Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr Blwyddyn 2 a 3 o’r cwrs BA Crefftau Dylunio yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant newydd gymryd rhan mewn prosiect byw cyffrous sy’n gysylltiedig â’r Gymdeithas Gemwaith Cyfoes (ACJ), Oriel Mission Abertawe a’r Cyngor Crefftau (sy’n noddwr addysg ar gyfer arddangosfa deithiol ACJ).

Llun agos o fodrwy geramig fawr wen a glas wedi’i dylunio gan Zach Dunlap.

Ymatebodd myfyrwyr i friff gan ACJ i greu darn o emwaith (ar ystyr ehangaf y gair) mewn ymateb uniongyrchol i’w harddangosfa deithiol ‘Ystyron a Negeseuon’ a ymddangosodd ddiwedd llynedd yn Oriel Mission. Roedd staff a myfyrwyr Dylunio Crefftau yn rhan o sefydlu’r sioe a arweiniodd at y cyfle cyffrous hwn hefyd i’w gyd-feirniadu gan Stephanie Jong o’r ACJ, Oriel Mission a’r Cyngor Crefftau, sydd wedi symud yn ddiweddar i ymuno â’r tîm yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Meddai Darlithydd BA Crefftau Dylunio yn Y Drindod Dewi Sant, Anna Lewis:

“Yma yng Nghrefftau Dylunio rydym bob amser yn cynnwys prosiectau byw ym mlwyddyn 2 a 3 i wella’r profiad o ddysgu myfyrwyr ac adeiladu cysylltiadau allanol a sgiliau proffesiynol. Eleni yw ein prosiect mwyaf eto ac mae’n gyfle mor gyffrous i’r cwrs weithio gyda chyrff crefft a gemwaith o bwys sy’n enwog yn rhyngwladol.

“Roedd y myfyrwyr wrth eu boddau â’r prosiect ac fe gawsom ystod eang iawn o ymatebion mewn deunyddiau fel gwydr, cerameg, metel, ffabrig, pren, resin, enamel a chregyn. Roedd myfyrwyr wir yn gwthio’r dehongliad o’r hyn y gallai gemwaith fod mewn gwerth a deunydd mewn gwirionedd ond hefyd graddfa a’i berthynas â’r corff. Fel tîm, roeddem mor falch o’r holl ymatebion gan y myfyrwyr a’u gwaith caled, ac yn ddiolchgar i’n tri beirniad allanol am eu cefnogaeth anhygoel.”

Enillydd y gystadleuaeth gyffredinol oedd Zach Dunlap o’r 3edd flwyddyn am ei fodrwyau cerameg a grisialog, ac yn ail roedd Molly Ashton am ei chyfres o ddarnau o cregyn a gwydr i’r corff.

Meddai enillydd y wobr gyntaf, Zach Dunlap, sy’n grochenydd arbrofol:

“Ces i gymaint o sioc ac roeddwn i’n hapus i ennill. Roeddwn yn teimlo’n ddi-hyder yn cynhyrchu gemwaith gan fy mod yn canolbwyntio ar serameg ond roeddwn i wrth fy modd gyda’r her o wneud ar raddfa lai ac ystyried sut y gallai’r darnau fod yn wisgadwy. Roeddwn i am fy herio fy hun i fod yn arloesol drwy ddefnyddio effeithiau gwydr a chrisial gan ddefnyddio gyriannau caled gwastraff. Bob blwyddyn yn y DU yn unig, caiff 13 miliwn o yriannau caled eu datgomisiynu a’u dinistrio. Mae’r ddysgl (disg sgleiniog) wedi’i wneud mewn gwirionedd o gyfuniad o silica, cobalt a magnesiwm ymhlith gwahanol fetelau daear prin eraill. Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, darganfyddais i fan ymdoddi/pwynt oeri sefydlog a fyddai’n arwain at y defnydd mwyaf gweladwy ddeniadol o’r ddisg hon.

“Drwy ddefnyddio deunydd gwastraff darfodedig wedi ei wrthgyferbynnu â phorslen, mae’r modrwyau’n ymwneud â’r ymgorfforiad corfforol o atgofion a’u defnyddio i addurno’r corff. Heb os, byddai’r disgiau caled hyn ar un adeg wedi cynnwys lluniau gwyliau di-ri, porn, data busnes, manylion sensitif, cyfathrebu rhwng pobl, CV’s, fideos neu gerddoriaeth. Bellach mae’r cof wedi’i ymgorffori yn y gemwaith. Mae’r prosesau a wnes i ymchwilio yma dwi’n eu defnyddio i wthio fy arbrofi gwydrog ond ar raddfa eang ar gyfer fy sioe gradd, dyma’r sylw i fanylion mewn gemwaith a fydd yn dylanwadu arna i yn y stiwdio serameg. Bydd y cyngor proffesiynol rwy’n ei dderbyn trwy hyn yn amhrisiadwy gan fy mod ar fin dechrau fy musnes fy hun pan fyddaf yn graddio.”

Llun agos o dair modrwy geramig  wedi’u dylunio gan Zach Dunlap; mae dwy yn wyn a glas, ac un yn wyrdd.

Gwnaeth y beirniaid sylwadau ar ddeunydd pwnc pwysig Zach, archwilio ac arloesi materol rhagorol drwy serameg – a chanlyniad yr un mor brydferth pan wisgir rhwng y bysedd.

oedd Molly Ashton yn ail agos ac roedd y beirniaid yn myfyrio ar ei harbrawf materol arloesol gyda chregyn a gwydr yn creu ffurf a chysgod hardd. Maent yn cwmpasu cylch bywyd “bregusrwydd, parhad, haenau, sensitif ac organig”.

Model yn gwisgo penaddurn o gragen gwyrddlas golau a gwydr, wedi’i ddylunio gan Molly Ashton.

Meddai Molly hefyd:

“Roedd hwn yn brosiect anhygoel lle bues i’n archwilio deunyddiau a phrosesau newydd gan ganolbwyntio ar ddeunyddiau a ganfuwyd naturiol yn gregyn, roedd y rhain yn is-gynnyrch gan werthwr pysgod lleol ac fel arall byddai wedi’u hachub. Roeddwn i eisiau dathlu’r deunydd, ei harddwch naturiol a’i berthynas â deunyddiau eraill megis gwydr a’u dyrchafu’n addurno corff ar raddfa fawr. Un ysbrydoliaeth fawr oedd y syniad bod cregyn natur yn naturiol yn cael eu torri i lawr i wneud tywod, deunydd crai sy’n cael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu gwydr. Mae’r berthynas gylchol hon yn sicrhau bod byd natur yn ganolog i’r gwaith”.

Rhan bwysig o’r prosiect oedd cydweithrediad ag adran ffotograffiaeth BA, a gyda’r myfyrwyr o’r 3edd flwyddyn Katie Davies a Simon Fudge a saethodd y darnau oedd yn cael eu gwisgo ar y corff. Roedd myfyrwyr yn steilio a hyd yn oed modelu’r gwaith ac yn gweithio’n dîm i greu delweddau anhygoel. Cafodd cyfres o luniau o waith Molly a dynnwyd gan y myfyriwr MA Ffotograffiaeth, Laurentina Miksys, eu cyhoeddi hyd yn oed yng nghylchgrawn ffasiwn Ffrengig ‘Malvie’.

Roedd y beirniaid hefyd eisiau cymeradwyo nifer o fyfyrwyr ym mlwyddyn 2 a 3 am eu dyluniadau arloesol gan gynnwys Hannah Davies am ei dannedd ceramig a chadwyn, Tazmin Baldwin am ei mwclis allwedd copr enamel, Elwyn Barnes am ei geffyl ceramig a Nancy Farrington am ei gwddf ffabrig cywrain.

Meddai’r Darlithydd Anna Lewis:

“Mewn crefftau dylunio rydym yn dysgu’r myfyrwyr fod cyflwyno’r gwaith yr un mor bwysig â’r gwaith ei hun ac yn gallu gwneud neu dorri ei ganfyddiad. Mae angen gweld gemwaith ar y corff er mwyn gwneud iddo ddod yn fyw a gwella’r stori a’r symbolaeth. Croesodd peth o’r gwaith drosodd i amgylchfyd ffasiwn ac roedd yn gyffrous gweld y dehongliad hwn mewn cyhoeddiad mor gyfoes, beth oedd ychwanegiad anhygoel i bortffolio’r ddau fyfyriwr dan sylw.”

Nod yr ACJ yw dathlu a thynnu sylw at y gwaith arloesol a wnaed gan artistiaid gemwaith ar lefel Genedlaethol a Rhyngwladol. Maent yn ymdrechu i wthio’r diffiniad o ba emwaith a all fod a’r ystyr a’r symbolaeth y gall ei ddal. Dyma syniad sy’n cael ei gynnal yn agos yn BA Crefftau Dylunio ac roedd y gystadleuaeth hon wir yn herio’r myfyrwyr i archwilio pa bosibiliadau y gallai addurno corff eu cael ar gyfer eu hymarfer eu hunain ac ar draws y cyfryngau.

Meddai Joanne Haywood, gemydd a gwneuthurwr ac arddangosfeydd uchel ei barch a rheolwr digwyddiadau yn ACJ:

“Fel beirniaid roedd safon ceisiadau’r myfyrwyr wedi creu cymaint o argraff ar bawb ohonom, roedd yn benderfyniad anodd iawn dewis enillydd. Roedd y gwaith yn amrywiol, wedi’i wneud yn dda ac roedd wedi ysgogi cysyniadau sy’n sail i’r syniadau, llongyfarchiadau i bawb, ac yn enwedig yr enillwyr Zach a Molly”.

Mae’r gwobrau i’r enillwyr yn cynnwys nodwedd yng nghylchgrawn canfyddiadau ACJ, arddangosfa Gwneuthurwyr yn Oriel Mission Abertawe (rhwng 25 Mawrth a 6 Mai) ac i Zach mewn cyfarfod mentora gwerthfawr â phennaeth y busnes Crefft, Caroline Jackman yn y Cyngor Crefftau.

Hoffai Crefftau Dylunio ddiolch i’r holl feirniaid a chydweithwyr (Joanne Haywood, Rhian Wyn Stone, Stephanie Jong a Caroline Jackman) a llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr a gymerodd ran.

Model yn gwisgo darn o emwaith corff wedi’i wneud o wydr, sy’n gorchuddio ei hysgwyddau a’i brest.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau