Skip page header and navigation

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn croesawu Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, i gyflwyno prif araith yn ei 10fed Cynhadledd Anelu at Ragoriaeth yn Neuadd y Brangwyn Abertawe ar 26 Mai.

Grŵp o dri deg tri o fynychwyr cynhadledd wedi ymgasglu am lun o dan ddau sbotolau.

Trefnir y gynhadledd yn flynyddol gan Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol Yr Athrofa (PDPA) ac mae’n casglu athrawon dan hyfforddiant BA Addysg, TAR Cynradd a TAR Uwchradd ynghyd i rannu arfer da wrth iddynt baratoi ar gyfer gyrfa mewn addysgu.  

Yr Athrofa yw Canolfan Addysg Y Drindod Dewi Sant. Mae’n dwyn ynghyd y rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon a chymwysterau proffesiynol eraill ar gyfer addysgwyr yn holl sectorau’r system addysg; cyfleoedd a rhaglenni dysgu proffesiynol gydol gyrfa, a luniwyd gan ddefnyddio ymchwil a chydweithio clòs gydag ysgolion partner; arbenigedd ymchwil addysg, prosiectau ac arbenigedd; a Chanolfan Dadansoddi ac Adolygu Polisi Addysg (CDAPA) y Brifysgol.

Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i glywed gan y Gweinidog Addysg, a fydd yn rhoi diweddariad ar ei agenda diwygio ac yn ymateb i gwestiynau gan athrawon dan hyfforddiant yn ystod sesiwn holi ac ateb fyw.

Meddai Jeremy Miles: “Rydw i wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru’n lle gwych i fod yn athro. Mae addysgu’n yrfa ardderchog gyda chyfleoedd unigryw i gefnogi pobl ifanc a’u helpu i ddod yn oedolion hyderus a galluog. Rwy’n edrych ymlaen at siarad ag athrawon y dyfodol a chael gwybod sut maen nhw’n dod yn eu blaenau.”

Ymhlith y prif siaradwyr yn ogystal, bydd yr Athro Graham Donaldson, sefydlwr fframwaith cwricwlwm newydd arloesol Cymru; yr awdur, ymchwilydd ac athro Darren Chetty; a Phil Beadle, arbenigwr yn nhri maes llythrennedd/addysgu Saesneg, rheoli ymddygiad a chreadigrwydd.

Yr Athro Donaldson yw’r cynghorydd ar ddiwygio addysgol ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru ac mae’n aelod o Gyngor Rhyngwladol Cynghorwyr Addysg Prif Weinidog Yr Alban. Gwnaethpwyd ef yn Gydymaith Urdd y Baddon gan y Frenhines yn 2009 am ei wasanaeth i addysg a derbyniodd Wobr Robert Owen am fod yn addysgwr ysbrydoledig gan Lywodraeth Yr Alban yn 2015. Mae hefyd wedi derbyn Doethuriaethau er Anrhydedd gan Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow.

Meddai Tom Cox, uwch ddarlithydd PCYDDS mewn creadigrwydd, arloesi a menter: “Bydd y gynhadledd yn arddangos cyflwyniadau ysbrydoledig gan brif siaradwyr enwog, ysgolion o bartneriaeth Yr Athrofa a llu o athrawon dan hyfforddiant arloesol o bob un o’n llwybrau BA Addysg Gynradd a TAR.

“Fe fydd cyfleoedd hefyd i ddathlu addysgu a dysgu effeithiol o 3-16 oed, mentora anffurfiol gan gyfoedion a sesiwn holi ac ateb gyda phanel enwog o arbenigwyr addysg. O bolisi addysgol i addysgeg yr ystafell ddosbarth…ceir rhywbeth at ddant pawb.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau