Skip page header and navigation

Mae’r Athro Lisa Isherwood o’r Drindod Dewi Sant wedi’i hethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Llun pen ac ysgwyddau o Lisa Isherwood yn gwenu at y camera.

Mae Lisa Isherwood yn Athro Ymarfer mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac yn Athro Emerita o Ddiwinyddiaethau Rhyddhad Ffeministaidd, Prifysgol Caerwynt. Mae hi wedi cael effaith sylweddol ar ddiwinyddiaeth, yn enwedig wrth hyrwyddo astudiaethau ffeministaidd a queer.

Mae ei hymchwil, sydd wedi’i gyfieithu’n helaeth, wedi arwain at gynnwys y safbwyntiau hyn mewn diwinyddiaeth gonfensiynol ac wedi newid y ffordd y caiff diwinyddiaeth ei haddysgu a’i thrafod yn rhyngwladol. Mae’r Athro Isherwood wedi dal swyddi arwain mewn amrywiol sefydliadau academaidd a phroffesiynol ac mae’n cydweithio â chydweithwyr ledled y byd.

Mae ethol i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth, yn cael ei gystadlu’n frwd, ac yn digwydd yn dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau pob enwebai yn eu maes perthnasol. Wrth glywed y newyddion, dywedodd yr Athro Lisa Isherwood:

“Mae’n fraint cael fy ethol yn Gymrawd cymdeithas mor fawreddog ac edrychaf ymlaen at gyfrannu at eu gwaith ar amrywiaeth a llawer o brosiectau eraill.

“Fel Cymraes falch, mae’r teimlad o gael fy nghydnabod am fy ngwaith academaidd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn y modd hwn ochr yn ochr â’r wefr a deimlais pan gefais fy newis i gynrychioli tîm golff cenedlaethol Cymru yn rhyngwladol. Rwy’n hapus dros ben ac yn edrych ymlaen at gwrdd â chydweithwyr a chymryd rhan mewn sgyrsiau ffrwythlon.”

Eleni, mae 41 o Gymrodyr newydd wedi’u hethol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Cymrodyr newydd yn cynnwys academyddion o bob rhan o brifysgolion Cymru a’r DU, awduron, ymchwilwyr ac arweinwyr o fyd addysg uwch, yn ogystal â’r gyfraith, meddygaeth a’r cyfryngau.

Yn y flwyddyn lle lansiodd y Gymdeithas ei hymrwymiad Amrywiaeth, Ecwiti a Chynhwysiant newydd, mae dros 50% o’r Cymrodyr newydd yn fenywod.

“Rwyf wrth fy modd gydag ehangder yr arbenigedd o safon fyd-eang ymhlith ein Cymrodyr newydd,” meddai’r Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

“Mae’r ystod o arbenigeddau’n hynod ddiddorol, ac mae ansawdd yr ymchwil yn eithriadol. Mae’n dangos faint o bobl arbennig y gall Cymru frolio, sy’n cyfrannu eu syniadau, eu hangerdd a’u harbenigedd, ac sy’n dyfnhau ecosystem ein hymchwil ac sydd o fudd i’r gymdeithas yng Nghymru a thu hwnt.

“Nid yw Cymdeithas Ddysgedig Cymru fawr mwy na deg oed, ond rydym yn chwarae rhan gynyddol mewn creu amgylchedd cynhyrchiol a chefnogol ar gyfer ymchwil o’r radd flaenaf yng Nghymru, tra’n darparu llais gwybodus mewn trafodaethau polisi.

“Rwy’n falch iawn o groesawu ein Cymrodyr newydd i’r Gymdeithas, ac yn edrych ymlaen at eu cysylltiad gweithgar â ni yn y blynyddoedd i ddod.”

Mae’r Cymrodyr newydd yn dod â maint y Gymrodoriaeth i 687.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau