Sgiliau Cyflogadwyedd (Llawn-amser) (CertHE)
Mae’r rhaglen hon yn darparu cyfle unigryw i wella’ch cyfleoedd gyrfa a rhoi hwb i’ch taith academaidd. Mae’r rhaglen gynhwysfawr hon yn eich darparu â’r sgiliau proffesiynol a digidol hanfodol sydd eu hangen i lwyddo yn y gweithle deinamig sydd ohoni heddiw. Yn wahanol i raglenni traddodiadol, rydym yn rhoi gwerth ar eich profiadau bywyd a gwaith, gan wneud addysg uwch yn hygyrch ac yn gynhwysol.
Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddatblygu set sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr, gan gynnwys datrys problemau, gwaith tîm, rheolaeth menter a llythrennedd digidol. Mae’r sgiliau hyn sy’n berthnasol i’r diwydiant wedi’u teilwra ar gyfer meysydd amrywiol gan sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda i ragori mewn unrhyw amgylchedd proffesiynol.
P’un a ydych am ddatblygu’ch gyrfa neu gymryd y cam cyntaf i addysg uwch, mae ein rhaglen yn llwybr perffaith. Ymunwch â ni i wella’ch cyflogadwyedd, datgloi cyfleoedd gyrfa newydd, ac i baratoi’r ffordd ar gyfer gweithgareddau academaidd pellach.
Course details
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Undergraduate Fees
Home (Full-time): £9,535 per year
Overseas (Full-time): £15,525 per year
Pam dewis y cwrs hon?
Beth fyddwch yn dysgu?
Mae’r cwrs hwn yn darparu cyfleoedd uwchsgilio a phrofiad dysgu sy’n canolbwyntio ar y gweithle, sy’n sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y cyfle i gyflawni ei botensial ac yn ei dro yn trawsnewid y cymunedau y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt.
Bydd graddedigion yn gwella eu sgiliau ac yn ehangu eu cyfleoedd gyrfa, gan eu gwneud yn addas iawn ar gyfer rolau ar draws amrywiol ddiwydiannau, gan gynnwys y sectorau dielw, cyhoeddus a phreifat.
Mae’r rhaglen hon wedi’i dylunio i gwrdd â safonau’r diwydiant, gan ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd hanfodol a datblygu cymwyseddau allweddol sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus trwy gydol y cwrs.
Defnyddir strategaethau dysgu sy’n canolbwyntio ar y dysgwr drwy gydol y rhaglen i sicrhau cydbwysedd rhwng theori ac ymarfer sy’n bersonol ac yn gydweithredol. Bydd dysgwyr yn ennill sgiliau trosglwyddadwy sy’n defnyddio technoleg ar gyfer dysgu yn ogystal â sgiliau academaidd, proffesiynol a llythrennedd sy’n ymwneud ag astudio ar y lefel hwn.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i’r BA Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn dilyn cyfweliad llwyddiannus.
Gorfodol
(20 credits)
(20 credits)
(20 credits)
(20 credits)
(20 credits)
(20 credits)
Course Disclaimer
-
The modules outlined above provide examples of what you can expect to learn on this course based on recent academic teaching. We continuously review our courses to ensure quality enhancement and to manage our resources. The precise modules available to you in future years may vary depending on staff availability and research interests, new topics of study, timetabling and student demand. Where your course includes optional modules, these are to provide an element of choice within the course. The availability of optional modules may vary from year to year and will be subject to minimum student numbers being achieved. This means the availability of specific optional modules cannot be guaranteed.
You’ll typically complete 120 credits per year of study on a full-time course. For more information visit our Student Agreement.
testimonial
Staff
Our People
You will be taught and supported by a wide range of professional staff and teams here to help you get the university experience you are looking for. Our teaching staff were ranked 2nd in Wales for Teaching, Assessment and Feedback and Academic Support (NSS 2024) meaning that the support and feedback you get will help you learn and develop strong academic skills. Our students have placed us 1st in Wales for Learning Opportunities and Student Voice (NSS 2024) meaning that there are a wide range of opportunities available to enhance your studies and that students play an active role in shaping their learning experiences. Our commitment to your learning has seen our students place us as 1st in Wales and joint 3rd in the UK for student satisfaction (Times Higher Education, 2024, ‘Overall Positivity’ measure). Find out more about our academic staff who teach across our courses.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen hon yn denu ymgeiswyr o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiad o ran cyflogadwyedd a chymwysterau academaidd.
Nid yw’r rhaglen hon yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr feddu ar gymwysterau ffurfiol; asesir derbyniadau addasrwydd ymgeiswyr drwy gyfweliad trylwyr a phrawf ysgrifenedig.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Gosodir gwaith cwrs a thasgau ymarferol mewn amrywiaeth o fformatau. Mae’r rhain yn cynnwys:
-
Ymarferion gosod ymarferol yn y dosbarth.
-
Chwarae rôl (e.e. ffug gyfweliadau)
-
Cyflwyniadau (e.e. cynlluniau busnes)
-
Portffolios o waith
-
Prosiectau Ymchwil.
-
Traethodau
-
Adroddiadau
Gan fod y rhaglen yn denu dysgwyr o ystod o gefndiroedd, gydag amrywiaeth o brofiad gwaith a phersonol, mewn llawer o achosion mae asesiadau yn rhoi hyblygrwydd i’r myfyrwyr ddefnyddio eu cefndir a’u profiad i wneud dysgu yn berthnasol i’w profiad gwaith blaenorol; bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ddatblygu prosiectau sy’n berthnasol i’w dyheadau gyrfa.
-
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Mae’r holl gostau ychwanegol a nodir yn yr adran hon yn ddangosol.
Costau Angenrheidiol:
Bydd angen i ddysgwyr gael mynediad at galedwedd a meddalwedd cyfrifiadurol addas; tua £500.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.