Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi lansio ysgoloriaeth ôl-raddedig newydd i fyfyrwyr o Wcráin.

Dwy fyfyrwraig yn sefyll o flaen adeilad gydag eira ar lawr.

Gall myfyrwyr o Wcráin wneud cais i astudio am radd Meistr mewn Dinasyddiaeth Fyd-eang ac Arweinyddiaeth Gynaliadwy ar gampws y Brifysgol yn Llambed. Bydd holl gostau’r hyfforddiant ôl-raddedig, llety a dosbarthiadau iaith ymlaen llaw’n cael eu talu gan y Brifysgol ar gyfer 16 o  ymgeiswyr llwyddiannus.

Mae’r cwrs Meistr wedi’i ddatblygu’n fras ar sail Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, a bydd yn paratoi myfyrwyr i fynd i’r afael yn feirniadol â heriau byd-eang allweddol yr 21ain ganrif, er mwyn dod yn ddinasyddion byd-eang ac arweinwyr yfory.

Meddai Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol y Drindod Dewi Sant: “Mae ysgoloriaethau a bwrsarïau myfyrwyr yn ei gwneud yn bosibl i fyfyrwyr fynychu prifysgol, rhywbeth na fyddent yn gallu’i wneud fel arall efallai, gan gynnwys y rhai sy’n wynebu anawsterau oherwydd y rhyfel yn Wcráin.

“Rydym yn ymdrechu i fod yn hafan i fyfyrwyr sydd wedi’u dadleoli, gan gynnig lloches yng Nghymru, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu myfyrwyr i deimlo’n gartrefol ar ein campws yn Llambed.”

Mae’r Drindod Dewi Sant wedi croesawu llawer o fyfyrwyr o Wcráin ar y rhaglen ar ddechrau’r flwyddyn academaidd gyfredol, ac mae’n falch iawn i ailagor y cynllun ysgoloriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Meddai Valeriia Piven, un o’r rhai a dderbyniodd yr ysgoloriaeth y llynedd, a fu’n gweithio fel rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus yn Wcráin cyn dod i Lambed: “Ni allaf ddiolch digon i’r brifysgol am eu cefnogaeth yn ystod yr amser anodd hwn, a hefyd i bobl Llambed. “Mae’r ysgoloriaeth hon wedi rhoi cyfle i mi helpu ailadeiladu dyfodol Wcráin pan fyddaf yn gallu dychwelyd adref.”

I Valeriia, mae Llambed yn “lleoliad braf ac yn rhywle y gallwch deimlo’n gyfforddus yno ar unwaith ac yn rhan o’r gymuned. Mae’n lle llawn gweithgarwch parhaus. Mae pawb wedi fy nghroesawu â breichiau agored sydd wedi bod yn rhyfeddol.”

“Mae hanes y lle hudolus hwn wedi gwneud cymaint o argraff arnaf,” meddai. “Mae gan bob cornel stori unigryw sy’n hanesyddol bwysig.” Llambed yw man geni Addysg Uwch yng Nghymru a champws hanesyddol y Brifysgol oedd y man cyntaf, 200 o flynyddoedd yn ôl, i groesawu myfyrwyr.

Erbyn hyn, mae’r Drindod Dewi Sant yn brifysgol fyd-eang, gyda chysylltiadau â llawer o sefydliadau ledled y byd a chymuned ffyniannus o fyfyrwyr rhyngwladol. Gall darpar fyfyrwyr rhyngwladol gael rhagor o wybodaeth ar y wefan.


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau