Lechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig (Llawn amser) (BSc Anrh)
Mae ein rhaglen BSc Lechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig yn addasu i fyd iechyd a gofal cymdeithasol sy’n newid yn gyflym. Mae’r cwrs hwn yn cynnwys elfennau polisi a sgiliau newydd, gan roi llawer o ddewisiadau i fyfyrwyr mewn amgylchedd sy’n esblygu. Rydym yn canolbwyntio ar iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau plant a phobl ifanc, gan anelu at adeiladu gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cwrdd â nodau pwysig y llywodraeth. Mae hyn yn eich paratoi ar gyfer gweithle sy’n llawn cyfleoedd gwahanol a chyffrous.
Mae’r cwrs hwn yn gymhwyster addysg uwch cydnabyddedig yn y sector iechyd, iechyd digidol a gofal cymdeithasol. Mae’n cynnig astudiaethau blaengar sy’n bwysig i ofalwyr yn y meysydd gofal sylfaenol o fewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil, adfyfyrio a dadansoddi, ochr yn ochr â phwerau rhesymau cryf. Bydd y rhain yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i barhau â’ch astudiaethau a’ch hyfforddiant ar ôl cwblhau’ch gradd.
Gallwch uwchsgilio drwy astudio ar y rhaglen hon, os ydych yn gweithio eisoes fel gweithiwr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn helpu lleihau prinder gweithwyr cymwysedig gyda chymwysterau lefel 4 a 5. Os ydych yn newydd i’r maes, bydd y cwrs yn eich paratoi i ymuno â’r genhedlaeth nesaf o weithwyr, yn barod i ymgymryd â chyflogaeth lwyddiannus yn y sector hwn.
Mae’r cwrs hwn yn sicrhau eich bod wedi’i baratoi’n dda ar gyfer yr amgylchedd cyflogaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwch yn cael y sgiliau a’r wybodaeth i lwyddo a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. P’un a ydych yn anelu at ddechrau eich gyrfa neu ei ddatblygu, mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfleoedd lluosog ac amrywiol.
I grynhoi, mae ein rhaglen yn ymdrin â pholisïau pwysig, datblygu sgiliau allweddol ac yn ffocysu ar gymwysiadau’r byd go iawn yn y sector iechyd. Mae wedi’i gynllunio i’ch helpu i lwyddo mewn amrywiaeth o yrfaoedd o fewn iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwch yn barod ar gyfer amgylchedd cyflogaeth deinameg a chyfnewidiol y maes hanfodol hwn.
Course details
- Saesneg
- Dwyieithog
Undergraduate Fees
Home (Full-time): £9,535 per year
Overseas (Full-time): £15,525 per year
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Rydym yn credu mewn ymagwedd myfyrwyr-canolog, sy’n canolbwyntio ar ddysgu ymarferol a damcaniaethol. Mae ein rhaglen yn anelu at ddatblygu sgiliau adfyfyriol a dadansoddol, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa deinameg mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn cynnig mynediad i sefydliadau allweddol presennol a phobl o fewn y sector iechyd. Yn ogystal, rydym yn darparu cymorth academaidd lefel uchel ar draws yr holl brifysgol i’ch helpu i gryfhau eich sgiliau academaidd.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio sylfeini iechyd a gofal cymdeithasol, gan ffocysu ar gysyniadau allweddol, polisi a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer arfer effeithiol. Byddwch yn astudio cwnsela, cyfathrebu, a pherthynas therapiwtig, seicoleg mewn iechyd a gofal cymdeithasol ac ymddygiad rheoli sefydliadol a digidol, gan eich helpu i gael sylfaen gadarn ar gyfer eich astudiaethau yn y dyfodol.
Mae’r ail flwyddyn yn adeiladau ar eich gwybodaeth gyda phynciau uwch mewn hyrwyddo iechyd, iechyd y cyhoedd ac arferion y sector gofal cymdeithasol. Byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddi drwy ddulliau ymchwil ac arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth a dysgu am ffisioleg yn ogystal â diogelu a chefnogi teuluoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o bolisi iechyd a gofal cymdeithasol a nodau llywodraethol penodol. Byddwch yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth a rheoli yn y sector iechyd, yn ogystal ag iechyd, lles a datblygiad cynaliadwy, gan gymhwyso eich dysgu i broblemau’r byd go iawn drwy brosiect ymchwil annibynnol.
Ymwrthodiad
-
The modules outlined above provide examples of what you can expect to learn on this course based on recent academic teaching. We continuously review our courses to ensure quality enhancement and to manage our resources. The precise modules available to you in future years may vary depending on staff availability and research interests, new topics of study, timetabling and student demand. Where your course includes optional modules, these are to provide an element of choice within the course. The availability of optional modules may vary from year to year and will be subject to minimum student numbers being achieved. This means the availability of specific optional modules cannot be guaranteed.
You’ll typically complete 120 credits per year of study on a full-time course. For more information visit our Student Agreement.
tysteb
Visit Us At An Open Day
Get to know us, the place you will call home while studying with us and the experts who lead our courses. Meet current students and hear what they love about studying with us.
Staff
Our People
You will be taught and supported by a wide range of professional staff and teams here to help you get the university experience you are looking for. Our teaching staff were ranked 2nd in Wales for Teaching, Assessment and Feedback and Academic Support (NSS 2024) meaning that the support and feedback you get will help you learn and develop strong academic skills. Our students have placed us 1st in Wales for Learning Opportunities and Student Voice (NSS 2024) meaning that there are a wide range of opportunities available to enhance your studies and that students play an active role in shaping their learning experiences. Our commitment to your learning has seen our students place us as 1st in Wales and joint 3rd in the UK for student satisfaction (Times Higher Education, 2024, ‘Overall Positivity’ measure). Find out more about our academic staff who teach across our courses.
Gwybodaeth allweddol
-
88-104 o Bwyntiau Tariff UCAS
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.
Llwybrau mynediad amgen
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:
-
‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd.
-
Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Mae’r asesiadau’n cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, blogiau adfyfyriol, trafodaethau beirniadaethau polisi a phortffolios proffesiynol. Gofynnir i chi ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a sgiliau trefnu ar gyfer eich aseiniadau.
-
Oherwydd y modwl ymarfer gwaith yn y rhaglen hon, bydd gofyn i’r myfyrwyr dalu am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
-
Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu Ddwyieithog
Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac mae modiwlau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg naill ai’n llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch yn dewis astudio’ch cwrs naill ai’n llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Mae argaeledd modiwlau cyfrwng Cymraeg yn cael ei adolygu’n rheolaidd a gall amrywio bob blwyddyn yn dibynnu ar staffio, diddordebau ymchwil, amserlenni, galw myfyrwyr, ac isafswm niferoedd cofrestru, felly ni ellir gwarantu modiwlau penodol bob amser, cysylltwch â ni i drafod mwy.
Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig
A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae gennym gymorth cyflogaeth a system profiad gwaith cryf iawn yn y Portffolio Iechyd.
Rydym yn cysylltu a gweithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector a grwpiau i ddarparu cyfleoedd ar gyfer gwaith â thâl a heb tâl ar gyfer myfyrwyr.