Skip page header and navigation

Mae Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi lansio cylchlythyr a fydd yn cefnogi datblygiad corfforol yn ystod plentyndod cynnar.  

Plant ifanc yn gwneud ymarferion ymestyn ar lawr yr ystafell ddosbarth.

Bydd y cylchlythyr, a gaiff ei gyhoeddi bob chwarter, yn rhoi sylw i sut mae symudiadau o ansawdd uchel yn ystod plentyndod cynnar yn hanfodol er mwyn gosod sylfeini gweithgarwch corfforol, iechyd, llesiant a deilliannau academaidd. Bydd yn darparu syniadau a ffyrdd newydd o gefnogi symudiadau o ansawdd ar gyfer ymarferwyr, yn rhannu’r newyddion diweddaraf am ymchwil ac yn hysbysu cymuned SKIP-Cymru am hyfforddiant i ddod.

Mae’r cylchlythyr ar gyfer ymarferwyr sydd wedi ymwneud â phrosiect SKIP-Cymru, ac yn y rhifyn cyntaf mae’n rhannu’r newyddion diweddaraf, syniadau am weithgareddau Nadoligaidd a gwybodaeth am gyrsiau hyfforddi sydd ar y gweill.

Mae hyfforddiant achrededig SKIP-Cymru (Hyfforddiant Cinesthetig Llwyddiannus i Blant dan oed ysgol) yn cael ei deilwra i’r holl ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd. Mae’n grymuso ymarferwyr i ddadansoddi symudiadau a chreu amgylcheddau sy’n cefnogi datblygiad corfforol plant mewn dull cynhwysol sydd wedi’i seilio ar chwarae.

Mae’r gwaith hwn wedi’i gydnabod am ei effaith, fel argymhelliad yn adroddiad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Senedd Cymru Gweithgarwch Corfforol ymhlith Plant a Phobl Ifanc ac fel astudiaeth achos ar gyfer deunyddiau ategol Taith tuag at Gymru Iachach i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Meddai Dr Nalda Wainwright, Cyfarwyddwr Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol yn y Drindod Dewi Sant:

“Mae’n bleser gennym rannu arfer da a syniadau ychwanegol i barhau i gefnogi athrawon ac ymarferwyr. Mae’r sylfaen dystiolaeth gadarn am y gwaith hwn yn rhoi sicrwydd i staff eu bod yn gwella sgiliau symud y plant pan fyddan nhw’n parhau i ddefnyddio’r egwyddorion yn eu gwaith.”

Pobl ifanc yn eu harddegau yn symud rhwng conau plastig mewn campfa ysgol.

Mae hyfforddiant SKIP-Cymru wedi helpu i fynd i’r afael â phroblem gynyddol anweithgarwch, plant yn byw â gordewdra, iechyd sy’n dirywio a deilliannau academaidd gwael. Drwy hyfforddi ymarferwyr o feysydd addysg, iechyd, a lleoliadau cymunedol a theuluol, gall y fframwaith hwn gefnogi iechyd a llesiant plant drwy ddeall sut mae angen symudiadau o ansawdd uchel yn y blynyddoedd cynnar ar gyfer datblygiad corfforol, ac mae symudiadau yn ystod plentyndod cynnar yn creu cysylltiadau yn yr ymennydd ac yn cefnogi lleferydd, iaith a llythrennedd. Mae hefyd yn helpu i ddangos sut mae sgiliau symud sylfaenol yn sail i weithgarwch corfforol ac iechyd maes o law. Nid yw pob sgil yn datblygu drwy chwarae’n unig ac mae angen eu haddysgu mewn modd sy’n briodol o ran datblygiad er mwyn bodloni anghenion penodol pob plentyn, ac wrth gwrs, mae datblygiad corfforol plant yn sylfaenol i hunan-barch, hyder, a gwytnwch, gan gefnogi iechyd meddwl a llesiant.

Dywedodd un Hyfforddwr Dysgu Blynyddoedd Cynnar ar ôl mynychu sesiwn hyfforddi SKIP-Cymru:

“Mae’r hyfforddiant SKIP rydw i wedi bod yn ei fynychu wedi bod yn ffynhonnell mor wych o wybodaeth a syniadau i’w rhoi ar waith. Mae mor ddiddorol dysgu’r wyddoniaeth y tu ôl i pam mae symud o oedran ifanc mor bwysig. Mae gan yr hyfforddwyr gyfoeth o wybodaeth i’w rhannu, ac rwyf wedi dod o’r hyfforddiant yn llawn syniadau, brwdfrydedd ac angerdd newydd a ganfuwyd yn fy rôl fel hyfforddwr Blynyddoedd Cynnar.”

Ychwanegodd Athro arall:

“Harddwch yr addysgeg gynhwysol a chyfannnol hon fu’r rhyddid i addasu pob sesiwn gan gynnwys ffocws a lefel yr her, er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf i bob disgybl waeth beth fo’u man cychwyn.”

Yn ystod yr hyfforddiant, bydd carfannau’n dysgu am ddatblygiad corfforol o enedigaeth i blentyndod canol yn cynnwys datblygiad plentyndod cynnar, integreiddio echddygol synhwyraidd a cherrig milltir datblygiad. Maen nhw’n dysgu am gyfraniad symudiadau i ddatblygiad plant yn ehangach, yn cynnwys datblygiad gwybyddol, sgiliau cymdeithasol, iaith a chyfathrebu, hunan-barch yn ogystal â hyder a gwytnwch.

Hefyd mae’n cynnig ystod o ddulliau ar gyfer datblygu geirfa eang ynghylch symud sy’n cefnogi amrywiaeth ac ansawdd mewn gweithgarwch corfforol, a chyfle i ddysgu rhagor am ddamcaniaethau datblygiad echddygol a sut mae modd eu cymhwyso drwy roi ystod o strategaethau ar waith. Bydd ymarferwyr yn dysgu sut i arsylwi a dadansoddi cyfnodau datblygiad sgiliau echddygol plant a gwneud dyfarniadau am offer a thasgau priodol i gefnogi datblygiad plant mewn dull sydd wedi’i seilio ar chwarae. Mae’r hyfforddiant hefyd yn darparu strategaethau eglur ar gyfer rheoli grwpiau o blant mewn gweithgarwch corfforol gydag arfer cynhwysol ar gyfer pob gallu ac anabledd.

Yn ddiweddar mae tîm SKIP-Cymru wedi ennill y wobr Ymchwil, Rhagoriaeth Arloesi ac Effaith yng ngwobrau INSPIRE PCYDDS.

Dau lun: ar y chwith, Kirsty Edwards ac Ian Walsh yn dal gwobr; ar yr ochr dde Dr Nalda Wainwright yn dal gwobr.

Er mwyn gwybod rhagor am ddyddiadau cyrsiau SKIP-Cymru a chadw lle ar gwrs, anfonwch e-bost at: kirsty.edwards@uwtsd.ac.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol, ewch i:  Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau