Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn cydweithio’n ddiweddar ag ysgol Syrffio Sir Benfro er mwyn arddangos eu cwmni.

Logo ysgol syrffio yn Sir Benfro, Outer Reef

Gofynnwyd i fyfyrwyr BA Gwneud Ffilmiau Antur greu cynnwys fideo cyfryngau cymdeithasol ar gyfer yr ysgol syrffio Outer Reef yn Sir Benfro er mwyn hybu eu cynnyrch a’u gwasanaethau yn Ninbych-y-pysgod a Llanusyllt.

Dwedodd y darlithydd Brett Aggersberg fod y cyfle hwn i fyfyrwyr yn:

“ffordd wych o ddechrau eu gyrfa mewn Gwneud Ffilmiau Antur. Diwydiant deinamig sy’n tyfu’n gyflym yw hwn. Mae’n gofyn am wneuthurwyr ffilmiau a ffotograffwyr a all feddwl yn wahanol, datblygu ffyrdd newydd o weithio a symud yr un mor gyflym â gofynion y sector antur. Derbyniodd y myfyrwyr yr her a goresgyn anawsterau gyda’r tywydd i greu cynnwys cyfoes a fydd yn elwa busnes lleol, a darparu profiad o’r byd go iawn ar gyfer eu CV.”

Roedd y prosiect yn cynnwys ffilmio cyfweliadau, creu saethiadau o’r cynnyrch, a saethiadau byw o gaiacio ar y môr, hyfforddiant achub a phadlfyrddio. Roedd y cyfle hwn yn galluogi myfyrwyr i arddangos eu sgiliau creadigol hwythau ar y naill law tra’n cynhyrchu cynnwys i arddangos Outer Reef ar y llall.

Soniodd un myfyriwr o’r cwrs ei fod yn:

“Meddwl ei fod yn gyfle cŵl i weithio gyda chwmni syrffio a chyfle gwych i gael profiad gwaith yn y byd go iawn.”

Fel rhan o’r prosiect hefyd, darparodd y darlithydd Dave Welton ddarn o ffilm unigryw o Borthladd Llanusyllt a ffilmiwyd gan ddrôn.

Meddai Mike May, Rheolwr Datblygu Busnes Ysgol Syrffio Outer Reef:

“Roedd gwir synergeddau yng nghynnwys y cwrs a’n gofynion busnes i gael safbwyntiau marchnata ffres ar ein gweithgareddau antur. Dangosodd y myfyrwyr ddealltwriaeth o’r dasg, gan oresgyn nifer o heriau yn gysylltiedig â’r tywydd er mwyn llunio cynnwys ardderchog ar ein cyfer. Rydym yn hapus i fuddsoddi’n hamser hyfforddi er mwyn parhau i gydweithio â’r Brifysgol i gynnig profiad masnachol i’r myfyrwyr.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau