Cyfrifiadura Cymhwysol (Llawn amser) (HND - Diploma Cenedlaethol Uwch)
Mae’r sector TG yn cynnig gyrfaoedd ar draws ystod eang o ddisgyblaethau cyfrifiadura yn cynnwys peirianneg meddalwedd, rheolaeth data, AI, rhwydweithio, seiberddiogelwch, profiad defnyddwyr a thechnolegau gwe. Drwy astudio’r rhaglen hon, byddwch yn datblygu ystod eang o sgiliau technegol cysylltiedig â chyfrifiadura cymhwysol. Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cyfleoedd i astudio technolegau a ddefnyddir ar draws y sector cyfrifiadura.
Rhoddir pwyslais sylweddol ar reoli data a gweithredu cymwysiadau ar gyfer trin a thrafod gwybodaeth, yn cynnwys systemau cronfa ddata a chymwysiadau gwe. Yn ogystal, yn un o raddedigion y rhaglen hon, byddwch wedi dysgu sgiliau i’ch galluogi i arwain timau a rheoli prosiectau.
Rydym yn cydnabod ei fod yn bosibl nad yw myfyrwyr eto wedi adnabod maes o ddiddordeb ac yn hytrach eu bod yn dymuno astudio amrywiaeth o bynciau cyn ffocysu ar thema ddewisol. Lluniwyd y rhaglen Cyfrifiadura Cymhwysol ar gampws Abertawe i fodloni’r angen hwn ac mae’r rhaglen yn cynnig detholiad helaeth o bynciau dewisol wedi’u tanategu gan sylfaen o fodylau craidd, bydd tiwtoriaid profiadol yn eich tywys wrth ddewis modylau sy’n gysylltiedig â’ch dewis arbenigedd.
Rydym hefyd yn cynnig mynediad i’n holl raglenni gradd yn Abertawe drwy ein Blwyddyn Sylfaen yn rhan o’n hymrwymiad i “Ehangu Mynediad”. Llwybr mynediad yw hwn at gyfer myfyrwyr sy’n ceisio newid gyrfa neu’r rheiny sydd angen diweddaru eu sgiliau er mwyn bodloni’r gofynion mynediad.
Course details
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein rhaglen Cyfrifiadura Cymhwysol yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol, meddwl beirniadol, a gwybodaeth sy’n berthnasol i’r diwydiant. Rydym yn cyfuno profiad ymarferol gyda dysgu damcaniaethol dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, i’ch paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y sector TG.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gref trwy astudio amrywiaeth eang o bynciau, mewn datblygu meddalwedd, mathemateg cyfrifiadura, cysyniadau gwe a chronfeydd data, a saernïaeth gyfrifiadurol. Byddwch hefyd yn dechrau datblygu sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu hanfodol, gan osod y sylfeini ar gyfer pynciau mwy datblygedig yn y blynyddoedd i ddod.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn caniatáu i chi arbenigo ymhellach, gyda modiwlau mewn rheoli prosiectau TG, dadansoddi systemau, gwaith Fforensig ar gyfrifiaduron ac egwyddorion peirianneg meddalwedd a phrofi meddalwedd. Byddwch hefyd yn dysgu am systemau gweithredu rhwydwaith a gwasanaethau rhwydwaith yn ogystal â modiwlau dewisol, megis rhoi ar waith rhwydweithio uwch, a Rhaglennu Ystadegol gan wella eich galluoedd technegol a dadansoddol.
Gorfodol
(20 credyd)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
The modules outlined above provide examples of what you can expect to learn on this course based on recent academic teaching. We continuously review our courses to ensure quality enhancement and to manage our resources. The precise modules available to you in future years may vary depending on staff availability and research interests, new topics of study, timetabling and student demand. Where your course includes optional modules, these are to provide an element of choice within the course. The availability of optional modules may vary from year to year and will be subject to minimum student numbers being achieved. This means the availability of specific optional modules cannot be guaranteed.
You’ll typically complete 120 credits per year of study on a full-time course. For more information visit our Student Agreement.
tysteb
UWTSD is proud to be a Cisco Premier Partner, recognising our expertise in networking and cybersecurity. This partnership provides our students with access to industry-leading technology, hands-on training, and globally recognised certifications, enhancing their career prospects in the IT sector. As a Premier Partner, UWTSD benefits from exclusive resources, expert support, and research collaborations, ensuring we remain at the forefront of digital innovation.
Visit Us At An Open Day
Get to know us, the place you will call home while studying with us and the experts who lead our courses. Meet current students and hear what they love about studying with us.
Staff
Our People
You will be taught and supported by a wide range of professional staff and teams here to help you get the university experience you are looking for. Our teaching staff were ranked 2nd in Wales for Teaching, Assessment and Feedback and Academic Support (NSS 2024) meaning that the support and feedback you get will help you learn and develop strong academic skills. Our students have placed us 1st in Wales for Learning Opportunities and Student Voice (NSS 2024) meaning that there are a wide range of opportunities available to enhance your studies and that students play an active role in shaping their learning experiences. Our commitment to your learning has seen our students place us as 1st in Wales and joint 3rd in the UK for student satisfaction (Times Higher Education, 2024, ‘Overall Positivity’ measure). Find out more about our academic staff who teach across our courses.
Gwybodaeth allweddol
-
80-96 o Bwyntiau Tariff UCAS
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol datblygiad systemau cyfrifiadura a gwybodaeth. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniadau ac arholiadau. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.
Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y Prif Brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.
-
Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac er nad oes unrhyw fodiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs hwn ar hyn o bryd, ym mhob achos gall myfyrwyr gyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig
A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae gan ein graddedigion ragolygon gwaith rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill o’r economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu dewis lwybrau gyrfaol o fewn chwe mis i raddio.
Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi ym meysydd datblygu cymwysiadau, dadansoddi systemau busnes, datblygu a gweinyddu cronfeydd data, ymgynghoriaeth a rheolaeth systemau gwybodaeth ayb.
-
Eich dilyniant academaidd naturiol o’n rhaglen HND Cyfrifiadura Cymhwysol fyddai i’r BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol.
Rhagor o wybodaeth am symud ymlaen o HNC, HND, CertHE a DipHE
Gall myfyrwyr sy’n graddio gyda Thystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC), Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE), neu Ddiploma Addysg Uwch (DipHE) ddilyn llwybrau strwythuredig, mynediad uwch i raglenni gradd Anrhydedd cysylltiedig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
- Mae deiliaid CertHE fel arfer yn mynd i Flwyddyn 2 gradd BA neu BSc gysylltiedig.
- Gall deiliaid DipHE a HND wneud cais yn uniongyrchol i Flwyddyn 3 (blwyddyn olaf) graddau anrhydedd.
- Mae deiliaid HNC yn gymwys i gael mynediad i Flwyddyn 2, yn dibynnu ar y pwnc a chredydau.
Mae’r rhaglenni atodol hyn yn cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau – gan gynnwys Busnes, Cyfrifiadura, Peirianneg, Adeiladu, yr Amgylchedd, Diwydiannau Creadigol, a Chwaraeon – ac yn eich galluogi i adeiladu ar eich dysgu blaenorol i ennill gradd BA neu BSc (Anrh) lawn.