Skip page header and navigation

Gwnaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod Dewi Sant) gynnal ei Darlith Flynyddol Jessie Donaldson agoriadol, gyda Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol yn rhannu ei thaith o Fecsico i Gymru trwy yrfa ysbrydoledig ym myd Addysg.

Yr Athro Elena Rodriguez-Falcon

Siaradodd yr Athro Elena Rodriguez-Falcon FREng gyda chynulleidfa lawn yn Ystafell Ddarllen Gron y Brifysgol yn adeilad Alex, Coleg Celf Abertawe, gan gyflwyno araith o’r teitl “What’s the Worst that can Happen?”.

Gan dynnu ar heriau personol a phroffesiynol, archwiliodd y ddarlith sut gwnaeth yr Athro Rodriguez-Falcon lywio llwybr gyrfa trwy wahanol sefydliadau gan wynebu anawsterau benben, gan gadw ffocws cadarn ar addysgu, trawsnewid ac ysbrydoli bywydau myfyrwyr trwy ofyn yn wyneb amheuaeth: go iawn, beth yw’r gwaethaf a all ddigwydd trwy roi cynnig ar rywbeth?

Gan godi pwnc rhywioldeb yn ei darlith, meddai: “Yn 2014 dysgais nad oedd tua 1 o bob 5 person ym maes peirianneg yn datgelu eu bod yn rhan o’r gymuned LHDTC+, ac fe anogodd y ffaith honno i mi ddweud, yn uchel iawn… Rwy’n beiriannydd benywaidd hoyw.

“Hyd y pwynt hwnnw, buodd fy nhaith yn newidiol, yn ddamweiniol mewn ffordd. Manteisiais ar gyfleoedd a gyflwynodd eu hunain i mi gan feddwl, os na fydd yn gweithio, byddaf yn dysgu gwers.

“Ond nid oedd cymryd rheolaeth dros fy naratif fy hun yn y ffordd hon yn ddamwain o gwbl. Yr hyn oedd yn digwydd oedd bod fy nghariad at addysg ym maes mentergarwch a pheirianneg, fy ngwaith i godi ymwybyddiaeth o beirianneg i helpu i fenywod lwyddo, a’m hymrwymiad yn y pen draw i ddefnyddio fy mywyd fy hun i amlygu problemau a wynebir gan beirianwyr LHDTC+ yn rhoi platfform i mi lwyddo.

“Ac wrth i mi adfyfyrio ar fy llwyddiannau, rwy’n sylweddoli bod y rhan fwyaf ohonynt wedi digwydd pan oeddwn allan, pan oeddwn yn fi.” 

Yr Athro Rodriguez-Falcon yn annerch cynulleidfa yn ystafell ddarllen Coleg Celf Abertawe â’i tho gwydr crwm.

Y ddarlith oedd y gyntaf mewn cyfres flynyddol newydd gan Y Drindod Dewi Sant mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Menywod y Brifysgol. Fe fydd yn cael ei chynnal ar neu o gwmpas Diwrnod Rhyngwladol y Menywod bob blwyddyn, ac fe’i henwyd ar ôl Jessie Donaldson, menyw o Abertawe a symudodd i America yn y 1800oedd, gan wynebu posibilrwydd dirwyon a dedfrydau o garchar i gadw tŷ diogel ar gyfer caethweision oedd yn dianc taleithiau’r de.

Meddai’r Athro Rodriguez-Falcon: “Bu’n bleser ac yn fraint annerch staff Y Drindod Dewi Sant a’r rheiny o’r tu allan i gymuned y Brifysgol ar gyfer diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023. Un o’r pethau rwyf wedi’u dysgu mewn bywyd yw nad ydym ni menywod, a rhai dynion, weithiau’n dda iawn am wneud ein hunain yn weladwy – bu’n heriol iawn i mi ar y dechrau.

“Ond dywedodd rhywun wrthyf unwaith, ‘Os na wnewch chi gyfathrebu rhywbeth, nid yw’n bodoli’. Dyma oedd un o’r gwersi mwyaf pwerus i mi ei ddysgu erioed, ac ers hynny rwyf wedi bod yn benderfynol rhoi cyfleoedd a hyfforddiant i fenywod i ddatblygu eu hyder yn eu gwelededd eu hunain. Fe fydd yn helpu’n bersonol, yn helpu’n broffesiynol, yn helpu myfyrwyr ac yn helpu’r Brifysgol os bydd menywod yn sefyll yn falch a dangos yr hyn y gallant ei gyflawni.”

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Coleg Celf Abertawe: “Ar ran Rhwydwaith Menywod Y Drindod Dewi Sant, mae’n bleser gennym gefnogi’r Ddarlith Jessie Donaldson flynyddol gyntaf ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023. Cawn ein hatgoffa am ddewrder anhygoel Jessie bob dydd yn Abertawe gan ein bod yn cerdded heibio ei Phlac Glas ar wal ein Hadeilad Dinefwr.

“Mae’n addas ein bod nawr yn talu sylw i’r menywod cyfoes hynny sy’n cael gwir effaith ar y byd sydd ohono, er cof am gyraeddiadau anhygoel un fenyw. Mae’r Athro Rodriguez-Falcon yn un o’r menywod hynny, ac rydyn ni wrth ein bodd ei bod hi wedi rhannu ei thaith ryfeddol gyda ni.”

Yr Athro Rodriguez-Falcon yn gwenu wrth ochr tair uwch aelod benywaidd arall o’r staff academaidd.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau