Arbenigwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol i rannu mewnwelediadau gwerthfawr a strategaethau i wella arferion ystafell ddosbarth
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynnal Cynhadledd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar 13 Rhagfyr yn Arena Abertawe, gan ddod ag addysgwyr angerddol sy’n ymroddedig i addysgu cynhwysol ynghyd.
Bydd y gynhadledd, a drefnir gan yr Athrofa, Canolfan Addysg y Brifysgol, yn cynnwys siaradwyr gwadd, sy’n arbenigwyr ym maes ADY i rannu mewnwelediadau a strategaethau gwerthfawr i wella arferion ystafell ddosbarth er mwyn cael effaith gadarnhaol ar fywydau disgyblion ag ADY.
Mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn dangos bod 74,661 o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol neu addysgol arbennig mewn ysgolion a gynhelir (15.8% o’r holl ddisgyblion) ym mis Chwefror 2022.
Mae’r gynhadledd yn rhan o raglen datblygiad proffesiynol yr Athrofa ar gyfer athrawon dan hyfforddiant yn y Brifysgol.
Dywedodd Deon Cynorthwyol PCYDDS Anna Brychan: “Mae’r gynhadledd ADY a Lles yn uchafbwynt blynyddol i ni yn PCYDDS. Mae’n cynnig mynediad i’n hathrawon dan hyfforddiant, staff ac ysgolion partner at arbenigedd a thrafodaeth ysgogol gydag arbenigwyr ar draws pob maes Anghenion Dysgu Ychwanegol a Llesiant ehangach. Mae gennym ni gyd-destun polisi cyffrous ac arloesol ar gyfer ADY a Lles yng Nghymru; mae’r gynhadledd hon yn archwilio sut olwg sydd ar hyn yn ymarferol ac yn edrych i weld beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth ein gilydd, beth mae’r ymchwil yn ei ddweud, a sut gallwn ni, gyda’n gilydd, sicrhau ein bod ni’n cynnig y cyfleoedd gorau posibl i ddysgwyr o bob oed a chyfnod.’
Bydd y siaradwyr yn cynnwys Chris Britten, Pennaeth Gweithredol Ysgolion Arbennig Ffederal Bro Morgannwg gan gynnwys Ysgol y Deri a Huw Beynon, Arweinydd Tîm Cymorth Dysgu Cyngor Abertawe.
Bydd panel a ffurfiwyd gan Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas yn rhannu taith Ollie – addysg gydag ADY, mewn ysgol brif ffrwd.
Bydd staff o Amgueddfa Glannau Abertawe a chydweithwyr yn trafod “Gwneud yr Amgueddfa i Bawb.”
Bydd côr o Ysgol Gynradd Christchurch yn dod â’r gynhadledd i ben gyda’u perfformiadau o ffefrynnau’r Nadolig.
Bydd cyfres o weithdai Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu cynnal y diwrnod canlynol ar Gampws Busnes Abertawe PCYDDS, wedi’u teilwra i fynd i’r afael ag ADY yn yr ystafell ddosbarth.
- O strategaethau cynhwysol i gymorth personol i fyfyrwyr, nod y sesiynau dan arweiniad arbenigwyr yw rhoi mewnwelediad gwerthfawr a sgiliau ymarferol i gyfranogwyr.
- Bydd cyfranogwyr yn gallu dewis 4 gweithdy o’r ystod a gynigir gan gynnwys :
- Cipolwg ar yr asiantaeth sy’n cefnogi iechyd meddwl
- Addysgeg sy’n Ymateb i Drawma
- Pecyn cymorth o strategaethau i gefnogi dysgwyr Awtistig yn yr ystafell ddosbarth gynradd
- Deall anawsterau lleferydd ac iaith yn y dosbarth
- Bywyd y tu mewn i UCD – Uned Cyfeirio Disgyblion
- Pwysigrwydd symud cynnar
- Rôl y Cydlynydd ADY mewn ysgolion
- Cefnogi ADY – Safbwynt rhiant
- Cipolwg ar Ddyslecsia
- Anabledd Corfforol a Phlant; safbwynt personol
- Rôl Therapydd Galwedigaethol Plant
- Cyflwyniad i Brosesu Synhwyraidd a sut mae’n effeithio ar ddysgu
- Bywyd ac amseroedd gofalwr ifanc
- Adlewyrchiad gonest o fod yn blentyn yn y system ofal
- Dealltwriaeth o Gyflwr Sbectrwm Awtistig gan Awtistiaeth Cymru.
Nodyn i’r Golygydd
Mae’r Athrofa yn dwyn ynghyd raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon a chymwysterau proffesiynol eraill ar gyfer addysgwyr ym mhob sector o’r system addysg; cyfleoedd a rhaglenni dysgu proffesiynol gydol gyrfa, wedi’u cynllunio gan ddefnyddio ymchwil a chydweithio agos â Llywodraeth Cymru, ysgolion partner; arbenigedd ymchwil addysg, prosiectau, ac arbenigedd; a Chanolfan Adolygu a Dadansoddi Polisi Addysg y Brifysgol (CEPRA).
Mae’r brifysgol yn gweithio’n agos gyda rhwydwaith o fwy na 100 o ysgolion partner ar draws de Cymru, o Sir Benfro i Sir Fynwy.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071