Skip page header and navigation

Bydd myfyrwyr, ymchwilwyr ac ymarferwyr ym maes seicoleg yn bresennol yn adeilad IQ Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddydd Sadwrn 10 Mehefin ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Cangen Cymru o Gymdeithas Seicoleg Prydain 2023.

Y tu allan i adeilad IQ PCYDDS yn Abertawe.

Bydd y gynhadledd, fydd yn canolbwyntio ar arfer seicoleg mewn cymunedau, yn arddangos peth o’r ymchwil gorau gan fyfyrwyr ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa o bob rhan o Gymru ochr yn ochr â sgyrsiau gan ymarferwyr sy’n gweithio yn y gymuned.

Bydd tîm Gyrfaoedd Cymdeithas Seicoleg Prydain hefyd yn darparu gwybodaeth am yrfaoedd a bydd cynrychiolwyr o’r Is-adrannau Seicoleg yno i siarad am eu harbenigedd a rhoi cyfarwyddyd gyrfaoedd o fewn a thu hwnt i seicoleg.

Meddai Dr Paul Hutchings, Cyfarwyddwr Academaidd Seicoleg a Chwnsela yn y Drindod Dewi Sant, “Mae’n wych gallu croesawu’r gymuned seicoleg yn ôl i’n prifysgol, yn enwedig ar ôl yr ychydig flynyddoedd diwethaf o fethu â chynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb. Rydym yn gobeithio y bydd pawb fydd yn bresennol yn gallu elwa o’r cyfuniad cyffrous hwn o drafodaethau gan academyddion ac ymarferwyr, a hefyd yn gallu dysgu rhagor am yrfaoedd posibl yn y dyfodol.

“Mae seicoleg wrth galon ein cymunedau, boed o ran y swyddi mae pobl yn eu gwneud neu’r ffyrdd maent yn rhyngweithio ag eraill yn y gymdeithas, a gobeithiwn y bydd y gynhadledd hon yn hyrwyddo hynny hyd yn oed ymhellach.”

Cysylltu cymunedau drwy seicoleg a newidiadau cymdeithasol | Cymdeithas Seicolegol Prydain 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau