Skip page header and navigation

Dychwelodd Owen Griffiths, a raddiodd o gwrs Celf a Dylunio Sylfaen Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, i’r Brifysgol i gyflwyno darlith greadigol Gŵyl Ddewi a chyflwyno gwobrau i’r myfyrwyr presennol.

Owen Griffiths ac un ar ddeg o dderbynwyr Gwobrau Blynyddol Dydd Gŵyl Dewi, sy’n dal eu gwobrau.

Ffotograffydd: Emily Sullivan, myfyrwraig MA Hysbysebu


Mae’r digwyddiad blynyddol a gynhelir gan Goleg Celf Abertawe yn gwobrwyo unigolion am eu hymrwymiad i’r Gymraeg. Cynhaliwyd y digwyddiad eleni am y chweched gwaith, a gwahoddwyd yr artist a’r cyn-fyfyriwr llwyddiannus Owen Griffiths i gyflwyno’r gwobrau.

Mae Owen sy’n gyn-fyfyriwr Celf a Dylunio Sylfaen bellach yn artist a churadur llwyddiannus, yn ogystal â bod yn Sylfaenydd a Chyfarwyddwr y fenter gymdeithasol, Ways of Working, prosiect celfyddydol a newid cymdeithasol sy’n gweithio ar agendâu dyfodol teg, hinsawdd, cyfiawnder a grymuso.

Derbyniwyd y gwobrau gan fyfyrwyr trydedd flwyddyn sy’n astudio eu cyrsiau creadigol trwy gyfwng y Gymraeg a dderbyniodd y gwobrau. Mae’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn amlwg yn bwysig i’r myfyrwyr hyn ac mae hwn yn cael ei adlewyrchu yn eu gwaith celf.

Dywedodd Cara Edwards, myfyriwr Dylunio Graffig ac un o’r enillwyr:

“Mae siarad Cymraeg yn rhan o fy hunaniaeth ac felly rwy’n hynod falch fy mod i wedi cael y cyfle i weithio yn ddwyieithog ar fy nghwrs gradd Dylunio Graffeg. Credaf ei bod hi’n bwysig nid yn unig i ddefnyddio’r iaith, ond hefyd i greu gwaith dwyieithog i annog pobl eraill i’w dysgu a’i defnyddio hefyd.”

Enghreifftiau o waith Cara Edwards: tri chwpan coffi tafladwy  gwyrdd mewn tri maint gwahanol a thri cherdyn cyfarch.
Gwaith Cara Edwards, myfyrwraig trydedd blwyddyn BA Dylunio Graffig

Eleni, gwobrwywyd hefyd ddarlithwyr a chyfarwyddwyr rhaglenni am eu cefnogaeth a’u hanogaeth i fyfyrwyr sy’n astudio yn y Gymraeg. Katherine Clewett, Cyfarwyddwr Rhaglen TYST AU Celf a Dylunio Sylfaen oedd un o’r enillwyr. Roedd y seremoni eleni yn arbennig iddi gan fod Owen, a gyflwynodd y wobr iddi, yn un o’i chyn-fyfyrwyr. Dywedodd:

“Astudiodd Owen gyda ni yma ar y rhaglen Sylfaen gyda’i wraig Fern. Rwyf wedi dilyn ei addysg, ei brosiectau creadigol a’i fywyd teuluol yn agos, ac yn hynod o falch fy mod wedi bod yn rhan o’i daith. Mae’n braf bob amser ei groesawu yn ôl i Goleg Celf Abertawe. Roedd yr ymweliad hwn yn arbennig iawn gan ei fod wedi cyflwyno fy ngwobr i mi.”

Mae Katherine Clewett yn sefyll wrth ymyl Owen Griffiths ac yn dal ei gwobr.

Yn ogystal ag astudio’r cwrs Celf a Dylunio Sylfaen, treuliodd Owen ychydig  amser yn addysgu arno. Mae’n cofio’i amser yma fel cyfnod hapus iawn, a dywedodd:

“Cafodd y flwyddyn a dreuliais yn astudio’r cwrs Sylfaen effaith ddramatig ar fy mywyd – rhoddodd gyfleoedd i mi a’m paratodd ar gyfer nifer o bethau yn y dyfodol ac a helpodd i’m harwain lle ydw i heddiw. Fe alluogodd i mi hefyd ddatblygu’n bersonol, yn broffesiynol ac yn artistig.”

Fel rhan o’r seremoni, cyflwynodd Owen ddarlith ar y gwaith y mae wedi’i wneud ers gadael y Brifysgol.

Wedi’i leoli yn Abertawe, mae’n disgrifio’i hun fel artist cymunedol sy’n gweithio dros newid cymdeithasol. Mae ei waith wedi’i wreiddio’n lleaol ac yn fyd-eang. Gan weithio gyda chymunedau, amgueddfeydd ac orielau, mae ei brosiectau amrywiol yn archwilio themâu fel argyfwng hinsawdd, systemau bwyd, a chyfiawnder cymdeithasol a radical. Mae’r prosiectau’n cynnwys proses a chanlyniad creadigol a allai fod ar ffurf celf gyhoeddus, gerddi cymunedol, arddangosfeydd ffenestr siop, neu drawsnewid amgueddfa.

Mae’r Gymraeg yn chwarae rhan bwerus i Owen yn y ffordd y mae’n edrych ar ei brosiectau a’r modd y mae’n mynegi ei hun o ddydd i ddydd.

Dywedodd Gwenllian Beynon, cydlynydd Cymraeg Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru a drefnodd y digwyddiad, bod cyflwyno ein myfyrwyr presennol i  artistiaid proffesiynol sy’n siarad Cymraeg fel Owen, yn eu hannog i barhau i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Ychwanegodd:

“Rydym yn gwahodd pobl broffesiynol o’r diwydiannau creadigol atom i ysbrydoli ein myfyrwyr. Nod y seremoni yw dathlu Cymreictod. Mae’n arwydd o ymrwymiad i’r iaith Gymraeg ac yn rhoi llais iddi. Mae’n bwysig bod yn dathliadau hyn yn bodoli er mwyn cefnogi’r iaith a’i ddiwylliant.”

Os hoffech rhagor o wybodaeth am Wobrau a Darlith Flynyddol Gŵyl Ddewi, cysylltwch a’r trefnydd, Gwenllian Beynon (G.Beynon@uwtsd.ac.uk), Cyfarwyddwr Academaidd Cynorthwyol Celf a’r Cyfryngau a Chydlynydd Cymraeg Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru.

Derbynwyr y gwobrau

Myfyrwyr

  • Bethan Allen, BA Celf Gain
  • Mary Bath, BA Darlunio
  • Owain Davies, BA Dyluno Graffig
  • Cara Edwards, BA Dyluno Graffig
  • Dawson Edwards, BA Celf Gain
  • Celyn Lewis, BA Celf Gain
  • Grug Morris, BA Ffilm and Theledu
  • Jack Price, BA Dyluno Graffig
  • Seren Willicombe, BA Ffotograffiaeth

Darlithwyr a Chyfarwyddwyr Rhaglenni

  • Matthew Archer, Dylunio Cynnyrch
  • Catherine Brown, Dylunio Crefftau ac MA
  • Martin Bush, Hysbysebu Creadigol
  • Katherine Clewett, Celf a Dylunio Sylfaen ac MA
  • Rebecca Ellis, Ffilm a Theledu
  • Sergio Fontanarosa, Dylunio Trafnidiaeth a Modurol
  • Hamish Gane, Ffotograffiaeth ac MA
  • Simon Kilshaw, Technoleg Cerddoriaeth
  • Georgia McKie, Patrymau Arwyneb
  • Ryan L. Moule, Ffotograffiaeth
  • Donna Williams, Dyluno Graffig
  • Jonathan Williams, Darlunio
  • Sue Williams, Celf Gain
  • Brett Aggersberg, Ffilm
  • Stacey Jo Atkinson, Cynhyrchad Set a Theatr
  • Alison Franks, Drama Gymhwysol
  • John Hill, Cynhyrchad Set a Theatr
  • Lynne Seymour, Actio

Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau