Skip page header and navigation

Cynhelir y Gwersyll Haf yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol ar Gampws Caerfyrddin, a hefyd yng Nghanolfan Addysg Antur Awyr Agored Cynefin yn Nhre Ioan.
 

Pum dyn yn beicio yn Cynefin – Canolfan Addysg Antur Awyr Agored PCYDDS.

Bydd dyddiadau Gwersyll Haf Chwaraeon eleni rhwng dydd Llun 31ain Gorffennaf a dydd Gwener 18fed Awst. Penderfynwyd ailsefydlu’r gwasanaeth er mwyn darparu cyfleoedd i blant yr ardal leol ddefnyddio a mwynhau cyfleusterau’r Brifysgol, darparu man diogel i’r plant gael gofal dros wyliau’r haf, ac i fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant gael profiad o amgylchedd gwaith mewn maes gwaith sydd o ddiddordeb iddynt.

Bydd y gweithgareddau’n rhedeg o 9am i 4pm gyda chyfle i ollwng am 8am a chasglu am 4:30pm ar gael.

Dywedodd y trefnydd, Bryn Jones o’r Drindod Dewi Sant:

“Bydd y gweithgareddau yn ystod o weithgareddau chwaraeon, gweithgareddau pwll nofio gweithgareddau awyr agored, a gemau tîm hwyliog dros gyfnod o dair wythnos! Byddwn yn darparu amgylchedd diogel, hwyliog, a hapus i bob plentyn fwynhau eu hunain, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd, a chredwn ei fod yn gyfle gwych i gadw’n heini ac yn iach yn ystod y gwyliau ysgol. Rydym yn edrych ymlaen at weld plant yn mwynhau’r gemau a’r campau y maent yn eu caru!”  

Mae cyfres o weithgareddau wedi’u trefnu a fydd yn darparu ar gyfer ystod o oedrannau a diddordebau, megis Ysgol Goedwig i blant rhwng 6 ac 11 oed, diwrnod Lles gyda Natur i blant rhwng 13 a 17 oed, Beicio Mynydd gyda phobl ifanc rhwng 16 a 18 oed, a bydd y gwersyll Chwaraeon ei hun yn cynnig sesiynau pêl-droed, tennis byr, criced, ffrisbi, nofio a llawer mwy i blant rhwng 6 ac 11 oed.

Hoffai trefnwyr y digwyddiad wahodd ac annog teuluoedd o dref Caerfyrddin a phentrefi lleol i gefnogi.

Bydd darlithwyr a myfyrwyr yn y Drindod Dewi Sant yn cefnogi ac yn arwain rhai o’r sesiynau a bydd hyn yn eu helpu i ennill profiad gwerthfawr iawn o weithio’n ddwyieithog gyda phlant ifanc a phlant yn eu harddegau wrth fod yn egnïol a chael hwyl!

Mae’r Brifysgol wedi blaenoriaethu er mwyn gwneud y ddarpariaeth mor hygyrch â phosibl i deuluoedd. Y pris fydd £20 y diwrnod neu £10 am hanner diwrnod. Bydd angen bocs bwyd a diodydd.

Fel arall, gallwch lawrlwytho ap PCYDDS Chwaraeon Caerfyrddin ar eich siop apiau, neu anfon e-bost at Bryn ar d.b.jones@uwtsd.ac.uk 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau