Gwrthdaro, Rhyfel a Chymdeithas (Llawn amser) (BA Anrh)
Mae’r rhaglen hon yn archwilio’r ffyrdd hynod ddiddorol y mae gwrthdaro a rhyfel wedi llunio hanes dynol ac yn parhau i ddylanwadu ar ein byd heddiw. O frwydrau cyfnod yr henfyd i wrthdaro cymhleth yr 21ain Ganrif, mae’r cwrs hwn yn darparu archwiliad cynhwysfawr o’r grymoedd sydd wedi llunio cymdeithasau erioed.
Gan ddefnyddio dull rhyngddisgyblaethol, bydd myfyrwyr yn astudio ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys Hanes yr Henfyd, yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern, Archaeoleg, Treftadaeth, cysylltiadau rhyngwladol, Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac astudiaethau’r Cyfryngau.
Mae hyn yn sicrhau dealltwriaeth gyflawn o’r agweddau niferus ar wrthdaro.
Mae’r cwricwlwm yn cynnwys modiwlau ar wrthdaro hanesyddol a rhyfela mawr ac yn ymestyn i themâu ehangach fel moeseg a gweithredaeth gymdeithasol, gyda phob un yn rhoi profiad dysgu cyfoethog ac amrywiol.
Trwy’r rhaglen radd hon byddwch yn mireinio eich sgiliau dadansoddol a meddwl beirniadol, sy’n hanfodol i’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â diplomyddiaeth, cydweithredu rhyngwladol neu waith Dyngarol.
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i fod yn gydweithredol, gan gynnig llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr gydweithio â chyfoedion a darlithwyr. Mae ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) yn darparu lle deinamig ar gyfer trafodaethau, tasgau a seminarau, gan feithrin cymuned atyniadol a chefnogol.
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd â diddordeb yn hanes a gwleidyddiaeth rhyfela, a’r rhai sy’n angerddol am ddeall cymhlethdodau cymdeithasol a moesegol gwrthdaro, ac atebion sy’n ymwneud â rhai o faterion pwysicaf ein hoes.
Course details
- Saesneg
Undergraduate Fees
Home (Full-time): £9,535 per year
Overseas (Full-time): £15,525 per year
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen BA Gwrthdaro, Rhyfel a Chymdeithas yn cynnig dull integredig o ddysgu, gan gyfuno disgyblaethau academaidd amrywiol i archwilio effaith ddwys gwrthdaro drwy gydol hanes. Rydym yn integreiddio theori ac ymarfer i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i fyfyrwyr o ryfel, ei ddimensiynau moesegol, a’i arwyddocâd wrth lunio cymdeithasau ar hyd yr oesau.
Yn y flwyddyn gyntaf, mae myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth sylfaenol o ryfel a gwrthdaro, gan archwilio eu damcaniaethau, eu moeseg a’u harferion. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau academaidd allweddol ac yn archwilio themâu pŵer ac anghydraddoldeb, gan osod y sylfaen ar gyfer archwilio pellach yn y blynyddoedd dilynol.
Mae’r ail flwyddyn yn ehangu ar gysyniadau sylfaenol, ac yn cynnig ystod eang o fodiwlau i ddewis o’u plith ar draws pynciau gan gynnwys hanes, treftadaeth ac astudiaethau’r cyfryngau.
Yn y flwyddyn olaf, mae myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect traethawd hir manwl sy’n seiliedig ar ymchwil, gan ddangos dealltwriaeth gynhwysfawr o astudiaethau gwrthdaro. Bydd myfyrwyr yn cael eu herio ymhellach i ymwneud yn feirniadol â dimensiynau hanesyddol, gwleidyddol a moesol rhyfel a gwrthdaro trwy fodiwlau dewisol ychwanegol.
Course disclaimer
-
The modules outlined above provide examples of what you can expect to learn on this course based on recent academic teaching. We continuously review our courses to ensure quality enhancement and to manage our resources. The precise modules available to you in future years may vary depending on staff availability and research interests, new topics of study, timetabling and student demand. Where your course includes optional modules, these are to provide an element of choice within the course. The availability of optional modules may vary from year to year and will be subject to minimum student numbers being achieved. This means the availability of specific optional modules cannot be guaranteed.
You’ll typically complete 120 credits per year of study on a full-time course. For more information visit our Student Agreement.
tysteb
Visit Us At An Open Day
Get to know us, the place you will call home while studying with us and the experts who lead our courses. Meet current students and hear what they love about studying with us.
Staff
Our People
You will be taught and supported by a wide range of professional staff and teams here to help you get the university experience you are looking for. Our teaching staff were ranked 2nd in Wales for Teaching, Assessment and Feedback and Academic Support (NSS 2024) meaning that the support and feedback you get will help you learn and develop strong academic skills. Our students have placed us 1st in Wales for Learning Opportunities and Student Voice (NSS 2024) meaning that there are a wide range of opportunities available to enhance your studies and that students play an active role in shaping their learning experiences. Our commitment to your learning has seen our students place us as 1st in Wales and joint 3rd in the UK for student satisfaction (Times Higher Education, 2024, ‘Overall Positivity’ measure). Find out more about our academic staff who teach across our courses.
Gwybodaeth allweddol
-
96-112 o Bwyntiau Tariff UCAS
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith SaesnegOs nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac er nad oes unrhyw fodiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs hwn ar hyn o bryd, ym mhob achos gall myfyrwyr gyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig
A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Yn bennaf, cynhelir asesiadau drwy aseiniadau gwaith cwrs.
-
Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau cysylltiedig ychwanegol.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir mai £20 fydd cost rhwymo’r rhain.
Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig yn seiliedig ar ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.
Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): c. £500 – £1,500
Gwibdeithiau unigol: c. £5 – £50
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Byddwch yn datblygu’ch gallu i ddadansoddi, meddwl yn rhesymegol a dadlau o fewn amgylchedd sy’n eich annog ac sy’n eich cefnogi. Y sgiliau cyfathrebu, dealltwriaeth, dadansoddi a hunanreolaeth fydd yn basbort i chi i gyflogaeth. Gallai’r mathau o waith gynnwys gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu.