Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr o gwrs BA Perfformio Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen i lwyfannu cynhyrchiad o ‘Amadeus’

Poster o’r cynhyrchiad llwyfan Amadeus gan Peter Shafter.

Bydd ‘Amadeus’ yn cael ei berfformio ar Fai 25ain a’r 26ain yng Nghanolfan yr Urdd, Caerdydd.

Yn ystod y cynhyrchiad, mae’r cyfansoddwr rhyfeddol Amadeus Mozart yn benderfynol o ddenu sylw ac mae’n llwyddo syfrdanu cyfansoddwr y llys, Salieri,  gyda’i dalent anghygoel. Yn nwylo yntau mae’r pŵer i ddyrchafu Mozart neu ei ddinistrio. Ond mae cenfigen Salieri yn ei orchfygu ac mae’n cychwyn brwydr yn ei erbyn, gyda cherddoriaeth ac yn y pen draw gyda Duw. Bydd myfyrwyr BA Perfformio yn cyflwyno’r ddrama dan gyfarwyddyd amryddawn Siôn Pritchard.  

Dywedodd Siôn:

“Mae Amadeus yn ddrama hynod a chyffrous sy’n archwilio ein tueddiadau dynol tywyllaf. A hynny drwy brism bywyd, marwolaeth, a gallu unigryw Wolfgang Amadeus Mozart.

“Rwy’n edrych ymlaen yn arw i weithio gyda thalent brwdfrydig Y Drindod Dewi Sant i archwilio y gwaith arobryn yma.”

Mae Fflur Davies, myfyriwr o’r cwrs BA Perfformio yn edrych ymlaen at berfformio ‘Amadeus’.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i berfformio’r ddrama arbennig yma gyda fy nghyd-fyfyrwyr. Mae’n ddrama heriol yn ieithyddol ond rwy’n edrych ymlaen at yr her. Mae Salieri yn uchel ei barch ond yn berson slei iawn.  Mae’n mynd i fod yn hwyl chwarae cymeriad sydd a personoliaeth cymhleth a lliwgar.”

Ychwanegodd y darlithydd Elen Bowman:

“Mae’n braf iawn croesawu Siôn Pritchard atom i gyfarwyddo cyfieithiad cyfoethog Ken Owen a gafodd ei berfformio yn Theatr Gwynedd rhai blynyddoedd yn ôl. Mae’r myfyrwyr yn mwynhau ymchwilio hanes y stori ac yn edrych ymlaen at gyflwyniad bachog a doniol.”

Os ydych chi’n dymuno mynd i weld ‘Amadeus’, archebwch eich tocynnau yma: Amadeus at Neuadd yr Urdd event tickets from TicketSource


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau