Skip page header and navigation

Mae Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at agor arddangosfa arbennig i ddathlu pum mlwyddiant Gwobr Gelf Sefydliad Josef Herman.

Poster gyda thestun: I ble nawr? Stiwdio Griffith, Coleg Celf Abertawe, Campws Dinefwr; Alison Bater, Abigail Fraser, Redheb Jafar, Hannah Henson, Josef Herman, Owain Sparnon; Derbyniad a Rhagolwg 8 Chwefror 5 i 9pm, Arddangosfa yn parhau 9 i 25 Chwefror; dathlu 5 mlynedd gwobr celf sefydliad Josef Herman er cof am Carolyn Davies.

Bydd yr arddangosfa ‘I ble nawr?’ yn agor ar 8 Chwefror rhwng 5 a 7 pm yn Stiwdio Griffith yn adeilad Dinefwr ar gampws Abertawe’r brifysgol.

Rhoddir y wobr flynyddol gan Sefydliad Josef Herman er cof am Carolyn Davies, a fu farw yn 2018. Carolyn oedd Cadeirydd ac un o Ymddiriedolwyr Sefydliad Herman, a bu’n hyrwyddo’r celfyddydau yn ardal Abertawe. Roedd y celfyddydau yn bwysig iddi, ac roedd hi bob amser yn gymorth wrth gefnogi graddedigion, a sicrhau cyfleoedd creadigol iddyn nhw. Roedd Carolyn yn berson ysbrydoledig, ac yn hyrwyddo’r celfyddydau pryd bynnag y câi gyfle i wneud hynny. Ei ffocws allweddol oedd creadigrwydd a’r daith drwy’r broses artistig.

Mae’r wobr hon yn agored i fyfyrwyr Celf Gain sy’n graddio o Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac fe’i hariennir gan Sefydliad Josef Herman, ynghyd â theulu Carolyn. Mae pob derbynnydd wedi derbyn gwobr ariannol, a chyfle i ddarparu sgwrs artist ynghyd ag arddangosfa yn y Neuadd Les yn Ystradgynlais.

Mae’r arddangosfa arbennig hon wedi’i churadu gan Alex Duncan, darlithydd Celf Gain, a’i chydlynu gan Gwenllian Beynon o Goleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant. Bydd yn cynnwys gwaith gan gyn-enillwyr gwobr Josef Herman: Alison Bater, Abigail Fraser, Owain Sparnon, Redhab Al-Saab a Hannah Henson.

Mae’r artistiaid wedi gwneud gwaith newydd ar gyfer yr arddangosfa hon yn bennaf, a bydd detholiad o waith Josef Herman yn cael ei arddangos ochr yn ochr â’r artistiaid sy’n arddangos.

Mae’r blynyddoedd cyntaf ar ôl graddio yn gyfnod hollbwysig ym mywyd artist ifanc, gyda’r rhwyd ddiogelwch o stiwdios celf yn diflannu. Mae’r wobr wedi rhoi cyfle iddyn nhw barhau â’u hymarfer, i arbrofi pan fydd pethau’n amrwd ac yn newydd, pryd y gallan nhw ofyn y cwestiwn, ‘I ble nawr?’

Meddai Cyfarwyddwr Rhaglen Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant, Gwenllian Beynon:

“I mi yn ddarlithydd ac yn un o ymddiriedolwyr Sefydliad Herman, mae’r arddangosfa hon yn dangos gwerth darparu cyfleoedd wrth raddio. Mae’n gyffrous iawn nodi bod yr artistiaid yn cynhyrchu gwaith newydd. Mae hefyd yn hyfryd dod ag ychydig o waith Herman i Goleg Celf Abertawe.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau