Skip page header and navigation

Mae Adran Gwneud Printiadau Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant yn cynnal Arddangosfa Diptych, prosiect cydweithredol rhyngwladol rhwng Sarah Hopkins, Gwneuthurwr Printiadau o Abertawe ac Atif Khan o Bacistan.

Yng nghwmni aelodau’r teulu, mae Sarah Hopkins a Muhammad Atif Khan yn gwenu o flaen eu printiau Diptych.

Mae’r cydweithio wedi bod ar ffurf casgliad o 16  brintiau diptych sydd â nifer cyfyngedig o argraffiadau. Trwy gydol 2022, gweithiodd Sarah ac Atif yn annibynnol ar gyfres o brintiau a’u cyfnewid nhw drwy negesydd er mwyn i’r naill gwblhau gwaith y llall.

Meddai Sarah: “Roedd meddwl am weithio ar ben ein delweddau ein gilydd yn teimlo braidd yn frawychus, ond cafodd y ddau ohonom gymaint o fwynhad o’r broses ac roedd rhai o’r canlyniadau’r ddigon annisgwyl. Mae pob print gorffenedig yn adrodd ei stori ei hun ac yn gyfuniad unigryw o eirfa weledol gan gyfeirio at ein diwylliannau a’n treftadaeth ein hunain.”

Ychwanegodd: “Bu’n fraint ymweld ag Atif ym Mhacistan ynghynt y flwyddyn hon, ac i fynychu digwyddiad agoriadol Diptych yn oriel O Art Space, Lahore. Hefyd, bu’n hyfryd ei groesawu i Abertawe ar gyfer lansiad yr un arddangosfa yn Stiwdio Griffith.”

Caiff y prosiect, a ddyluniwyd gan Sarah, ei gefnogi gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Yr Arddangosfa gydweithredol yw’r cyntaf o brosiect dwy ran y mae’r Drindod Dewi Sant yn gyffrous i fod yn ran ohono.

Bydd y cam nesaf yn cynnwys prosiect ar y cyd rhwng myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant a myfyrwyr gwneud printiadau ym Mhacistan.

Mae Arddangosfa Diptych ar agor yn ystod yr wythnos, 9am - 5pm tan ddydd Gwener 3ydd Mawrth yn Stiwdio Griffith, Campws Dinefwr, Y Drindod Dewi Sant.

Nodyn i’r Golygydd

Mae’r adran Gwneud Printiadau yng Ngholeg Celf Abertawe, Y Drindod Dewi Sant, yn dîm o 4 person sy’n darparu gweithdai a chymorth mewn amrywiaeth eang o brosesau print y cynnwys Argraffwaith, Risograff, Printio sgrin, Intaglio a Cherfwedd. Mae’r adran gwneud printiadau yn hygyrch i bawb sy’n astudio yng Ngholeg Celf Abertawe, ac rydym yn annog syniadau mawr ac arbrofi trwy wneud printiadau.

Ceir gwybodaeth am y Prosiect ar wefan Sarah Hopkins.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau