Skip page header and navigation

Casgliadau Arbennig ac Archifau

Mae ein Casgliadau Arbennig yn cynnwys llyfrau printiedig, a llawysgrifau ac archifau hynaf y Brifysgol. 

Mae’r Casgliadau Arbennig yn cynnwys dros 35,000 o weithiau printiedig, 8 llawysgrif o’r canoloesoedd, tua 100 o lawysgrifau o’r cyfnod ôl-ganoloesol a 69 incwnabwla.

Mae’r deunydd sydd yn yr Archifau yn cynnwys archif sefydliadol Coleg Dewi Sant, yn ddiweddarach Prifysgol Cymru Llambed, Coleg y Drindod Caerfyrddin, Prifysgol Fetropolitan Abertawe, a’r colegau cyfansoddol, pob un ohonynt yn aelod cyfansoddol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Chwilio Ein Casgliadau

Chwilio ein casgliadau


Chwiliad Uwch

Ein Casgliadau

St Davids College

Yn 1807 cyhoeddwyd y derbynnid â diolch unrhyw gyfraniadau tuag at goleg newydd Dewi Sant. 

Cyfrannwyd y llyfrau cyntaf yn 1809 gan amrywiol gyfeillion y coleg newydd ac fe’u storiwyd ym Mhalas yr Esgob yn Abergwili tan 1827 pan oedd ystafell y llyfrgell yn barod. Ymddengys bod rhyw bedair mil o gyfrolau. Printiwyd y catalog cyntaf o’r casgliadau yn 1836.

Hen lyfrau ar fwrdd

Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen

Mae Llyfrgell ac Archif Roderic Bowen (LlARB) yn cadw Casgliadau Arbennig, sef llyfrau, llawysgrifau ac archifau hynaf y Brifysgol a hi yw un o brif adnoddau ymchwil academaidd Cymru.

Wedi’u caffael dros y 200 mlynedd ddiwethaf, yn bennaf trwy gymynroddion a chyfraniadau, mae’r Casgliadau Arbennig yn cynnwys dros 35,000 darn o waith argraffedig, wyth llawysgrif canoloesol, tua 100 o lawysgrifau ôl-canoloesol, a 69 incwnabwla. Mae deunydd yr Archifau’n cynnwys cofrestri myfyrwyr cynnar a ffotograffau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen.

Amseroedd Agor: Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, Campws Llambed, SA48 7ED

Dydd Llun i ddydd Gwener: 9:30am-1pm a 2pm-4.30pm
I osgoi cael eich siomi, awgrymwn eich bod yn cynllunio eich ymweliad ymlaen llaw. 

Yn ei ewyllys gadawodd yr Esgob Thomas Burgess (1756-1837) ei lyfrgell bersonol o tua 9 000 o gyfrolau i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Casgliad gwaith ydyw yn bennaf a gynullwyd yn ystod oes o ymroi i astudio’r clasuron, llenyddiaeth, hanes, hynafiaethau a diwinyddiaeth, ac mae llawer o’r gweithiau wedi’u hanodi gan Burgess ac felly'n cynnig cipolwg ar ei ddiddordebau ysgolheigaidd a diwinyddol.

page from the Boddam Book of Hours

Cnewyllyn Casgliad Traethodynnau Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen yw Casgliad Traethodynnau Bowdler o dros 9,000 o bamffledi. Daeth y casgliad i Lambed yn fuan wedi marwolaeth Dr Thomas Bowdler (1754-1825),  a oedd yn fwy adnabyddus fel puredigwr neu ‘bowdlereiddiwr’ Shakespeare (1818). Nid Dr Thomas Bowdler ei hun oedd casglwr pamffledi "Bowdler”, ond ef oedd perchennog olaf casgliad teuluol a ymestynnai’n ôl dros dair genhedlaeth flaenorol o gasgliadau Bowdler at drothwy’r Rhyfel Cartref (tua 1638). Daeth rhyw 150 o flynyddoedd o gasglu pellach i ben yn 1785 gyda marwolaeth Thomas Bowdler III (1706-85) o Ashley, ger Caerfaddon.

Page from a ephemeral publication

Er iddo gael ei eni yn Llundain, gŵr o Sir Faesyfed oedd Phillips.  Daeth yn llawfeddyg a gyflogid gan yr East India Company, gan wneud ffortiwn sylweddol yn dilyn blynyddoedd lawer yn gwasanaethu yn India. Ar ôl ymddeol i Lundain yn 1817, neilltuodd weddill ei fywyd i hybu addysg yng Nghymru.

Image of a trading ship

Mae Casgliad Ystrad Meurig yn cynnwys tua chwe chant o eitemau o gyn-lyfrgell ysgol a phlwyf Coleg Sant Ioan (1757-1974) a sefydlwyd gan Edward Richard (1714-77), y mae tua 320 o lyfrau o’i lyfrgell wedi goroesi. Mae’r Casgliad yn cwmpasu ystod eang o bynciau yn y dyniaethau a diwinyddiaeth, yn bennaf yn Lladin a Saesneg, o’r 17eg i’r 19eg ganrif. Mae uchafbwyntiau’r Casgliad yn cynnwys Dictionary of the English Language gan Samuel Johnson, Dictionary Pierre Bayle, a Leviathan Thomas Hobbes.

Leviathan, Thomas Hobbes
Portread o Alister Hardy

Canolfan Ymchwil Profiad Crefyddol Alister Hardy

Mae Canolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol yn meddu ar archif sydd â thua 6,000 o gofnodion o brofiadau ysbrydol uniongyrchol a anfonwyd i’r ganolfan ers ei sefydlu ym 1969.   Mae’r gronfa ddata hon wedi bod ar gael ar-lein ac mae gan aelodau Ymddiriedolaeth Alister Hardy fynediad iddi. Ewch i’r gronfa ddata yma.

Fe’i sefydlwyd gan Syr Alister Hardy ym 1969 yng Ngholeg Manceinion, Rhydychen, cyn ei symud i Lambed ym mis Gorffennaf 2000. Nod y Ganolfan yw astudio adroddiadau cyfoes am brofiadau crefyddol neu ysbrydol. Yn ogystal â’i harchif o adroddiadau mae’r Ganolfan Ymchwil Profiad Crefyddol yn gartref i gasgliad arbenigol o lyfrau a chyfnodolion.

Cysylltwch â Chanolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol
Cofiwch fod yr holl ddeunydd a gedwir yn y gronfa ddata yn gwbl gyfrinachol ac yn amodol ar hawlfraint, a rhaid cael caniatâd ysgrifenedig gan Ganolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol er mwyn defnyddio hyn yn bersonol, yn academaidd neu trwy allfeydd y cyfryngau.  Bydd rhaid cael cydnabyddiaeth lawn mewn unrhyw gyhoeddiad.

  • Mae’r Ganolfan yn trefnu cysylltiadau, ac yn cefnogi gradd Meistr ôl-raddedig trwy Ymchwil (Mres) mewn Profiad Crefyddol.

    Mae’r MRes mewn Profiadau Crefyddol yn cael ei chefnogi gan fwrsariaeth seiliedig ar angen a gyllidir gan Ymddiriedolaeth Alister Hardy.

Casgliad Treftadaeth Jazz Cymru 

Casgliad Treftadaeth Jazz Cymru yw’r archif jazz amlgyfrwng hynaf yn y DU. 

Fe’i sefydlwyd gan yr Athro Jen Wilson yn 1986 ac fe symudodd y Casgliad i’r Brifysgol yn 2008. Mae’n cynnwys llyfrgell o gylchgronau a chyfnodolion; recordiadau’n cynnwys rhai ar 78, EP, LP, CD, DVD, VHS a chwaraewyr cerddoriaeth; recordiadau a chwaraeydd ril-i-ril, ffotograffau, Hanesion Llafar a Gwisgoedd Llwyfan unigryw, gyda’r rhai cynharaf yn dyddio o 1900. Mae Paneli Arddangosfeydd Teithiol hefyd yn rhan 

Mwy o wybodaeth am ein casgliadau arbennig.

Rows of books from the Special Collection archives

Darganfyddwch ychydig mwy am yr hyn sy’n gwneud ein casgliadau arbennig mor arbennig. Darganfyddwch werth ein casgliadau arbennig a sut i’w defnyddio, y math o eitemau sy’n rhan o’r casgliad, a’r ffynonellau gwreiddiol sydd ar gael. 

Hen lyfr o'r Casgliadau Arbennig

Casgliadau Arbennig yw’r casgliadau hynny o lyfrau, archifau a llawysgrifau sy’n cael eu hystyried yn ddigon pwysig (neu arbennig) i’w gwarchod ar gyfer pobl yn y dyfodol.

Gall llyfrau ac archifau sy’n cael eu cadw mewn casgliadau arbennig fod yn brin neu hyd yn oed yn unigryw, yn werthfawr iawn yn ariannol ac o bosibl yn fregus iawn. Maen nhw’n aml yn hen iawn - mae’r llawysgrif hynaf yn ein casgliadau yn dyddio yn ôl i 1200!

Golyga hyn ein bod yn eu cadw mewn amgylchedd sy’n cael ei reoli, lle mae golau, tymheredd a lleithder yn cael eu monitro’n agos.

Ond, mae ein casgliadau ar gael i bawb eu harchwilio!

Rydyn ni’n croesawu ymwelwyr, ac yn gweithio gyda darlithwyr i ymgorffori Casgliadau Arbennig yn eu haddysgu ac i gefnogi dysgu myfyrwyr.

Rows of books from the Special Collection archives

Mae ein Casgliadau Arbennig yn rhoi mynediad i chi i gyfoeth o ffynonellau gwreiddiol.

Ffynonellau cynradd yw deunyddiau crai hanes. Maen nhw’n darparu tystiolaeth uniongyrchol o ddigwyddiadau, gwrthrychau, pobl neu weithiau celf. 

Maen nhw’n cynnwys dyddiaduron, hunangofiannau, pamffledi, ffotograffau, llyfrau cofnodion a phapurau newydd.​

Mae ffynonellau cynradd yn bwysig am eu bod yn eich galluogi i gael gwell dealltwriaeth o ddigwyddiadau hanesyddol.

Silffoedd llyfrau ar gyfer archifau’r Casgliadau Arbennig​

Mae ein Casgliadau Arbennig wedi dod o dair prif ffynhonnell:

  • Student handling an old book

    Thomas Burgess, esgob Tyddewi ac yna Gaersallog, oedd sylfaenydd y coleg yn Llambed.

    Gadawodd ei lyfrgell o tua 9,000 o lyfrau i’r coleg ifanc. Mae’n llyfrgell waith o’r pynciau yr oedd yn eu mwynhau, yn enwedig y clasuron, llenyddiaeth a diwinyddiaeth. Roedd ganddo ddiddordeb arbennig yng ngwaith Aristotle, Milton, ac yn yr iaith Hebraeg.

  • Students standing over book

    Ym mlynyddoedd cynnar Coleg Dewi Sant, Thomas Phillips oedd ei gymwynaswr mwyaf. 

    Roedd wedi bod yn llawfeddyg yn yr East India Company, ac fe ddaeth yn gyfoethog. Dechreuodd brynu llyfrau i’w rhoi i lyfrgelloedd. Yn India, roedd wedi rhoi llyfrau i ystafelloedd cyffredin milwyr.

    Ar ddechrau’r 1830au, pan oedd eisoes mewn cryn oed, ymwelodd â Llambed. Wnaeth y llyfrgell fawr o argraff arno, ac aeth ati i’w gwella. Dros weddill ei oes hir, rhoddodd 22,500 o lyfrau i ni mewn 59 rhan. Nid eiddo o’i gasgliad ei hun oedd y rhain; roedd yn prynu llyfrau yn unswydd i’w rhoi i lyfrgelloedd, yn ymwneud ag ystod eang o bynciau.

    Ymhlith ei roddion roedd chwe llawysgrif ganoloesol, gan gynnwys dau Lyfr Oriau, a thua hanner cant incwnabwla. Mae yna hefyd argraffiad cyntaf o Gulliver’s Travels, ynghyd â detholiadau gwych o hanes natur a theithio.

  • Interior of temple of Jupiter

    Roedd aelodau diweddarach y teulu Bowdler yn ddrwg-enwog am eu bod wedi cyhoeddi The Family Shakespeare oedd wedi’i sensro. 

    Fodd bynnag, roedd tri aelod cynharach o’r teulu, pob un o’r enw Thomas Bowdler, wedi casglu casgliad enfawr o tua 9,000 o draethodynnau, a ddaeth i Lambed yn fuan wedi marwolaeth Thomas Bowdler IV yn 1825.

    Mae’r rhai cynharaf yn dyddio o 1638, ychydig cyn y Rhyfel Cartref, a daw’r diweddaraf o 1785.

Vault doors for the Special Collections archives

Beth sydd yn y Casgliadau Arbennig?

Mae ein Casgliadau Arbennig yn cadw’r archifau a gynhyrchwyd gan Goleg Dewi Sant, Llambed, a Choleg y Drindod, Caerfyrddin, yn ogystal ag ychydig o ddeunydd sy’n gysylltiedig ag Ysgol Coleg Dewi Sant a’r Ysgol Ramadeg yn Ystrad Meurig. 

Dyma’r ffynonellau ar gyfer unrhyw un sy’n gwneud ymchwil hanesyddol ar PCYDDS.

Students working on a library project

Mae ein myfyrwyr yn aml yn gweithio ar brosiectau sy’n gofyn iddyn nhw ymchwilio ein harchifau.

Er enghraifft:

  • Defnyddiodd un grŵp o fyfyrwyr nifer o ddeunyddiau o’r archif – fel cofrestrau tiwtoriaid, cofnodion coleg, cylchgronau coleg, cofnodion o dimau chwaraeon, hen ffotograffau – i ysgrifennu bywgraffiadau gwahanol fyfyrwyr Llambed a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
  • Yn ddiweddarach, buom yn cefnogi grŵp arall o fyfyrwyr a ymchwiliodd i hanes derbyn myfyrwyr benywaidd i Goleg Dewi Sant. Yna cafodd eu gwaith ei arddangos yn Llyfrgell Llambed.
Virgin and child manuscript

Ystyr llythrennol y gair llawysgrif yw ‘wedi ei ysgrifennu â llaw.’ Mae’n cynnwys popeth a wnaed cyn i argraffu gael ei ddyfeisio a phopeth a gynhyrchwyd yn ddiweddarach na chafodd ei fasgynhyrchu. Mae hefyd yn cyfeirio at gopi gwreiddiol yr awdur.

Mae gennym 8 llawysgrif ganoloesol, rhai ohonyn nhw’n ddigon plaen, a rhai ohonyn nhw’n wirioneddol hardd.

  • Spread from the Monk's Blood Manuscript

    Yr hynaf, yn ogystal â’r enwocaf, yw’r un a elwir yn llawysgrif Gwaed y Mynach.  Nid yw’n gyflawn ac mae staeniau eithaf gwael arni mewn ambell ran. 

    Dangoswyd y llawysgrif hon i George Borrow, awdur Wild Wales, pan fu’n ymweld â Choleg Dewi Sant. Ailadroddodd stori, sy’n sicr yn anwir, bod y llawysgrif wedi dod o’r abaty cynnar ym Mangor Is-coed yng ngogledd ddwyrain Cymru. Dywedir bod gwaed wedi staenio’r llawysgrif pan laddodd y Sacsoniaid y mynachod yno. Fodd bynnag, roedd yr awdur yn fyw rhyw 500 mlynedd yn ddiweddarach na hynny ac mae’n fwy tebygol mai gwin yw’r staen!

    Wedi dweud hynny, mae’r llawysgrif yn ddiddorol iawn mewn ffyrdd eraill. Cafodd ei ysgrifennu pan oedd pobl yn dechrau sylweddoli y gallech chi ddefnyddio trefn yr wyddor i drefnu gwybodaeth ac yna’i ddefnyddio fel ffordd hwylus i ddod o hyd i bethau.  Golyga hyn bod y llawysgrif yn un o gyndeidiau pob geiriadur a gwyddoniadur papur.

  • page from the Boddam Book of Hours

    Mae Llyfr Oriau Boddam yn ddarn arwyddocaol yng Nghasgliadau Arbennig PCYDDS.  Cafodd ei gynhyrchu yn Normandi yn ail hanner y 15fed ganrif.

    Mae’n debygol ei fod yn cynnwys portread o’r perchennog cyntaf, boneddiges o bosibl, ochr yn ochr â darlun o’r Forwyn Fair yn dysgu’r baban Iesu i ddarllen.

    Mae yna gamgymeriad penodol hefyd, sydd, mae’n debyg, yn unigryw i’r Llyfr Oriau hwn. Yn y darlun o’r tri brenin, mae un goron yn ormod! Mae’r hynaf o’r brenhinoedd wedi rhoi ei goron ar y llawr yn deyrnged i’r baban, ond mae’n dal i wisgo coron arall!

  • Page from the HMS Elizabeth logbook

    Mae dyddlyfr HMS Elizabeth yn enghraifft fwy diweddar o ddeunydd wedi’i ysgrifennu â llaw. Cafodd ei ysgrifennu gan swyddog llynges dienw tra’n gwasanaethu yn India ar ganol y 18fed ganrif.

    Mae’n rhoi adroddiad llygad-dyst o Frwydr Pondicherry, rhwng Prydain a Ffrainc. Mae ein dyddlyfr hefyd yn rhestru pawb a gollwyd ar HMS Elizabeth. I gryn raddau nododd y frwydr, a gafodd ei hymladd ger dinas fodern Chennai, ddiwedd grym Ffrainc yn India.

    Mae’n ddogfen amhrisiadwy i unrhyw un sy’n ymchwilio i hanes morwrol neu hanes Prydeinwyr yn India.

  • Page from a ephemeral publication

    Mae gennym gasgliad enfawr o draethodynnau o’r 17eg a’r 18fed ganrif, y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi’u casglu gan aelodau’r teulu Bowler.

    Gan fod traethodynnau’n fyr a bod modd eu cynhyrchu’n rhad, argraffwyd niferoedd anferthol ohonynt. Roedd pob un yn ymdrin ag un pwnc ac yn mynd i’r afael â phopeth a ddigwyddodd. Os oedd rhywun yn teimlo’n gryf iawn am unrhyw beth, gallai’r person hwnnw, neu honno o bryd i’w gilydd, argraffu, cyhoeddi a dosbarthu’r farn honno.

    Dyluniwyd traethodynnau i fod yn fyrhoedlog a bydden nhw wedi bod yn anodd eu rheoli. Mae’r rhai sy’n rhan o’n casgliad ni’n cwmpasu ystod anhygoel o ddeunydd. Mae llawer ohonyn nhw’n grefyddol – ond ddim i gyd o bell ffordd. Mae gennym ddeunydd gwleidyddol, cymdeithasol, llenyddol a diwylliannol hefyd.

    Os ydych chi eisiau gwybod unrhyw beth o gwbl am fywyd yn yr 17eg neu’r 18fed ganrif, dyma’r lle i edrych!

  • Map of Japan

    Roedd astroleg yn hynod o boblogaidd yn yr 17eg ganrif, ac un o’r astrolegwyr mwyaf poblogaidd oedd dyn o’r enw John Partridge.

    Cynhyrchodd Jonathan Swift, sy’n fwy adnabyddus am ei nofel Gulliver’s Travels, draethodyn yn proffwydo marwolaeth John Partridge. Yna, cyhoeddodd draethodyn arall yn dweud bod y broffwydoliaeth wedi dod yn wir. Roedd John Partridge wedi marw. Cafodd Partridge drafferth perswadio pobl ei fod yn dal yn fyw!  Fe wnaeth jôc Swift ddwyn tipyn o anfri ar astroleg ymhlith y rhai mwy addysgedig.

    Gan fod gennym yr holl draethodynnau a gynhyrchwyd, mae’n gymharol rwydd gweithio allan yr holl wahanol fathau o astroleg, a sut y bu iddi golli ei phoblogrwydd.