Skip page header and navigation

Llety yng Nghaerdydd

Os ydych yn bwriadu byw oddi cartref tra byddwch yn y brifysgol, mae’n debyg bod llety sydd ar frig eich rhestr o ystyriaethau. Mae poblogaeth enfawr o fyfyrwyr yn byw yng Nghaerdydd, ac felly bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn rhoi digon o ddewis i chi.

Darperir llety yng Nghaerdydd gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich tywys drwy eich opsiynau a chynnig cefnogaeth i chi trwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr gyda ni.

Bydd myfyrwyr sy’n aros mewn llety nad yw’n eiddo i’r brifysgol yn dal i allu defnyddio gwasanaethau fel y tîm iechyd meddwl, cyngor ariannol a mwy.

Bydd y swyddfa lety ar gael i gefnogi a rhoi cyngor ynghylch ble mae myfyrwyr PCYDDS yn aros er mwyn i chi allu bod o gwmpas myfyrwyr sy’n astudio gyda ni.

Watch our Cardiff Student Living video

Beth sydd gan Lety Preifat Caerdydd i'w gynnig

01
Mae fflatiau stiwdio a fflatiau clwstwr gydag ystafelloedd gwely en-suite ar gael ledled y ddinas, sy'n golygu bod digon o opsiynau i ddewis ohonyn nhw.
02
Mae llawer o ddarparwyr yn cynnig ystafelloedd sinema, bariau, lle i storio beiciau a mannau astudio cymunedol.
03
Mae biliau cyfleustodau a WI-FI wedi’u cynnwys.
04
Diogelwch 24 awr.
05
Hunanarlwyo.
06
Mae rhai darparwyr yn gofyn am flaendal, tra bod eraill ddim.