Skip page header and navigation

Iechyd a Lles yn yr Awyr Agored

Cyflwyniad

Gan weithio o’r syniad bod symud a bod ym myd natur yn cefnogi ein hiechyd a’n lles ac yn defnyddio dros 30 mlynedd o addysgu ac arbenigedd addysg awyr agored yn Y Drindod Dewi Sant, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid yn datblygu ffocws ar iechyd a lles yn yr awyr agored.

I ddysgu rhagor am y gwaith hwn neu astudio’r MA Addysg Awyr Agored ac ymchwil ôl-raddedig, cysylltwch â Dr Andy Williams yn a.williams@pcydds.ac.uk.

Profiadau Awyr Agored

Yn Hyb Iechyd Gwyrdd Cynefin, rydyn ni’n gweithio gyda'n cymuned leol yn Sir Gaerfyrddin i wella iechyd a lles. Rydyn ni’n cynnal gweithgareddau a digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i adeiladu cysylltiad pobl â'r byd naturiol, megis teithiau cerdded synhwyraidd a gwneud tân ymhlith llawer o bethau eraill.

A man and two women build a fire in a metal bowl using twigs.

Rydym yn cynnig ysgolion haf i fyfyrwyr rhyngwladol, gan ddod â’r cyfle i fynd ar anturiau yn amgylcheddau hardd De Orllewin Cymru ynghyd ag ymweliadau a phrofiadau diwylliannol. Gellir teilwra ein hysgolion haf o gwmpas anghenion y cyfranogwyr. Dysgwch ragor....

A small group of smiling young people sit on the flank of Pen Y Fan, the green fields of Powys far below them.