Skip page header and navigation

Mae Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru PCYDDS yn falch o gyhoeddi cydweithrediad arloesol gyda Huggard, prif ganolfan Cymru ar gyfer pobl ddigartref ac yn cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd.

Group photo of students with clients from the Huggard Centre in Cardiff
Llun grŵp o fyfyrwyr gyda chleientiaid o Ganolfan Huggard yng Nghaerdydd

Nod y bartneriaeth unigryw hon yw cyfuno pŵer y celfyddydau ag ymgysylltiad cymunedol i fynd i’r afael â mater dybryd digartrefedd. Cafodd Huggard ei sefydlu dros 30 mlynedd yn ôl yng nghanol y ddinas ac mae ar agor 24/7. Mae gan yr elusen ddwy hostel ar y safle, llety brys a Chanolfan Ymyrraeth (dydd). Mae’n darparu ystod o wasanaethau arbenigol, gan gynnwys Gwasanaeth Lleihau Niwed, sydd hefyd yn gweithredu bob awr o’r dydd a’r nos.

Mae craidd y cydweithio hwn yn gorwedd yn y cynhyrchiad cerddorol sydd ar ddod o “Honk,” yn seiliedig ar stori glasurol yr Hwyaden Fach Hyll. Mae’r cyfarwyddwr Jennifer Lunn yn bwriadu gosod y sioe gerdd yn erbyn cefndir o ddigartrefedd, gan daflu goleuni ar yr heriau a wynebir gan y rhai heb le sefydlog i’w alw’n gartref.

Fel rhan o’r prosiect arloesol hwn, mae’r cydweithio yn ymestyn y tu hwnt i’r llwyfan. Bydd y dylunydd sy’n gysylltiedig â’r cynhyrchiad yn gweithio’n uniongyrchol gyda chleientiaid Huggard i greu propiau ac elfennau eraill ar gyfer y sioe. Ar ben hynny, bydd gan Huggard bresenoldeb gweladwy yn y perfformiadau, gan roi cyfle i godi ymwybyddiaeth o’r hyn y mae’n ei wneud a pham.

“Credwn y gall pŵer adrodd straeon a mynegiant artistig fod yn gatalydd ar gyfer newid,” meddai Angharad Lee, Arweinydd Actio Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru PCYDDS. “Trwy gyfuno ein doniau creadigol â gwaith dylanwadol Huggard, ein nod yw codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i’r rhai sy’n wynebu digartrefedd yn ein cymuned.
“Mae’r cydweithio hwn yn gyfle unigryw i fyfyrwyr a’r gymuned ymgysylltu â mater hollbwysig digartrefedd drwy gyfrwng y celfyddydau. Nid yn unig y bydd yn cyfoethogi’r profiad dysgu i’r rhai sy’n ymwneud â’r cynhyrchiad, ond bydd hefyd yn cyfrannu at achos ystyrlon trwy roi yn ôl i’r gymuned ddigartref yng Nghaerdydd.”

Ychwanega Jennifer Lunn, y Cyfarwyddwr, “Mae Honk yn stori am wytnwch a dod o hyd i’ch hunaniaeth, a thrwy ei osod yn erbyn cefndir o ddigartrefedd, rydym yn gobeithio ysbrydoli empathi a gweithredu. Mae’n brosiect sy’n mynd y tu hwnt i’r llwyfan, gan greu effaith wirioneddol ym mywydau’r rhai rydyn ni’n ymgysylltu â nhw.”

Ychwanegodd Ellen Bryant, sy’n arwain tîm Datblygu, Gwirfoddoli ac Ymgysylltu â’r Gymuned yn Huggard:
“Yn Huggard rydym yn cynnig ystod o wasanaethau sydd wedi’u cynllunio i ddarparu’r cymorth arbenigol sydd ei angen ar gleientiaid i ailadeiladu eu bywydau. Mae nifer o unigolion wedi cael eu trawmateiddio gan brofiadau’r gorffennol ac o fyw allan ar y strydoedd. Bydd bod yn rhan o gynhyrchiad Honk yn rhoi seibiant o’u bywydau bob dydd yn ogystal â rhoi hwb i’w hyder a’u hunan-barch.”

Mae Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc ymweld a gwylio theatr am bris fforddiadwy. Mae diddordeb mawr wedi bod yn y prosiect eisoes gyda pherfformiad matinee Mawrth 21ain eisoes wedi gwerthu allan.

Perfformiadau:
Mawrth 21ain, 12.30pm a 7pm
Mawrth 22ain, 12.30pm a 7pm
Dolen tocyn: Tocynnau digwyddiad Y Drindod Dewi Sant o TicketSource.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau