Skip page header and navigation

Mae’r gyntaf o ddwy arddangosfa gydweithredol celf gain a ffotograffiaeth wedi agor ei drysau yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant.

Tri o’r gweithiau yn yr arddangosfa.

Am y tro cyntaf erioed, bydd gweithiau gan fyfyrwyr trydedd flwyddyn o gyrsiau BA (Anrh) Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau, BA (Anrh) Ffotograffiaeth Ddogfennol ac Actifedd Gweledol a BA (Anrh) Celfyddyd Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun y Brifysgol i’w gweld. gyda’i gilydd yn oriel bwrpasol y brifysgol, Stiwdio Griffith.

Yr artistiaid dan sylw yw Amber Marsh, Cheye William McFarland, Chloe Lloyd, Chloe Rees, Daniel Lewis, Dominic Brewster, Eber Anwar, Ellie Thomas, Ewan Coombs, Heidi Lucca-Redcliffe, Holly Morris Pirce, Isabella Williams, Jacob Levis Winter, Jessica Phillips a Lola Preston.

Yn dilyn yr agoriad swyddogol, dywedodd Ryan L Moule, Uwch Ddarlithydd a Phennaeth Astudiaethau Ffotograffaidd Israddedig y brifysgol:

“Bydd yr arddangosfa gydweithredol hon yn gymysgedd bywiog o waith celf amrywiol ac mae’n gyfle gwych i ddathlu’r cyfoeth o greadigrwydd sydd gennym yng Ngholeg Celf Abertawe.

“Rydym yn falch iawn o gael y cyfle hwn i groesawu cymaint o bobl â phosibl i ddod i weld y gweithiau rhagorol a gynhyrchir gan ein myfyrwyr. Rydym yn hynod falch o bopeth y maent wedi’i gyflawni yn ystod eu cyfnod yn Y Drindod Dewi Sant, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld beth arall y gall y grŵp hwn ei gyflawni wrth iddynt gychwyn ar eu blwyddyn olaf.

“Mae croeso i bawb, felly dewch draw i gefnogi ein myfyrwyr dawnus.”

Mae’r arddangosfa rhad ac am ddim ar agor i’r cyhoedd ei gweld yn ystod diwrnodau gwaith rhwng 10am a 5pm yn Stiwdio Griffith, Coleg Celf Abertawe tan 23 Tachwedd pan fydd digwyddiad cloi arbennig yn cael ei gynnal rhwng 4pm a 7pm.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon