Based on our Waterfront Campus our Creative Games Design and Animation & VFX degrees as well as specialised facilities, students have access to a comprehensive library and ample study spaces.
Cwrdd â’n Myfyrwyr
Gwybodaeth allweddol
-
96-112 o Bwyntiau Tariff UCAS, Portffolio a Chyfweliad
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs dan sylw. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio gwaith.
Llwybrau mynediad amgen
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:
-
Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC)
-
Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Diploma Cenedlaethol Uwch (HND)
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Cyfweliad
Rydym yn mwynhau’r broses gyfweld yn fawr, gan ddod i’ch adnabod chi a’ch gwaith, ac rydym yn teimlo mai dyma’r ffordd orau i ddod o hyd i’r myfyrwyr iawn i’n rhaglenni. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod gan ein hymgeiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud y dewis iawn iddyn nhw hefyd.
Portffolio
Gofynnwn i chi ddod â phortffolio o beth gwaith o’r gorffennol ac yn gyfredol. Eich portffolio yw casgliad o’ch gwaith mwyaf cyffrous a chynrychiadol, gan arddangos eich galluoedd creadigol, sgiliau technegol, a gweledigaeth artistig. Mae’n adrodd stori eich taith greadigol, gan roi sylw i’ch arddull, diddordebau, a syniadau unigryw wrth iddyn nhw ddatblygu. Rydym yn dehongli’r term ‘portffolio’ yn eang ac yn hapus i chi wneud yr un peth. Gall hyn gynnwys darnau gorffenedig, gwaith ar ei hanner, llyfrau braslunio, lluniadau, a phrosiectau sy’n parhau i ddatblygu, am fod y rhain yn rhoi cipolwg i ni ar eich proses feddwl a chreadigol. P’un a ydyn nhw mewn fformat ffisegol neu ddigidol, mae’ch portffolio’n gyfle i arddangos eich taith greadigol mewn ffordd sy’n teimlo’n ddilys i chi, gyda phob darn yn rhoi sylw i’ch potensial creadigol a’ch brwdfrydedd dros y rhaglen rydych yn gwneud cais amdani.
Rydym yn deall bod llawer o ymgeiswyr yn parhau i fod ar ganol eu cymwysterau (e.e. Safon Uwch, BTEC, L3, Sylfaen) ac yn datblygu corff o waith, felly nid oes pwysau i bopeth fod wedi’i gwblhau nac yn gaboledig.
-
Cynhelir asesiadau drwy waith cwrs - ysgrifenedig ac ymarferol. Ni fydd unrhyw arholiadau ar y cwrs hwn. Mae myfyrwyr yn cael eu hasesu’n ffurfiannol drwy gydol pob modwl, mae asesu crynodol yn digwydd ar ddiwedd modwl.
Er mwyn cynnal uniondeb academaidd, defnyddir amrywiaeth o strategaethau. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith ymarferol yn cynnwys elfennau ysgrifenedig ffurfiol o ryw fath: popeth o fformat traethawd safonol i bethau megis adroddiadau defnyddioldeb, dogfennau diffinio cynnyrch, ymatebion i bapurau academaidd arloesol neu feirniadaethau ohonynt, cyfnodolion dysgu, cynlluniau busnes, ac ati. Bydd yn rhaid i bob myfyriwr Lefel 6 gwblhau Traethawd Hir.
O L4 ymlaen caiff myfyrwyr eu hasesu’n eang hefyd mewn cyflwyniadau, gan arwain ar L6 at y Prosiect Mawr. Gwelsom fod asesiad llafar (viva voce) yn addas iawn i’r gwaith a wnawn yn yr Ysgol, sydd yn debyg iawn i arfer celf gain ond â sail dechnegol.
-
Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.
Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno mewn gwibdeithiau astudio dewisol, ac argraffu.
Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio a chyfeirio at gyflenwyr priodol os byddwch yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.
Bydd ‘pecyn celf a dylunio’ sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei angen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf. Hefyd, er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch yn dymuno dod â’ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi, felly cysylltwch â ni cyn prynu unrhyw beth.
-
Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac er nad oes unrhyw fodiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs hwn ar hyn o bryd, ym mhob achos gall myfyrwyr gyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig
A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.
-
Gallai graddedigion o’n rhaglen Dylunio Gemau Cyfrifiadurol ddatblygu arbenigedd mewn unrhyw rai o’r cyd-destunau diwydiannol canlynol:
- Gemau ar y We a Dyfeisiau Symudol: dylunydd, artist 2D, artist 3D, cyfarwyddwr prosiect.
- Datblygu Gemau Consol/PC: dylunydd lefel, dylunydd cymeriadau, modelydd cymeriadau, animeiddiwr, artist deunyddiau, artist goleuo, artist bwrdd stori, dylunydd lefel cynorthwyol, modelydd cymeriadau cynorthwyol, cynorthwyydd goleuo, artist gwead cynorthwyol, artist cysyniadau cynorthwyol, dylunydd gemau dan hyfforddiant, modelydd asedau, rhestr cwestiynau ac atebion am y gêm.
- Tŷ Cynhyrchu Animeiddio: dylunydd cymeriadau, modelydd cymeriadau, animeiddiwr, artist deunyddiau, artist goleuo, artist bwrdd stori, cyfarwyddwr prosiect.
- Newyddiadurwr gemau.
Mae myfyrwyr ar y cwrs wedi gweithio ar nifer o gemau sydd wedi’u canmol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gan gynnwys Grand Theft Auto 5, Alien: Isolation, a Lego Star Wars 3. Mae gan y cwrs gysylltiadau â chwmnïau gemau megis:
- EA
- Rockstar North
- Creative Assembly
- Media Molecule
- Traveller’s Tales
- Fusebox Games
- Blizzard