TAR Uwchradd Cerddoriaeth gyda SAC (Llawn amser) (TAR)
Ysbrydolwch gerddorion yfory heddiw gyda’n cwrs TAR Uwchradd Cerddoriaeth. Mae’r rhaglen hon, sy’n rhan o’n darpariaeth Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), yn eich paratoi i feithrin doniau cerddorol myfyrwyr ac ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC). Cewch gyfuniad o addysgu yn y brifysgol a lleoliadau mewn ysgolion, gan ganolbwyntio ar ddulliau creadigol ar gyfer cynllunio, addysgu, ac asesu.
Mae’r cwrs yn cwmpasu pob grŵp blwyddyn uwchradd, yn cynnwys TGAU a Safon Uwch, gan sicrhau dealltwriaeth gynhwysfawr o wybodaeth am y cwricwlwm. Arweinir darlithoedd rhyngweithiol ac ysgogol a gweithdai ymarferol gan ymarferwyr ystafell ddosbarth profiadol. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau hanfodol o ran arfer adfyfyriol ac addysgeg.
Gan ddefnyddio eich sgiliau cerddorol personol o ran perfformio, cyfansoddi, a thechnoleg cerddoriaeth, byddwch yn archwilio arddulliau amrywiol o jazz i gerddoriaeth electronig a cherddoriaeth Gymreig mewn cyd-destun addysgu. Cewch brofiad o amrywiaeth o amgylcheddau addysgu drwy leoliadau trefol a gwledig, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae profiad addysgu proffesiynol (PAP) a chymorth mentoriaid yn ganolog i’ch hyfforddiant.
Mae’r rhaglen yn pwysleisio sgiliau adfyfyrio a dulliau addysgu arloesol i’ch helpu i dyfu’n athro sy’n ysbrydoli. Mae cymorth ariannol ar gael drwy ein bwrsariaethau ac ysgoloriaethau.
Course details
- Saesneg
- Cymraeg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r TAR yn rhaglen academaidd a phroffesiynol amser llawn a chynhwysfawr a luniwyd i’ch paratoi am yrfa lwyddiannus yn addysgu. Mae’r rhaglen yn cwmpasu 36 wythnos, gydag oddeutu 12 wythnos o ddarpariaeth yn y brifysgol ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgolion.
Cwricwlwm Craidd
Ein cwricwlwm craidd arloesol a achredwyd yn ddiweddar yw asgwrn cefn ein rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA). Mae’n cynnwys:
- Modylau Gorfodol: Mae’r modylau hanfodol hyn yn cwmpasu agweddau sylfaenol ar addysgu ac addysg.
- Datblygu Sgiliau Ymchwil: Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil beirniadol sy’n hanfodol ar gyfer arfer adfyfyriol a datblygiad proffesiynol parhaus.
- Llwybr Proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC): Mae’r llwybr hwn yn sicrhau eich bod yn bodloni’r safonau proffesiynol sy’n ofynnol ar gyfer SAC.
- Llwybr Datblygu’r Gymraeg: Byddwch yn gwella’ch gallu i addysgu a chyfathrebu yn y Gymraeg, sgil gwerthfawr yn ein system addysg ddwyieithog.
- Pontio: Gweithgareddau sy’n integreiddio damcaniaeth yn ddi-dor â chymhwyso’n ymarferol, gan atgyfnerthu eich profiad dysgu.
- Profiadau dewisol: Dewiswch brofiad yn yr ysgol mewn maes o ddiddordeb i ddyfnhau eich arbenigedd a’ch sgiliau ymarferol.
- Lleoliad Amgen: Cewch fewnwelediad drwy brofi lleoliadau addysg tu allan i ysgolion traddodiadol, megis amgylcheddau addysg arbennig.
Partneriaeth Gydweithredol
Rydym yn gweithio mewn cydweithrediad agos ag amrywiaeth o ysgolion, yn cynnwys ysgolion cynradd ac arbennig. Mae’r bartneriaeth hon yn cynnig ystod amrywiol o brofiadau addysgu i chi, gan ehangu eich gwybodaeth ymarferol a’ch sgiliau.
Cyfleoedd Datblygu Proffesiynol
- Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa: Cynhadledd Anelu at Ragoriaeth: Gallwch gymryd rhan yn ein cynhadledd fawreddog, gan wella eich rhwydwaith proffesiynol a dysgu gan arbenigwyr.
- Ysgrifennu Blog: Cewch gyfrannu i’n blog addysgol, gan rannu eich dealltwriaeth a phrofiadau.
- Canolfannau Ymchwil: Cewch fudd o’n canolfannau ymchwil, gyda mynediad at ymchwil addysg a methodolegau blaengar.
Erbyn diwedd y rhaglen hon, byddwch wedi’ch paratoi’n dda gyda’r profiad ymarferol, y sgiliau ymchwil, a’r wybodaeth broffesiynol i ragori fel athro cymwysedig.
(20 credydau)
(30 credydau)
(10 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
Ymwrthodiad
-
The modules outlined above provide examples of what you can expect to learn on this course based on recent academic teaching. We continuously review our courses to ensure quality enhancement and to manage our resources. The precise modules available to you in future years may vary depending on staff availability and research interests, new topics of study, timetabling and student demand. Where your course includes optional modules, these are to provide an element of choice within the course. The availability of optional modules may vary from year to year and will be subject to minimum student numbers being achieved. This means the availability of specific optional modules cannot be guaranteed.
You’ll typically complete 120 credits per year of study on a full-time course. For more information visit our Student Agreement.
tysteb
Visit Us At An Open Day
Get to know us, the place you will call home while studying with us and the experts who lead our courses. Meet current students and hear what they love about studying with us.
Staff
Our People
You will be taught and supported by a wide range of professional staff and teams here to help you get the university experience you are looking for. Our teaching staff were ranked 2nd in Wales for Teaching, Assessment and Feedback and Academic Support (NSS 2024) meaning that the support and feedback you get will help you learn and develop strong academic skills. Our students have placed us 1st in Wales for Learning Opportunities and Student Voice (NSS 2024) meaning that there are a wide range of opportunities available to enhance your studies and that students play an active role in shaping their learning experiences. Our commitment to your learning has seen our students place us as 1st in Wales and joint 3rd in the UK for student satisfaction (Times Higher Education, 2024, ‘Overall Positivity’ measure). Find out more about our academic staff who teach across our courses.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd Israddedig
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd dda (o leiaf 2:2) mewn maes sy’n gysylltiedig â’r dewis bwnc uwchradd.
Cymwysterau TGAU
- Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Saesneg – Iaith neu Cymraeg – Iaith neu safon gyfwerth.
- Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Mathemateg neu TGAU Rhifedd neu safon gyfwerth.
Yn ogystal bydd angen i ddarpar athrawon sy’n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg gael TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg (Iaith Gyntaf).
Cymwysterau Lefel A/Galwedigaethol Lefel 3
Os nad oes gan ymgeiswyr radd israddedig mewn pwnc cwricwlwm, rhaid iddynt brofi eu bod wedi astudio’n llwyddiannus ar lefelau uwch.
Profiad Gwaith
Dylech fod yn ymwybodol o realiti bod yn athro ac o fywyd yn yr ystafell ddosbarth ac felly rydym yn gofyn am brofiad diweddar a pherthnasol o leoliad addysg uwchradd. Gall hyn fod trwy swydd neu drwy wirfoddoli mewn ysgol a ddylai fod am gyfnod o ddwy wythnos ar y lleiaf.
Bydd magu hyder mewn ystafell ddosbarth ysgol yn helpu i gryfhau eich cais ac yn sail feirniadol well ar gyfer eich datganiad personol. Hefyd, fe fydd yn eich paratoi at ein proses dethol ac yn rhoi peth profiad i chi y gallwch ei ddefnyddio yn eich cyfweliad.
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad clirio uwch DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth a dylech sicrhau eu bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa weinyddol y TAR Uwchradd: 01792 482111 yn TeacherEd@pcydds.ac.uk
Am beth ydym ni’n chwilio?
- Safbwynt positif o addysg fel ffordd i drawsnewid bywydau
- Cymhelliant i fod yn athro rhagorol
- Awydd empathig i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc
- Agweddau positif at gyfiawnder, cynhwysiant ac ecwiti cymdeithasol
- Gallu i weithio’n unigol ac fel rhan o dîm
- Egni, brwdfrydedd a hyblygrwydd
- Gwydnwch a dibynadwyedd
- Agweddau ac ymddygiad proffesiynol
- Parodrwydd i ddysgu gydol eich oes
Sut ydym ni’n dewis ein darpar athrawon?
- Ansawdd y datganiad personol
- Tystiolaeth o arbenigedd pwnc
- Profiad diweddar a pherthnasol mewn lleoliad addysgol
- Ansawdd y cyfweliad unigol
- Perfformiad mewn profion dethol – e.e. llythrennedd, rhifedd a chymeriad
-
Strwythur y Rhaglen
Cyflwynir y rhaglen dros 36 wythnos gan staff Partneriaeth Dysgu Broffesiynol yr Athrofa. Mae cyflwyno’r rhaglen yn y ffordd hon yn dod ag arbenigedd ymarferol o’r sector ysgol at ei gilydd ag ymchwil ac arbenigedd addysg uwch.
Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12 wythnos yn y brifysgol ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgol.
Mae’r rhaglen yn cynnwys cwricwlwm craidd a ddarperir ar draws ein casgliad o raglenni HGA. Mae hyn yn cynnwys:
- Modylau Gorfodol
- Datblygu sgiliau ymchwil
- Llwybr proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig
- Llwybr Datblygu’r Gymraeg
- Pontio – gweithgareddau sy’n dod â theori ac arfer at ei gilydd
- Maes Dewisol – profiad mewn ysgol yn dilyn maes penodol o ddiddordeb
- Lleoliad amgen – cyfle i gael profiad mewn lleoliadau addysg nad ydynt yn ysgolion
Darpariaeth prifysgol
Mae’r ddarpariaeth prifysgol ôl-radd yn cael ei gynnal yn ein campws newydd o’r radd flaenaf ar ardal marina Abertawe. Gyda’r dechnoleg addysgu ddiweddaraf a mannau eang i fyfyrwyr astudio ynddynt, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau creadigol ac arloesol a fydd yn eich paratoi at y cwricwlwm newydd.
Mae eich amser yn y brifysgol yn ffocysu ar ddysgu addysgeg o ansawdd uchel sy’n cael effaith bositif yn yr ystafell ddosbarth. Gan weithio gydag addysgwyr athrawon sy’n arbenigwyr yn eu maes nhw o addysg, byddwch yn dysgu sgiliau mewn deall sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu a sut y gallent ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus.
Mae ein hathroniaeth addysgu yn annog ein darpar athrawon i gymryd rhan mewn dadleuon bywiog a meddwl gweithredol sy’n datblygu eich sgiliau meddwl creadigol ac ymgysylltu. Bydd hyn yn eich paratoi at fod yn athro sy’n seilio’ch arfer ar ymchwil ac yn ymchwilio’n weithredol, ac yn barod i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc.
Strwythur y Rhaglen – profiad yn yr ysgol
Bydd eich Profiad Addysgu Proffesiynol (PAP) yn digwydd dros gyfnod o 24 wythnos mewn ysgol, gyda dau leoliad addysgu o sylwedd. Bydd y rhain mewn rhwydwaith PDPA sy’n cynnwys ysgol a fydd yn arwain a nifer o ysgolion partneriaeth lle bydd mentoriaid profiadol a thiwtoriaid prifysgol yn eich cefnogi wrth i chi gyflawni SAC.
Mae pob profiad addysgu mewn lleoliadau gwahanol i roi ichi ystod o brofiadau a’r cyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth o ymagweddau at addysgu a dysgu.
Yn ystod eich profiad ysgol, cewch eich cefnogi i gyfuno theori ac arfer fel y gallwch ddatblygu’r sgiliau adfyfyriol sydd eu hangen i fod yn athro tra llwyddiannus.
Cewch gyflwyniad i addysgu fesul cam i roi amser ichi fagu hyder, datblygu gwybodaeth o’r cwricwlwm a sgiliau trefnu ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda grwpiau bach o ddysgwyr cyn symud tuag at fod yn gyfrifol am y dosbarth cyfan.
Bydd seminarau a gynhelir mewn ysgolion ac a gyflwynir gan fentoriaid a staff prifysgol yn rhoi’r cyfle ichi gwrdd â myfyrwyr eraill yn eich rhwydwaith a chymryd rhan mewn trafodaeth gydweithredol. Mae adfyfyrio mewn ffordd a rennir fel hyn yn arf grymus wrth symud eich arfer ymlaen.
Mae ein partneriaeth o rwydweithiau’n cynnig lleoliadau trefol a gwledig yn ogystal â lleoliadau sydd ar gael naill ai mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.
-
Mae’r rhaglen yn cynnig 60 credyd ar lefel Meistr a 60 credyd ar lefel Graddedig. Dyfernir y rhain wrth gwblhau asesiadau modwl yn llwyddiannus, sy’n cynnwys:
- Astudiaethau achos
- Portffolios
- Cyflwyniad fideo
- Prosiect Ymchwil
Mae pob aseiniad wedi’i gysylltu’n agos ag arfer ac wedi’u dylunio i gynnig cyfle i chi ddatblygu addysgu a dysgu sy’n cael effaith bositif ar blant a phobl ifanc.
-
Cwrs Cyfrwng Cymraeg yw hwn.
Golyga hyn bod y cwrs hwn ar gael yn llawn yn Gymraeg (360 Credyd/100%).
Os byddwch yn dewis astudio eich cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi eich astudiaethau.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae llawer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn wynebu rhai costau ychwanegol na ellir eu hosgoi yn ogystal â chost eu hyfforddiant yn y brifysgol. Mae’r rhain fel a ganlyn:
Costau gorfodol:
- Teithio i ysgolion lleoliad ac i’r Brifysgol.
- Teithio i ddarpariaeth arbenigol oddi ar y safle (gan gynnwys ysgolion a darparwyr hyfforddiant eraill).
- Teithio i ysgolion ar gyfer ‘Diwrnodau Pontio’ a mentrau eraill ar gyfer y garfan gyfan, yn unol â’r calendr.
- Y defnydd o liniadur (mae MS Office yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr).
- Myfyrwyr Celf – teithiau i orielau Lundain ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Llyfr braslunio â rhwymyn sbiral A3, portffolio A1
Costau Angenrheidiol:
- Teithio i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi pwnc a drefnir gan y Tiwtor Pwnc
- Adnoddau addysgu, er enghraifft, gwerslyfrau Safon Uwch/TGAU
- Teithio i leoliadau ‘Meysydd Dewisol’
Dewisol:
- Costau argraffu
- Teithiau astudio dewisol
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae gan Yr Athrofa gyfraddau cyflogaeth graddedigion rhagorol gyda 99% o raddedigion yn mynd ymlaen i waith neu astudiaethau pellach.
Mae gan adrannau llawer o ysgolion a cholegau, yn lleol a chenedlaethol, nifer o’n hathrawon ac mae llawer wedi mynd ymlaen i lunio gyrfaoedd addysgu llwyddiannus ar lefel strategol, proffesiynol a rheoli yma yng Nghymru a thramor.
Fel arfer mae ein graddedigion TAR yn cadw mewn cysylltiad agos â’r Athrofa wrth iddynt lunio eu gyrfaoedd ym myd addysg ac yn aml, maent yn mynd ymlaen i fod yn fentoriaid pwnc ar y rhaglen. Mae hyn yn creu rhwydwaith proffesiynol cryf, cynaliadwy o athrawon, sy’n ffynhonnell gyfoethog o ddatblygu proffesiynol parhaus.