Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi lansio ei hystafelloedd trochi arloesol gan ddarparu mannau dysgu o’r radd flaenaf i fyfyrwyr a phartneriaid.

Uwch aelodau y Brifysgol mewn ystafell drochi.
Emlyn Dole, Darpar Gadeirydd Cyngor y Brifysgol, Helen Morgan-Rees, Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Abertawe, Yr Athro Medwin-Hughes, DL, Is-Ganghellor, Y Cyng Mike Day, Arglwydd Faer Abertawe, Mike Hedges AS, Yr Athro Elena Rodriguez-Falcon. Dirprwy Is-Ganghellor, Yr Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol.

Gan weithio gyda phartner clyweled, IDNS, ac a ariennir yn rhannol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), mae’r mannau dysgu newydd cyntaf o’u math yng Nghymru wedi’u lleoli ar gampysau Caerfyrddin ac Abertawe y Brifysgol. Mae’r Ystafelloedd Trochi yn defnyddio’r sgriniau Samsung LED diweddaraf ar draws tair wal gan greu profiad defnyddiwr rhithiol llawn a realiti estynedig.

Mynychwyd lansiad Abertawe yn adeilad Y Fforwm y Brifysgol gan Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Mike Day, Mike Hedges, MS, Ms Helen Morgan-Rees, Cyfarwyddwraig Addysg Abertawe, cynrychiolwyr diwydiant a staff y Brifysgol.

Wrth agor yr ystafell yn swyddogol, dywedodd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor: “Y dechnoleg hon yw’r gyntaf o’i bath yng Nghymru ac mae’n tystio i barodrwydd y Brifysgol i wthio ffiniau ac i fuddsoddi yn y dyfodol. Rwy’n ddiolchgar i gydweithwyr, i Samsung, Igloo Vision ac ISDN am eu gwaith wrth datblygu’r dechnoleg hon i gefnogi gwaith academaidd, ymchwil a masnachol y Brifysgol. Mae addysg prifysgol yn newid ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni’r seilwaith cywir yn ei le i gefnogi ein myfyrwyr, cyflogwyr a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.”

Gan weithio gyda phartner clyweled y Brifysgol, IDNS, mae dwy ystafell drochi wedi’u gosod – un yn Abertawe a’r llall i’w agor yng Nghaerfyddin yn ystod yr wythnosau nesaf.  Maent yn defnyddio 18 metr o’r sgriniau LED Samsung diweddaraf ar draws tair wal i greu profiad realiti rhithwir ac estynedig sy’n trochi defnyddwyr yn gyfan gwbl.  Bydd y mannau hyn yn galluogi i fyfyrwyr brofi realiti rhithwir, fideos a delweddau 360° a chymwysiadau trochi trwy feddalwedd trochi Igloo.

Mae dysgu trochi yn ffordd hynod o effeithiol i lawer o ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau. Mae’n darparu cynnwys ac amgylcheddau artiffisial a grëwyd yn ddigidol  sy’n atgynhyrchu scenarios bywyd go iawn er mwyn gallu dysgu a pherffeithio sgiliau a thechnegau newydd. Ni fydd dysgwyr yn gwylio’n oddefol; ond yn hytrach, byddant yn cael bod yn gyfranogion rhagweithiol sy’n dylanwadu’n uniongyrchol ar ganlyniadau. Hefyd, mae’n fan di-risg a diogel lle gellir ailadrodd yr hyn a ddysgir, a gellir mesur llwyddiannau’n gywir.

Dywedodd yr Athro Elena Rodríguez Falcón FREng, Dirprwy Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo mewn darparu profiadau dysgu perthnasol, cyd-destunol a dilys, a ddangosir drwy ymgysylltu â heriau byd eang a phartneriaid amrywiol.

“Rydym hefyd yn gwybod bod dysgu drwy brofiad weithiau yn llai ymarferol a hygyrch, a dyna pam, rydym wedi buddsoddi’n bwrpasol mewn gofodau dysgu ymgolli, i sicrhau nid yn unig y daw’r dysgu yn fyw, ond bod dysgwyr yn cael eu cymryd i fyd rhithwir eu pynciau a’u heriau y maent yn debygol o’u hwynebu.”

Meddai Chris Rees, Pennaeth Gweithredol Creadigrwydd a Dysgu Digidol Y Drindod: “Gall ddysgu trochi fod yn hynod o fanteisiol o ran datblygiad dysgwr, gan gyfoethogi eu gwybodaeth a’u sgiliau ymarferol.

“Mae’r cyfleusterau o’r flaenaf hyn yn cynnwys 18 metr o sgriniau LED, sy’n rhoi profiad i fyfyrwyr sy’n eu trochi’n gyfangwbl. Gyda chost o dros £1 miliwn, mae’r buddsoddiad hwn mewn technoleg yn dyst i’n hymrwymiad i ddarparu’r profiad dysgu gorau posibl ar gyfer ein myfyrwyr. Boed mewn teithiau maes rhithwir, efelychiadau neu wersi rhyngweithiol, bydd yr ystafelloedd yn caniatáu i fyfyrwyr weithio gyda’r deunydd mewn ffordd newydd a chyffrous.

Meddai James Cale, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Y Drindod: “Trwy fannau trochi, rydym yn gallu chwyldroi’r ffordd mae myfyrwyr yn dysgu, trwy ddarparu profiad addysgol rhyngweithiol, diddorol, a chofiadwy ar eu cyfer sy’n dod â’r cwricwlwm yn fyw.

“Nid yn unig y mae gweithredu mannau trochi ym maes addysg yn cyfoethogi ymgysylltiad a chymhelliant myfyrwyr, ond mae’n eu galluogi hefyd i brofi a rhyngweithio gyda’r cwricwlwm mewn ffordd fwy ystyrlon a chofiadwy. Mae’r dull hwn yn caniatáu dysgu mwy ymarferol a dysgu trwy brofiadau, y mae ymchwil wedi dangos ei fod yn fwy effeithiol wrth hyrwyddo’r gallu i gadw gwybodaeth yn yr hir dymor.

“Mae’r defnydd o dechnoleg drochi, fel realiti rhithwir ac estynedig, yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio a dysgu am bynciau a chysyniadau a fyddai fel arall yn anodd neu’n amhosibl eu hatgynhyrchu mewn ystafelloedd dosbarth traddodiadol. Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, rydym yn gyffrous i fod ar reng flaen yr ymagwedd arloesol hon at ddysgu, gan ddefnyddio mannau trochi i gyfoethogi profiad dysgu’r myfyriwr a’u paratoi ar gyfer y dyfodol.

Uwch aelodau'r Brifysgol mewn ystafell drochi.

Meddai Laura Mills ar ran Igloo: 

Mae Igloo Vision yn falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, IDNS a Samsung i ddarparu man trochi LED cyntaf Cymru. Gan ddefnyddio meddalwedd trochi Igloo Vision a thechnoleg LED diweddaraf Samsung, bydd yr ystafelloedd yn cynnig profiadau diddorol i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.

“Mae camu i mewn i fan trochi Igloo yn debyg i gamu i mewn i benset VR enfawr - ond eich bod yn gallu cael grwpiau cyfan i mewn. Mae Igloo yn dylunio a datblygu’r dechnoleg sy’n gallu gwneud unrhyw fan yn un trochi. Gellir rhannu unrhyw fath o gynnwys digidol, gan gynnwys realiti rhithwir trochi, fideos a delweddau 360° ac offer Office bob-dydd eu rhannu gyda grwpiau cyfan yn un o’r mannau hyn, felly mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyfleoedd diddiwedd o ran yr hyn y gall ei wneud gyda’i Hystafell Drochol.”

Meddai Vicky Jennings, Ymgynghorydd Technoleg yn IDNS: “Mae IDNS yn falch o ddarparu man trochi LED cyntaf Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Gan ddarparu’r fan trochi 18 metr trwy ddefnyddio’r dechnoleg LED Samsung ddiweddaraf, bydd profiad gweledol a synhwyraidd yn dod yn fyw i ymwelwyr, trwy gynlluniau gweledol heb eu hail a manylion eithriadol.

“Mae’r datblygiad arloesol hwn yn nodi oes newydd o ran cydweithredu ac ymgysylltu yn y brifysgol ac mae’n dyst i’w hymagwedd flaengar at ddefnyddio technolegau digidol sy’n cyfoethogi’r profiad dysgu.”

Am ragor o wybodaeth a chipolwg ar sut y bydd yr ystafelloedd yn edrych, ewch i’n gwefan. Rydym yn ysu am i chi gael ei brofi!

Rhannwch yr eitem newyddion hon