Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd (Llawn amser) (MA)
Mae’r MA mewn Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd yn gwrs ôl-raddedig unigryw a gynigir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae’r cwrs ar gael ar-lein, ac ef yw’r cyntaf o’i fath yn Ewrop. Fe’i cynlluniwyd i helpu myfyrwyr i ddeall a chyfrannu at faes cynllunio ieithyddol, sy’n tyfu’n gyflym, a datblygu cymunedau dwyieithog ac amlieithog, yng Nghymru ac o amgylch y byd.
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar lawer o wahanol agweddau ar ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd. Mae’n edrych ar sut mae ieithoedd yn cael eu defnyddio mewn gwahanol gymdeithasau a sut maen nhw’n effeithio ar fywyd bob dydd. Byddwch yn dysgu am enghreifftiau cenedlaethol a rhyngwladol o ddwyieithrwydd, gan roi dealltwriaeth eang i chi o’r pwnc. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i’ch helpu i feddwl yn feirniadol a dadansoddi sut mae polisïau iaith yn cael eu datblygu a sut maen nhw’n effeithio ar gymdeithas.
Mae’r MA hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno gweithio mewn meysydd fel addysgu iaith, cynllunio ieithyddol neu ddadansoddi iaith. Byddwch yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gymhwyso damcaniaethau dwyieithrwydd ac amlieithrwydd i sefyllfaoedd yn y byd go iawn. P’un a ydych am weithio ym maes addysg, ymchwil neu lunio polisi, bydd y cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi.
Byddwch yn archwilio’r ymchwil diweddaraf yn y maes, gan gynnwys ymchwil dwyieithrwydd rhyngwladol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn dysgu am y damcaniaethau a’r syniadau diweddaraf yn y maes. Mae’r cwrs hefyd yn canolbwyntio ar feithrin eich sgiliau trosglwyddadwy. Mae’r rhain yn cynnwys gallu ymchwilio, dadansoddi data, a defnyddio technoleg i gyflwyno eich canfyddiadau. Byddwch hefyd yn magu hyder wrth weithio ar brosiectau, yn annibynnol ac mewn timau.
Mae’r cwrs yn hyblyg a gellir ei astudio’n llawn amser neu’n rhan-amser, gan ganiatáu i chi astudio mewn ffordd sy’n gweddu i’ch ffordd o fyw. Mae’r cwrs wedi denu myfyrwyr o lawer o wledydd, gan gynnwys yr Eidal, yr Almaen, Brasil, a Tsieina. Mae myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i fynychu cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol ar ddwyieithrwydd a chynllunio ieithyddol, gan ehangu eu gwybodaeth a’u cyfleoedd rhwydweithio ymhellach.
Os ydych chi’n angerddol am ddeall sut mae ieithoedd yn siapio ein byd ac eisiau cael effaith wirioneddol yn y maes hwn, mae’r MA mewn Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd yn PCYDDS yn ddewis perffaith.
Course details
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein MA mewn Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd yn cynnig cyfuniad unigryw o theori a chymhwysiad ymarferol, wedi’i gynllunio i roi i chi’r sgiliau meddwl beirniadol a dadansoddol sydd eu hangen ar gyfer rolau proffesiynol mewn dwyieithrwydd, amlieithrwydd a chynllunio ieithyddol.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn archwilio agweddau gwybyddol a chymdeithasol ar ddefnyddio iaith, gan ennill dealltwriaeth ddofn o sut mae ieithoedd yn siapio unigolion a chymunedau. Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i gysyniadau allweddol o ran addysgu iaith a pholisïau iaith, gan sicrhau y gallwch gymhwyso’r egwyddorion hyn mewn amrywiaeth o gyd-destunau proffesiynol.
Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn ymgysylltu’n feirniadol â’r ymchwil diweddaraf yn y maes ac yn dadansoddi sut y gall cynllunio ieithyddol ddylanwadu ar ddyfodol addysg a pholisi. Elfen graidd o’r cwrs yw eich prosiect traethawd hir, lle cewch gyfle i gynnal ymchwil gwreiddiol ar bwnc o’ch dewis yn ymwneud â dwyieithrwydd neu amlieithrwydd. Mae’r prosiect hwn yn eich galluogi i ddangos eich sgiliau ymchwil, dadansoddi amrywiad iaith, a chymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol i heriau’r byd go iawn.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych arbenigedd sylfaenol ac uwch, gan eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd ym maes dadansoddi iaith, addysgu a gwneud polisïau.
(30 Credyd)
(30 Credyd)
(30 Credyd)
(30 Credyd)
(60 credydau)
Disclaimer
-
The modules outlined above provide examples of what you can expect to learn on this course based on recent academic teaching. We continuously review our courses to ensure quality enhancement and to manage our resources. The precise modules available to you in future years may vary depending on staff availability and research interests, new topics of study, timetabling and student demand. Where your course includes optional modules, these are to provide an element of choice within the course. The availability of optional modules may vary from year to year and will be subject to minimum student numbers being achieved. This means the availability of specific optional modules cannot be guaranteed.
You’ll typically complete 120 credits per year of study on a full-time course. For more information visit our Student Agreement.
tysteb
Visit Us At An Open Day
Get to know us, the place you will call home while studying with us and the experts who lead our courses. Meet current students and hear what they love about studying with us.
Staff
Our People
You will be taught and supported by a wide range of professional staff and teams here to help you get the university experience you are looking for. Our teaching staff were ranked 2nd in Wales for Teaching, Assessment and Feedback and Academic Support (NSS 2024) meaning that the support and feedback you get will help you learn and develop strong academic skills. Our students have placed us 1st in Wales for Learning Opportunities and Student Voice (NSS 2024) meaning that there are a wide range of opportunities available to enhance your studies and that students play an active role in shaping their learning experiences. Our commitment to your learning has seen our students place us as 1st in Wales and joint 3rd in the UK for student satisfaction (Times Higher Education, 2024, ‘Overall Positivity’ measure). Find out more about our academic staff who teach across our courses.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:2
- neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS.
Llwybrau mynediad amgen
- Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. Ôl-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau Tyst. Ôl-radd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i weddill y radd Meistr.
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’n raddau roeddech eu hangen i gael lle ar y radd hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannuOs nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Mabwysiedir amryw ddulliau asesu er mwyn galluogi myfyrwyr i arddangos eu gwybodaeth a’u medrau mewn perthynas â’r deilliannau dysgu, gan gynnwys:
- aseiniadau ysgrifenedig
- cyflwyniadau
- traethodau hir.
Dewisir dulliau asesu ar sail eu haddasrwydd gogyfer â sicrhau y gall myfyrwyr arddangos eu bod wedi cyflawni’r deilliannau dysgu hynny a nodir yn glir ar gyfer pob modwl ac y seilir meini-prawf yr asesu arnynt.
Ar ddechrau pob modwl fe ddarperir i bob myfyriwr:
- yr aseiniad(au) ar gyfer asesu’r modwl ynghyd â phwysoliad pob aseiniad
- rhestr o’r meini prawf a ddefnyddir i farcio aseiniad neu gyflwyniad
- cyfarwyddyd ychwanegol parthed gofynion y dasg/tasgau a osodwyd a dyddiadau ar gyfer cyflwyno.
O ganlyniad i gwblhau aseiniad, caiff pob myfyriwr:
- adroddiad ffurfiol a fydd yn cynnwys asesiad o’r meini-prawf unigol y seiliwyd y marc terfynol arnynt, ynghyd ag adborth a fydd hefyd yn cynnwys sylwadau ar sut i wella fel rhan o broses ffurfiannol
- cyfle i drafod yr aseiniad ymhellach â thiwtor os oes angen
Ail-asesir pob aseiniad yn fewnol gan ail-farciwr yn ogystal ag arholydd allanol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae gan y Brifysgol adnoddau arbennig yn y maes sydd yn ein galluogi i gynnig ystod o fodylau i gwrdd â gofynion datblygiad proffesiynol a diddordebau personol. Y mae ffocws y radd yn eang ac, felly, mae’n addas ar gyfer ystod o feysydd proffesiynol gyda’r nod i arfogi myfyrwyr â’r wybodaeth gefndirol a’r sgiliau angenrheidiol i fedru gweithio’n hyderus ym maes dwyieithrwydd / amlieithrwydd a chynllunio iaith. Mae’r cwrs yn cynnig ystod eang o brofiadau ac, felly, bydd yn apelio at unrhyw un sydd yn gysylltiedig â datblygu defnydd o’r iaith Gymraeg ac / neu ieithoedd eraill yn y gymdeithas gyfoes, gan gynnwys, er enghraifft:
- Athrawon a Hyfforddwyr
- Cyfieithwyr
- Gweithwyr Ieuenctid / Cymunedol
- Swyddogion Iaith
- Cynllunwyr Iaith
- Swyddogion y Llywodraeth / Llunwyr Polisi
Cynigia’r radd MA gyfle i fynd ymlaen i wneud gwaith ymchwil yn ddiweddarach ar gyfer gradd Ph.D os dymunir.