Skip page header and navigation

Lefel 4 SKIP-Cymru

Modwl Datblygu a Chefnogi Datblygiad Corfforol yn ystod Plentyndod Cynnar (20 credyd)

Mae’r cwrs hwn yn datblygu lefel fanwl o ddealltwriaeth o ddatblygiad corfforol plant drwy ymgysylltu â theori a llenyddiaeth i gefnogi cymhwyso’r rhain i arfer.

Mae darparu’r hyfforddiant dros dymor yn caniatáu amser i’w gymhwyso ac i adfyfyrio arno mewn arfer.

Mae asesu drwy ddyddlyfr adfyfyriol yn eich galluogi i gael dirnadaeth fanwl o’r modd y mae’r broses hon yn effeithio ar eich arfer a deilliannau plant.

Mae 3 gweithdy wyneb yn wyneb ar draws y tymor yn rhoi cyfleoedd i weithio gydag arbenigwyr blaenllaw i addasu arfer, mynd i’r afael â heriau penodol yn codi o’ch lleoliadau chi.

Dr Nalda Wainwright sits at a table talking to a group of people.

Beth yw strwythur yr hyfforddiant?

Gweithdai ymarferol:

  • Bydd angen i chi fynychu 3 diwrnod hyfforddi wyneb yn wyneb dros dymor.

Dysgu o Bell:

  • Byddwch yn cwblhau pump awr o theori yn hyblyg ar-lein.

Offer:

  • Er mwyn cael yr effaith fwyaf ar ddatblygiad corfforol plant, mae angen i amrywiaeth o offer priodol fod ar gael iddynt. Gallwn eich cynorthwyo gydag archwiliad o’ch darpariaeth gyfredol.

Asesiad Ymarferol

  • Cyflwynwch dasg ymarferol i gymheiriaid yn ystod diwrnodau hyfforddi wyneb yn wyneb.
  • Cyflwynwch gynllun a thystiolaeth fideo yn cyflwyno sesiwn datblygiad corfforol i grŵp o blant ynghyd â hunanwerthusiad byr.

Asesiad Ysgrifenedig

  • Ysgrifennwch ddyddlyfr adfyfyriol sy’n cysylltu theori â’ch arfer.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn wedi’i deilwra?

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at athrawon/gweithwyr proffesiynol sydd…

  •  gradd
  • Yn gweithio gyda phlant i adfyfyrio ar weithredu
  • Yn cynllunio neu’n rheoli rhaglenni datblygiad corfforol (dosbarth cyfan neu grŵp cymunedol).

Dyddiadau Dechrau a Chostau

Pryd gallaf ddechrau?

I gael gwybod am ddyddiadau cyrsiau ac i gadw lle ar gwrs, anfonwch e-bost at kirsty.edwards@pcydds.ac.uk.

Faint mae’r hyfforddiant yn costio?

Mae’r cwrs SKIP-Cymru Lefel 4 yn costio £500 y pen. Rydym yn cynnig gostyngiadau am nifer o fwciadau.