Skip page header and navigation

Mae Chloe Duggan, myfyrwraig ail flwyddyn ar y cwrs Darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (UWTSD), wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol ar ôl ennill gwobr ‘Graphite Pencil’ (Pensil Graffit) fawreddog yng Ngwobrau D&AD New Blood, a gynhaliwyd yn Protein Studios yn Shoreditch, Llundain.

A happy, smiling student standing against a bright yellow branded background, holding her award.

Derbyniodd Chloe y wobr am ei gwaith animeiddio a grewyd ar gyfer briff ‘Secret 7” War Child’. Y ‘Graphite Pencil’ oedd y wobr uchaf yn y categori, gan ei gosod ymhlith y doniau creadigol newydd sy’n arwain y byd. Daeth enillwyr cystadleuaeth ryngwladol y myfyrwyr eleni o bob cwr o’r byd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Sbaen a Tsieina.

Dywedodd Chloe: “Mae wedi cael effaith enfawr arnaf. Rwy’n wirioneddol gredu ynof fy hun nawr, ac rwyf mor awyddus i symud ymlaen i ennill ‘White Pencil’ yn y dyfodol a defnyddio fy nghreadigrwydd er daioni.”

Ychwanegodd: “Roedd hi’n brofiad emosiynol ac anhygoel bod yn yr ystafell gyda’r holl dalent oedd yno. Roeddwn i’n teimlo mor falch o sefyll ochr yn ochr â nhw, gan fod y gwaith a gafodd ei ddathlu yn anhygoel.”

Dywedodd Martin Bush, Rheolwr y Rhaglen Darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe: “Mae’n amlwg bod gan ein myfyrwyr y sgiliau crefft a chysyniadol i ddenu sylw rhyngwladol ar y lefel uchaf. Mae ennill ‘Pencil’ D&AD New Blood yn gyflawniad sylweddol i unrhyw fyfyriwr creadigol, gan ei fod yn cael ei gydnabod fel un o’r gwobrau uchaf yn y diwydiannau creadigol. Mae llwyddiant Chloe yn eithriadol.”

Cyn i’r flwyddyn academaidd newydd ddechrau, bydd Chloe yn teithio i Fiji fel rhan o Raglen Ryngwladol ‘Go Global’ UWTSD, lle bydd yn gwirfoddoli dramor. Yn dilyn ei llwyddiant rhyngwladol, mae’r profiad yn nodi cam cyffrous arall yn yr hyn sy’n addo bod yn ddyfodol creadigol disglair ar y llwyfan byd-eang.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon