Skip page header and navigation

Bydd Dean Llewellyn, Ditectif Brif Arolygydd yn Heddlu De Cymru, yn graddio â Gradd Meistr mewn Arfer Proffesiynol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yr haf hwn. Mae’n canmol y cwrs am helpu i ddatblygu ei yrfa.

Dean Llewellyn standing on rocks by the sea.

Treuliodd y tair blynedd diwethaf yn astudio yn Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol (ACAPYC) y Brifysgol ac mae’n dweud bod y gefnogaeth a gafodd wedi’i helpu i wneud cynnydd o fewn yr heddlu.

Meddai Dean: “Mae’r cwrs wedi cael effaith sylweddol gadarnhaol ar fy natblygiad proffesiynol. Rydw i wedi ennill mewnwelediadau arweinyddiaeth a rheoli strategol amhrisiadwy, yn ogystal â mwy o allu i gynllunio a mwyhau fy natblygiad proffesiynol fy hun. Rydw i hefyd wedi gallu defnyddio’r dysgu trwy ddylanwadu’n gadarnhaol ar fy staff, fy nghydweithwyr, ac asiantaethau partner mewn meysydd Ymchwilio Troseddol a diogelu sy’n aml yn heriol a chymhleth.”

Yn ystod ei astudiaethau, cafodd Dean ddyrchafiad i’w rôl bresennol ac mae’n priodoli’r llwyddiant hwn i’r hyder a’r wybodaeth a enillwyd ganddo ers ymuno â’r Brifysgol.

“Rydw i wedi gweld fy hun yn datblygu’n sylweddol mewn sawl maes; yn enwedig o ran fy hyder yn fy ngwybodaeth broffesiynol a’m gallu academaidd,” meddai. “Mae fy astudiaethau wedi fy ngalluogi i ddod o hyd i’m ‘llais academaidd’; ac o ganlyniad, rydw i nawr yn gallu mynegi barn a syniadau strategol yn hyderus, tra na fyddwn efallai wedi bod â’r hyder i wneud hynny mewn rhai fforymau cyn y cwrs.”

Dywedodd Dean ei fod am ysbrydoli eraill mewn amgylchiadau tebyg i ystyried ailafael mewn dysgu.

“Gall fod yn heriol, ac mae angen i chi fod yn ddisgybledig wrth jyglo eich astudiaethau â’ch teulu a’ch swydd, ond mae’n bosibl,” meddai.

“Mae’r gefnogaeth a gewch gan y darlithwyr yn eich galluogi i lwyddo. Maen nhw’n gyfeillgar ac wrth law bob amser i helpu ag unrhyw gwestiynau. Mae’r gefnogaeth honno’n amhrisiadwy.”

Mae Dean bellach yn ystyried parhau yn PCYDDS i astudio ar gyfer ei Ddoethur mewn Arfer Proffesiynol (DProf).

Meddai Sarah Loxdale, darlithydd yn Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol (ACAPYC): “Mae Dean wedi gallu defnyddio ei yrfa helaeth yn Heddlu De Cymru er mwyn ennill credyd am y dysgu a gaffaelwyd ganddo wrth weithio. Mae cydbwyso astudio â gwaith yn heriol ac mae Dean wedi dangos ymrwymiad mawr i’w astudiaethau, ac rydym yn falch iawn ei fod wedi ennill dyrchafiad yn ystod y cyfnod hwn.”  

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am y casgliad o raglenni hyblyg y gall yr Academi eu cynnig i chi, cymrwch olwg ar ein gwefan – ACAPYC 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau