“Origins of Gaza” – Athro yn y Drindod Dewi Sant yn ymddangos ar bodlediad hanes yr henfyd The Ancients
Mae academydd o’r Drindod Dewi Sant, yr Athro Louise Steel, wedi cymryd rhan mewn podlediad i drafod yr archaeoleg yn Gaza, gan gynnwys ei chloddiadau ei hun, ac arwyddocâd y rhanbarth yn ei hynafiaeth.
O Brydain Neolithig i Gwymp Rhufain, mae The Ancients yn ymroddedig i drafod ein gorffennol pell. Mae’r podlediad, sy’n cael ei gyflwyno gan Tristan Hughes, yn cynnwys cyfweliadau â haneswyr ac archeolegwyr, gyda phob pennod yn ymdrin â thema benodol o hynafiaeth.
Yn y bennod hon, croesawodd Tristan Hughes yr Athro Louise Steel i drafod cloddiadau ei thîm yn Gaza a’r hyn y gall yr archeoleg yno ei ddweud wrthym. Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw edrych ar Gaza yn ystod yr Oes Efydd, cysylltiadau â’r hen Aifft, ac asesu arwyddocâd Gaza yn yr hen fyd.
Yn dilyn y recordiad, dywedodd yr Athro Louise Steel:
“Roeddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i gyfrannu at bodlediad The Ancients. Trwy gydol hanes, mae’r ardal a elwir heddiw yn Gaza wedi bod yn aml iawn yn lle cynhennus. Mae ei arwyddocâd hanesyddol yn hanes yn ymestyn bron i 3 mileniwm, ac mae tystiolaeth archeolegol yn dangos i ni ei fod yn ganolbwynt rhyngwladol a fynychwyd gan yr Eifftiaid, Mycenaeans, Hethiaid a mwy.
“Yn archeolegol, mae Gaza yn lle hynod ddiddorol, ac ni fyddwn yr academydd ydw i heddiw pe na bawn wedi cael y cyfle i weithio yno yn y 90au cynnar. Rhoddodd Gaza’r ddealltwriaeth imi ei bod yn bwysig nid yn unig cloddio, cofnodi, gadael a mynd i ffwrdd i ysgrifennu papurau academaidd amrywiol ar y gwaith ond i ymgysylltu â’r bobl a’r cymunedau yr ydych yn cloddio eu harcheoleg.
“Hoffwn ddiolch i Tristan am fy ngwahodd ar y podlediad i drafod agwedd o’m gwaith academaidd sydd mor agos at fy nghalon.”
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i wrando ar bodlediad ‘Origins of Gaza’ yr Athro Steel: Origins of Gaza – The Ancients.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076