Skip page header and navigation

Cefnogi’r Drindod Dewi Sant

Efallai y byddech yn disgrifio eich amser yma fel rhai o flynyddoedd gorau eich bywyd, felly beth am wneud hynny’n realiti i eraill drwy roi rhywbeth yn ôl i’r Brifysgol. 

Rydym yn credu’n gryf mai cyn-fyfyrwyr yw ein cefnogwyr a’n llysgenhadon mwyaf. Mae eich cyfraniad yn amhrisiadwy wrth ein helpu i ddarparu’r profiadau gorau posibl ar gyfer ein dysgwyr presennol ac yn y dyfodol. 

Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi gefnogi ein myfyrwyr a’n darpar fyfyrwyr.  

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os gallwch gynnig unrhyw gefnogaeth.

Ffyrdd o gefnogi

Gliniadur ar fwrdd sy'n dangos logo Hynt Graddedigion

Cyfrannu at yr arolwg Hynt Graddedigion

Drwy gwblhau’r arolwg Hynt Graddedigion, gall graddedigion newydd ein helpu i roi cipolwg i ddysgwyr y presennol a’r dyfodol ar gyfleoedd a chyrchfannau gyrfa posibl yn seiliedig ar yr hyn y byddwch yn dweud yr ydych yn ei wneud 15 mis ar ôl i chi orffen eich astudiaethau.  

Visiting student giving advice to current students

Sgwrs neu weithdy taith gyrfa

Rhannwch eich gwybodaeth a’ch profiadau trwy fynd yn ôl at eich cwrs neu ddisgyblaeth academaidd i gynnig darlith fel darlithydd gwadd neu weithdy i fyfyrwyr presennol. Efallai bod gennych stori yr hoffech ei rhannu am eich taith ar ôl graddio - mae’r effaith y mae’r straeon hyn yn ei chael ar brofiad y myfyriwr yn amhrisiadwy. Gall agor drysau a syniadau i ysbrydoli.  

Alumni staff member presenting to a group

Hysbysebu cyfleoedd swyddi

Oes gan eich cwmni swydd wag i’w llenwi? P’un a yw’n ddelfrydol ar gyfer graddedigion newydd neu os ydych chi’n chwilio am rywun mwy profiadol, beth am gefnogi cyn-fyfyrwyr eraill y Drindod Dewi Sant trwy anfon y cyfleoedd swyddi hyn atom i’w postio ar ein Bwrdd Swyddi a thudalen LinkedIn Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr PCYDDS .  

Carem i chi gwrdd â’n myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr presennol wyneb yn wyneb mewn digwyddiadau gyrfaoedd a rhwydweithio a gynhelir ar ein campysau. Beth am ddod i un o’r rhain i hyrwyddo’ch cwmni a rhannu eich arbenigedd.  

Student working on a piece of stained glass

Cynnig profiad gwaith

Fel y gwyddoch bydd ein myfyrwyr yn elwa ar gymaint o brofiad â phosibl pan fyddant yn gadael y brifysgol. Os ydych yn berchennog busnes neu mewn sefyllfa o fewn eich cwmni i allu cynnig profiad gwaith neu interniaethau ac yn gallu cynnig profiad sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r cyrsiau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. 

Myfyriwr yn tynnu llun ar ei ffôn

Rhannu eich stori trwy gyfweliad neu astudiaeth achos

Peintiwch ddarlun o fywyd ar ôl graddio ac ysbrydolwch y genhedlaeth nesaf trwy rannu’ch stori drwy newyddion, astudiaeth achos, neu flog y gellir ei ddefnyddio i farchnata a hyrwyddo’r Drindod Dewi Sant a’ch cwrs astudio.  

Gwneud Rhodd

Gall cyfraniad ariannol i’r Drindod Dewi Sant, waeth pa mor fawr neu fach, alluogi myfyrwyr i wneud penderfyniadau sy’n newid bywydau a symud ymlaen yn eu hastudiaethau.

Mae rhoddion yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod ein cenhadaeth o ‘drawsnewid addysg, trawsnewid bywydau’ wedi’i seilio ar ddarparu cyfleusterau, ymchwil, profiadau ar gampws a sianel o dalent o israddedigion i arweinwyr mewn diwydiant, waeth beth fo’u hamgylchiadau ariannol, gan ddarparu mynediad i addysg uwch i bawb.

Gall rhoddion rheolaidd neu unigol fynd tuag at nifer o gronfeydd ac mae croeso i’n rhoddwyr nodi i ble yr hoffent i’w cyfraniadau fynd.

Rydym hefyd yn agored i’ch syniadau felly os hoffech drafod prosiect codi arian, cysylltwch â ni

Rhoi i Lambed 

Os hoffech chi roi rhodd benodol i’n campws yn Llambed, mae gennym nifer o gronfeydd arian y gallwch gyfrannu atynt.

  • Mae’r gronfa hon yn cefnogi ystod o brosiectau ehangu mynediad sy’n ceisio rhoi mynediad i addysg uwch i fyfyrwyr o gefndiroedd annhraddodiadol. Bydd hyn yn cynnwys grwpiau cymorth a gweithdai rhanbarthol er mwyn rhoi llwybr mynediad i fyfyrwyr sy’n astudio yn Llambed.

  • Mae’r gronfa hon yn darparu bwrsarïau ar gyfer myfyrwyr preswyl newydd o gefndiroedd incwm isel.

  • Mae’r gronfa hon yn cefnogi mentrau sy’n cyfoethogi profiadau myfyrwyr ar y campws ac yn cyfrannu’n sylweddol at fywyd y campws, drwy gynnig cymorth ariannol ar gyfer gwibdeithiau, costau teithiau maes, teithiau ymchwil a rhagor.

  • Pan fyddwch yn cyfrannu trwy Rodd Cymorth , gallwn hawlio’n ôl gan Gyllid a Thollau EM y dreth cyfradd sylfaenol rydych eisoes wedi’i thalu ar eich rhodd. Mae hyn yn cynyddu gwerth eich rhodd i ni o 25%, heb unrhyw gost ychwanegol i chi.

    Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch, gallwch hefyd hawlio’n ôl y gwahaniaeth rhwng treth cyfradd uwch a chyfradd sylfaenol ar gyfanswm gwerth eich rhodd i’r Brifysgol ar eich ffurflen dreth hunanasesu.

    1. Rhodd ariannol – rhodd o swm penodol o arian at ddibenion cyffredinol y Brifysgol

    “Rhoddaf i Swyddfa Cyn-fyfyrwyr Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7ED (Rhif Elusen Gofrestredig 1149535) [y swm o £_______].

    Fy nymuniad yw cyflwyno’r rhodd er budd y Brifysgol a enwyd, a bod rhwydd hynt gan y Brifysgol ei defnyddio ym mha ffordd bynnag sydd orau ym marn y Brifysgol ar adeg ei derbyn.  Ar ôl cyflwyno’r gymynrodd, bydd derbynneb gan yr Is-Ganghellor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad digonol i’m hysgutorion.”      

    1. Rhodd Benodol – rhodd o eitem(au) penodol at ddibenion cyffredinol y Brifysgol                                

    “Rhoddaf [noder manylion yr eitem(au)] penodol] i Swyddfa Cyn-fyfyrwyr Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7ED (Rhif Elusen Gofrestredig 1149535).

    Fy nymuniad yw cyflwyno’r rhodd er budd y Brifysgol a enwyd, a bod rhwydd hynt gan y Brifysgol ei defnyddio ym mha ffordd bynnag sydd orau ym marn y Brifysgol ar adeg ei derbyn.  Ar ôl cyflwyno’r gymynrodd, bydd derbynneb gan yr Is-Ganghellor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad digonol i’m hysgutorion.”

    1. Rhodd Weddilliol – rhodd o weddill yr ystâd i gyd at ddibenion cyffredinol y Brifysgol

    “Rhoddaf fy ystâd weddilliol i gyd i Swyddfa Cyn-fyfyrwyr Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7ED (Rhif Elusen Gofrestredig 1149535).

    Fy nymuniad yw cyflwyno’r rhodd er budd y Brifysgol a enwyd, a bod rhwydd hynt gan y Brifysgol ei defnyddio ym mha ffordd bynnag sydd orau ym marn y Brifysgol ar adeg ei derbyn. Ar ôl cyflwyno’r gymynrodd, bydd derbynneb gan yr Is-Ganghellor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad digonol i’m hysgutorion.

    1. Rhodd Weddilliol o ganran o weddill yr ystâd gyfan at ddibenion cyffredinol y Brifysgol

    “Rhoddaf _____%  o weddill fy ystâd [cyn/ar ôl tynnu Treth Etifeddiant, os oes unrhyw swm yn daladwy – argymhellir y dylid cael cyngor cyfreithiol arbenigol ynghylch hyn] i Swyddfa Cyn-fyfyrwyr Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7ED (Rhif Elusen Gofrestredig 1149535).  

    Fy nymuniad yw cyflwyno’r rhodd er budd y Brifysgol a enwyd, a bod rhwydd hynt gan y Brifysgol ei defnyddio ym mha ffordd bynnag sydd orau ym marn y Brifysgol ar adeg ei derbyn.  Ar ôl cyflwyno’r gymynrodd, bydd derbynneb gan yr Is-Ganghellor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad digonol i’m hysgutorion.”

    Mae’r cymalau a awgrymir uchod yn berthnasol lle bo’r rhoddion i’w defnyddio at ddibenion cyffredinol y Brifysgol fel elusen addysgol.  Os dymunir cefnogi nodau elusennol penodol neu adrannau penodol o fewn y Brifysgol yna gellir ystyried y dewisiadau amgen canlynol:-

     [I gefnogi myfyrwyr]

    “Fy nymuniad yw cyflwyno’r rhodd at ei dibenion cyffredinol fel elusen addysgol [A gofynnaf i’r arian gael ei ddefnyddio ar gyfer cymorth ariannol myfyrwyr fel y bo’n briodol ym marn y Cofrestrydd a’r Clerc neu swyddog perthnasol arall ar y pryd.]   Ar ôl cyflwyno’r gymynrodd, bydd derbynneb gan yr Is-Ganghellor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad digonol i’m hysgutorion.”

    [I gyfadran/ysgol/adran benodol]

    “Fy nymuniad yw i’r rhodd gael ei defnyddio o fewn y [gyfadran/ysgol neu adran] fel y bo’n briodol ym marn Cofrestrydd a Chlerc y Brifysgol neu swyddog perthnasol arall ar y pryd.  Os bydd y [gyfadran/ysgol/adran] a nodwyd wedi dod i ben neu wedi uno â chyfadran, adran, ysgol neu goleg arall neu wedi newid ei henw cyn fy marwolaeth, yna gofynnaf i’r Brifysgol ddefnyddio’r rhodd hon mewn cyfadran, adran neu ysgol arall o fewn y Brifysgol fel y bo’n briodol ym marn y Cofrestrydd a’r Clerc neu swyddog perthnasol arall yn ôl eu doethineb.  Ar ôl cyflwyno’r gymynrodd, bydd derbynneb gan yr Is-Ganghellor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad digonol i’m hysgutorion.”

    Os bwriedir i leoliad arbennig elwa, er enghraifft Campws Llambed neu Gaerfyrddin, yna dylid defnyddio’r geiriad a awgrymir ar gyfer cyfadran/ysgol/adran benodol ond gan ei addasu fel y bo’n briodol.

    Enghraifft bosibl:-

    “Rhoddaf y swm o £10,000 i Swyddfa Cyn-fyfyrwyr Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7ED (Rhif Elusen Gofrestredig 1149535).

    “Fy nymuniad yw i’r rhodd gael ei defnyddio o fewn Cyfadran y Dyniaethau yn Llambed fel y bo’n briodol ym marn Cofrestrydd a Chlerc y Brifysgol neu swyddog perthnasol arall ar y pryd.  Os bydd Cyfadran y Dyniaethau yn Llambed wedi dod i ben neu wedi uno â chyfadran, adran, ysgol neu goleg arall neu wedi newid ei henw cyn fy marwolaeth, yna gofynnaf i’r Brifysgol ddefnyddio’r rhodd hon mewn cyfadran neu ysgol arall o fewn y Brifysgol fel y bo’n briodol ym marn y Cofrestrydd a’r Clerc  neu swyddog perthnasol arall yn ôl eu doethineb.  Ar ôl cyflwyno’r gymynrodd, bydd derbynneb gan yr Is-Ganghellor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad digonol i’m hysgutorion.”

    Ymwadiad

    Mae’r cymalau a awgrymir uchod yn enghreifftiau o gymalau y gellid eu defnyddio mewn Ewyllys i wneud rhoddion i’r Brifysgol ac mae’n bosibl na fyddant yn briodol ym mhob amgylchiad.  Felly, ni ddylid dibynnu ar y cymalau hyn heb geisio cyngor cyfreithiol arbenigol yn gyntaf, yn enwedig o ran goblygiadau Treth Etifeddiaeth.  Ni fydd y Brifysgol yn atebol i unrhyw berson sy’n defnyddio’r cymalau enghreifftiol uchod heb gymryd eu cyngor cyfreithiol eu hunain.