INSPIRE PCYDDS yn recriwtio Llysgenhadon Effaith ac Ymgysylltu
Mae deunaw aelod o staff ar draws y Brifysgol wedi’u recriwtio yn Llysgenhadon Effaith ac Ymgysylltu INSPIRE.
Nod y cynllun Llysgenhadon Effaith ac Ymgysylltu yw creu cyfle i staff y brifysgol weithio mewn partneriaeth ag arweinwyr Ymchwil, Masnacheiddio, Menter, ac Ymgysylltu Dinesig INSPIRE i helpu i gyflawni Strategaeth RWIF (Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru) y Brifysgol.
Uned cymorth proffesiynol graidd yn y Drindod Dewi Sant yw INSPIRE sy’n gyfrifol am yrru ymchwil, arloesi, masnacheiddio, menter ac ymgysylltu dinesig ar draws y Brifysgol. Meddai Gary Clifford, Cyfarwyddwr Gweithredol Masnacheiddio PCYDDS a phennaeth INSPIRE:
“Rydym yn falch iawn o gyhoeddi enwau ein grŵp cyntaf o lysgenhadon effaith ac ymgysylltu. Dyma rôl drawsadrannol newydd a fydd yn uno ‘ysgogwyr newid’ y Brifysgol yn ffurfiol â gweledigaeth INSPIRE.
Byddwn yn defnyddio eu profiad a’u harbenigedd i arwain, cymell ac ennyn diddordeb eraill mewn ffordd sy’n adeiladu ar effaith y brifysgol ym meysydd ymchwil, masnacheiddio, menter ac ymgysylltu dinesig. Cynlluniwyd y rôl hon i gefnogi’r unigolion hynny sy’n awyddus i gael effaith sylweddol a dylanwadu ar gymdeithas ac i feithrin perthynas gadarn â chyd-aelodau o staff, myfyrwyr, cyrff cyllido, arweinwyr y diwydiant, cyflogwyr a phobl yn ein cymunedau lleol.
Rydym wedi creu tipyn o dîm ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda phob un ohonynt.”
Mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd ar gampws SA1 y Brifysgol, daeth y llysgenhadon newydd ynghyd i ddechrau cynllunio eu gwaith a’u gweithgareddau. Bydd Richard Morgan, Pennaeth Arloesi ac Ymgysylltu yn Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (WISA) y Brifysgol, yn canolbwyntio ar yr adran Fasnacheiddio. Ar ôl y digwyddiad, ychwanegodd:
“Roedd hi’n wych cael cwrdd â’r llysgenhadon eraill heddiw ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gychwyn arni.
Ar hyn o bryd, rwy’n arwain sawl prosiect partneriaeth cydweithredol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda sefydliadau fel Aston Martin Lagonda, Marelli, Troy Manufacturing Group, Treharne Automotive Engineering a Reeco Automation. Trwy’r rôl hon yn Llysgennad, rwy’n anelu at chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi gweithgareddau masnachol y Brifysgol trwy gydol y flwyddyn a sefydlu prosiectau cydweithredol cyffrous a’u datblygu ymhellach.”
Penodwyd yr aelodau canlynol o staff yn Llysgenhadon Effaith ac Ymgysylltu ar gyfer 2022-23.
- Nalda Wainwright
- Anna Lewis
- Elizabeth Edwards
- Claire Savage-Onstwedder
- Richard Morgan
- Kathleen Griffiths
- Ffion Spooner
- Catherine Owen-Williams
- Jacqui Jones
- Ashley Pullen
- Elizabeth Walder
- Gary Metcalfe
- Matt Anthony
- Jessica Shore
- Geraint Forster
- Andrew Killen
- Vasilios Tavlaridis
- David Bird
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076