Skip page header and navigation

Mae’n bleser mawr gan Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol (ACAPYC) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyhoeddi’i thrydedd Gynhadledd undydd ar Hyfforddi a Mentora yn y Gweithle.

Poster dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) yn hysbysebu’r gynhadledd ‘Hyfforddi a Mentora mewn Hinsawdd o Newid’, a drefnwyd gan Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol.

Bydd y gynhadledd, a gynhelir yn Adeilad IQ y Drindod Dewi Sant yn Abertawe ddydd Mawrth 27 Mehefin, yn canolbwyntio ar: Hyfforddi a Mentora mewn Hinsawdd o Newid, gan roi cyfle rhagorol i glywed gan ymarferwyr arbenigol a chyfle i gymryd rhan mewn gweithdai diddorol a llawn gwybodaeth.

Yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae gan yr Academi gefndir cryf mewn hwyluso datblygiad hyfforddwyr a mentoriaid ar gyfer y gweithle, ac mae’n bleser mawr ganddi estyn gwahoddiad i ymarferwyr, arweinwyr fel hyfforddwyr/mentoriaid, ymchwilwyr Meistr/Doethuriaeth a’n cyn-fyfyrwyr, i rannu arfer gorau ac ymchwil yn y maes.

Mae Dirprwy Is-ganghellor y Drindod Dewi Sant, yr Athro Elena Rodriguez Falcon yn edrych ymlaen at groesawu pawb i’r gynhadledd, ac i amlinellu pwysigrwydd Hyfforddi a Mentora yng Nghymru. Meddai:

“Mae’r Brifysgol yn falch iawn o gynnal y gynhadledd hon a fydd yn dwyn ynghyd gymuned o ymarferwyr arbenigol ac academyddion sy’n ymroddedig i ddatblygu hyfforddiant a mentora i rannu arferion gorau ac ymchwil i helpu talent sy’n diogelu’r dyfodol ac i wella sgiliau arwain.

“Gyda dros 2,000 o raddedigion o’i rhaglenni, mae gan yr Academi hanes o gefnogi sefydliadau a’u pobl yng Nghymru a thu hwnt, gyda hyfforddiant arloesol, hyblyg a phwrpasol, sy’n darparu atebion sy’n benodol i’w hanghenion.”

Cynigir cyfraniadau mewn sesiynau cyfochrog ar themâu Hyfforddi a Mentora mewn Hinsawdd o Newid. Bydd y cyflwyniadau drwy gyfrwng gweithdai ac arddangosiadau arfer.

Yn ystod y gynhadledd bydd gwesteion yn clywed gan amrywiol brif siaradwyr, yn cynnwys perchennog Elevate BC, Marian Evans. Ymddangosodd Marian yn Rhestr Midas eleni o’r prif fenywod llwyddiannus ym Mhrydain i’w dilyn yn 2022, ochr yn ochr â phobl fel JK Rowling ac Adele. Daeth yn enwog yn erbyn ei dymuniad pan ddaeth y gyfrinach yn hysbys ei bod wedi gwireddu ei breuddwyd plentyndod o feddu ar Gastell Llansteffan a Fferm y Plas. Yn ddiweddarach daeth hyn yn destun rhaglen ddogfen ar S4C o’r enw Teulu’r Castell, a fu’n dilyn ei bywyd hi a’i theulu.

A hithau’n Hyfforddwr a Mentor Gweithredol tra chymwys y mae galw mawr amdani, mae llwyddiannau diweddar Marian yn cynnwys ennill gwobr Menyw Ysbrydoledig y Degawd (Gwobrau WIB) a Mentor y Flwyddyn yn y DU (Gwobrau WIFA). Mae’n berchennog busnes sydd wedi ennill nifer o wobrau, yn Gymrawd y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, yn Gymrawd y Sefydliad Rheolaeth Siartredig, ac yn gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Anweithredol.

Mae wedi buddsoddi’n helaeth mewn eiddo, gyda’r diddordeb hwnnw wedi cychwyn pan oedd yn 18 oed, ac mae Marian hefyd yn sylfaenydd Elevate Business Consultancy ac yn aelod o Gyngor Busnes Forbes. Yn rhinwedd ei swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr Elevate BC a Hyfforddwr a Hwylusydd Gweithredol, mae Marian yn gweithio gyda rhai arweinwyr arbennig yn llywodraeth a phrif sefydliadau’r DU.

Ymhlith y prif siaradwyr eraill mae Athro Ymarfer Academi Golau Glas y Drindod Dewi Sant, yr Athro Kim-Ann Williamson.

Bydd y gynhadledd hon hefyd yn cynnal digwyddiad rhwydweithio ar gyfer Cymdeithas Hyfforddi’r Academi, canolbwynt Cymru gyfan ar gyfer arfer gorau ym maes hyfforddi a mentora.

Yn ystod y prynhawn, cynhelir amrywiol weithdai ar agweddau ar Hyfforddi a Mentora, megis Mentora mewn Addysg, Hyfforddi Tîm a Dysgu Gweithredol.

Bydd myfyrwyr hefyd yn cyflwyno tystebau ac yn rhannu eu profiad o’r modd mae’r cwrs Hyfforddi a Mentora wedi bod o fydd iddyn nhw.

Meddai Julie Crossman, Uwch Ddarlithydd a Rheolwr y Rhaglen Hyfforddi a Mentora:

“Rwy wrth fy modd i rannu’r newyddion gwych hwn gan ein bod wedi cael bwlch o dair blynedd ers dechrau’r pandemig. Rydyn ni mor gyffrous am y posibilrwydd o weld aelodau’r gymuned hyfforddi unwaith eto a dal i fyny gyda ffrindiau, hen a newydd.

“Mae nifer ohonom wedi wynebu newid sylweddol ers i ni gynnal ein cynhadledd ddiwethaf yn 2019 ac mae thema’r gynhadledd hon eleni yn parchu ac yn adlewyrchu hyn. Mae gennym brif siaradwyr gwirioneddol ysbrydoledig a fydd yn rhannu eu profiad fel hyfforddwyr a mentoriaid, ynghyd ag ystod o sesiynau dosbarth meistr diddorol ac ysgogol. Byddwn yn mynd ati’n weithredol i hwyluso adfyfyrio yn ystod y dydd, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ailgychwyn y gynhadledd ac ail-sefydlu ein Cymdeithas Hyfforddi a Mentora ar gyfer ei haelodau.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau