Skip page header and navigation

Derbyniodd Alison Harding a Sarah Jones o adran Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LlAD) y Drindod Dewi Sant wahoddiad ac aethant i Birmingham yn ddiweddar i gyflwyno papur yng nghynhadledd Digifest 2023.

Sarah Jones yn siarad yn hyderus ar bodiwm yng nghynhadledd DigiFest; mae’n sôn am CanolfanDigidol PCYDDS. Mae ei chydweithiwr Alison Harding yn sefyll wrth ei hochr.

Dathliad o’r meddyliau creadigol sy’n meddwl yn wahanol ac sy’n cyflwyno syniadau a thechnolegau newydd i’w sefydliadau yw Digifest. P’un ai’r ymchwilydd ar flaen y gad yn datblygu brechiadau, y darlithydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, neu’r rheolwr yn arwain trawsnewid digidol, mae Digifest ar gyfer arloeswyr yfory.

Roedd y sesiwn, dan arweiniad Alison a Sarah, yn canolbwyntio ar y ffordd y mae’r Drindod Dewi Sant wedi sefydlu a datblygu ei darpariaeth sgiliau digidol ar gyfer cymuned gyfan y brifysgol, a thu hwnt, trwy GanolfanDigidol y Brifysgol.

Mae’r GanolfanDigidol yn y Drindod Dewi Sant yn siop un stop ar gyfer holl anghenion sgiliau digidol, sy’n cynnwys casgliad o offer ac adnoddau i helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol. Meddai Sarah Jones, Pennaeth Gwasanaethau Academaidd yn adran y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu:

“Roedd hi’n anrhydedd mawr cael cyflwyno ein gwaith mewn cynhadledd genedlaethol mor fawr â DigiFest. Rydw i wedi dysgu cymaint gan gyflwyniadau eraill ar hyd y blynyddoedd, felly rwy’n gobeithio yr oedd ein un ni yr un mor ddefnyddiol i bobl arall.”

Ar ôl y cyflwyniad, ychwanegodd Alison Harding, Pennaeth Gweithredol y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu:

“Braint o’r mwyaf oedd cael rhannu gwaith y Drindod Dewi Sant yn y dirwedd strategaeth a sgiliau digidol â chydweithwyr o bob rhan o’r DU. Roedd hi hefyd yn gyfle i mi ddiolch i’m tîm am eu harweinyddiaeth yn y gofod hwn, yn ogystal â myfyrio ar yr hyn rydw i wedi’i ddysgu ar y daith hyd yn hyn.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau