Mae ein MA mewn Astudiaethau Addysg yn meithrin ymwybyddiaeth feirniadol o faterion addysgol cyfoes.
Byddwch hefyd yn datblygu ac yn gwella eich sgiliau academaidd a’ch sgiliau ymchwilo gyda’r cymhwyster ôl-raddedig hwn.
Mae dysgu sut i ddangos gwybodaeth gadarn am eich pwnc a sut i’w werthuso mewn ffordd fyfyriol a beirniadol yn rhan bwysig o’r radd Meistr yma.
Gallwch astudio’r cwrs hwn yn Abertawe, ond mae hefyd ar gael fel cymhwyster ar-lein yn y DU ac yn rhyngwladol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Gan fod addysg y cwrs yn canolbwyntio ar y myfyriwr a chan fod cyfleoedd i deilwra asesiadau trwy fyfyrio cewch gymryd rhan mewn ffordd sy’n ystyrlon i chi a’ch datblygiad.
Trwy wneud i chi ystyried a defnyddio’r hyn y byddwch yn ei ddysgu am eich sgiliau eich hun, mae’r rhaglen yn annog datblygiad proffesiynol parhaus yn ogystal â meithrin agwedd fyfyriol a gwrthblygol.
Mae tîm y rhaglen yn canolbwyntio ar asesu ar gyfer dysgu, yn ogystal ag asesu dysgu, gyda phwyslais allweddol ar ddatblygu a gwella sgiliau llythrennedd asesu.
Mae’r rhaglen wedi’i datblygu gydag agwedd gyfannol tuag at y sgiliau a’r rhinweddau y mae angen i chi eu datblygu, er mwyn eich cefnogi chi fel dysgwr ac fel ymarferydd cyflogadwy.
Cewch gefnogaeth ar ffurf arweiniad tiwtor o ran dulliau asesu, a bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i geisio cefnogaeth eu cyd-fyrwyr er mwyn gwella datblygiad eu sgiliau.
Mae’r holl hyfforddiant yn digwydd trwy’r Saesneg, ond mae croeso i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith cwrs yn Gymraeg.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(60 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Fel rheol, bydd ymgeiswyr angen gradd Anrhydedd, er y byddwn hefyd yn ystyried ymgeiswyr sydd â chymwysterau galwedigaethol a phrofiad.
Rydym yn derbyn ceisiadau o’r DU ac yn rhyngwladol.
Bydd rhaid i ymgeiswyr rhyngwladol a rhai o’r DU gael cyfweliad academaidd cyn cael cynnig lle.
-
Ar y cyfan, mae’r dulliau asesu’n seiliedig ar waith cwrs, gyda ffocws ar gynnig ystod o wahanol ffurfiau posibl, gan gynnwys cyflwyniadau, portffolios, ymatebion i astudiaethau achos yn ogystal ag aseiniadau ysgrifenedig.
Efallai y bydd y dulliau asesu yn gyfarwydd i fyfyrwyr rhyngwladol yng nghyd-destun y DU, ond yn anghyfarwydd iddyn nhw fel myfyrwyr. Os byddwch angen cymorth ac arweiniad yn ystod y rhaglen, defnyddir ystod o dechnegau sgaffaldwaith i’ch cefnogi.
Mae patrymau cyflwyno ac asesu’r rhaglen wedi’u creu er mwyn bod mor gynhwysol ag sy’n bosibl i bob myfyriwr, gyda phwyslais ar ddysgu mewn grwpiau bychain a chefnogaeth wedi’i theilwra.
Mae tri dull astudio: ar y campws, ar-lein a chyfun (cymysgedd o fodiwlau ar y campws ac ar-lein).
-
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i’ch helpu gyda’ch astudiaethau. I ddysgu mwy am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
-
Mae’r rhaglen wedi’i dylunio er mwyn datblygu eich galluoedd allweddol o ran cyflogadwyedd. Mae’r galluoedd allweddol yn cynnwys sgiliau fel cyfathrebu, arwain, a rheoli prosiectau, sgiliau sy’n hynod drosglwyddadwy ac sy’n ddeniadol i gyflogwyr modern.
Bydd yr hyblygrwydd i ddewis pynciau aseiniadau yn eich galluogi i addasu’r rhaglen i gyd-fynd â’ch diddordebau a’ch uchelgeisiau proffesiynol chi, ac felly bydd eich astudiaethau’n berthnasol i chi a’ch gweithle presennol neu yn y dyfodol.