Skip page header and navigation

Ymunwch â Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth i ni ddathlu trichanmlwyddiant geni Richard Price, un o feddylwyr mwyaf dylanwadol a radical Cymru.

Myfyrwyr yn gwrando ar ddarlithydd yn yr ystafell drochi

Digwyddiad yn y Gymraeg a Saesneg gyda chyfieithu ar y pryd fydd hwn rhwng 5.00 a 7.00yh ar nos Iau, 9 Tachwedd, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Agorir y noson gan y Llyfrgellydd, yr Athro Pedr ap Llwyd; Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yr Athro Elwen Evans KC; a’r Athro Mary-Ann Constantine o’r Ganolfan.

Ar 4 Tachwedd 1789 sbardunodd pregeth Price, A Discourse on the Love of Our Country, ddadl ffyrnig am y Chwyldro Ffrengig. Daeth ymatebion gan sawl awdur, megis Edmund Burke, Tom Paine, Mary Wollstonecraft a Jac Glan-y-Gors. Ymunwch â Mary Fairclough, Mary-Ann Constantine, Elizabeth Edwards a Rhys Kaminski-Jones am sgyrsiau bywiog yn cyflwyno rhai o syniadau Brwydr y Pamffledi.

Bydd y noson yn gorffen gyda darlleniadau o gyfrol newydd, Poems for Richard Price, (goln) Damian Walford Davies a Kevin Mills. Bydd derbyniad gwin i ddilyn, gyda chyfle i weld portread Benjamin West o Richard Price.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffudd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan, ‘Rydym yn hynod falch o fedru cydweithio gyda’r Llyfrgell Genedlaethol, fel rhan o’r Gynghrair Strategol rhwng ein sefydliadau, ar y digwyddiad hwn i goffau tri chan mlwyddiant geni un o fawrion ein cenedl ac un a wnaeth gyfraniad mor allweddol yn rhyngwladol.’

Meddai’r Athro Mary-Ann Constantine o’r Ganolfan, ‘Pleser mawr yw dathlu’r achlysur pwysig hwn ar y cyd â’r Llyfrgell Genedlaethol. Roedd Richard Price yn dyst i gyfnod cythryblus – ysbrydolodd ei syniadau ar gydraddoldeb, democratiaeth, a chyfiawnder genedlaethau o feddylwyr ac awduron, ac mae ei eiriau’n parhau i atseinio hyd heddiw.’

Bydd yr Ystafell Summers ar agor i’r cyhoedd rhwng 4.00 a 5.00pm ar 9 Tachwedd i weld eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell sy’n berthnasol i Richard Price a’i gyfnod.

Nodyn i’r Golygydd

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Ymysg y meysydd ymchwil mae Ieithoedd Celtaidd Cynnar, Hagiograffeg, Llenyddiaeth Gymraeg y Canol Oesoedd, Rhamantiaeth a’r Ymoleuo yng Nghymru ac Ewrop, Enwau Lleoedd yng Nghymru a Phrydain, Geiriadureg, Cyfieithu llenyddol, Sosioieithyddiaeth Gyfoes a Pholisi a Chynllunio Iaith mewn Ieithoedd Lleiafrifedig. Dyma gartref Geiriadur Prifysgol Cymru a ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021.

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau