Skip page header and navigation

Mae’r ddisgyblaeth Plentyndod, Ieuenctid ac Astudiaethau Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at gynnal eu noson raddedigion flynyddol a’r wythnos gyflogadwyedd. 

Mae tua deugain o raddedigion Blynyddoedd Cynnar mewn dillad academaidd yn sefyll o flaen drws carreg bwaog Gothig Fictoraidd, gwên, a dal eu capiau academaidd.

Mae’r digwyddiad llwyddiannus hwn yn rhoi cyfle i raddedigion y gorffennol dynnu sylw at y gyrfaoedd a’r profiadau maent wedi ymwneud â nhw ers graddio.  Mae’r wythnos gynaliadwyedd a gynhelir 22–27 Ionawr yn rhoi cyfle pwysig i fyfyrwyr cyfredol weld yr ystod o yrfaoedd sydd ar gael, a rhannu profiadau â modelau rôl sydd wedi bod ar daith astudio debyg iddyn nhw’u hunain.  

Eleni daw’r graddedigion o ystod o wahanol sectorau a rolau gyrfa’n cynnwys gweithio gyda’r GIG, yr Heddlu, Arweinydd Tîm Ardal i Dîm Rhianta Caerdydd, yn ogystal ag un a raddiodd yn ddiweddar ac sy’n parhau â’i haddysg yn PCYDDS drwy astudio am TAR.

Meddai Natasha Jones, Darlithydd o gwrs y Blynyddoedd Cynnar:

“Mae astudio am radd mewn Plentyndod, Ieuenctid ac Astudiaethau Addysg yn cynnig llawer o fuddion.  Yn bwysicaf oll mae’n darparu dealltwriaeth o ddatblygiad plant ac addysg, a thrwy drefnu digwyddiad tebyg i’n hwythnos gyflogadwyedd, ein nod yw cynyddu’r rhagolygon o gael swyddi, cefnogi ein myfyrwyr wrth iddyn nhw chwilio am swyddi, a chyfrannu’n gadarnhaol i’r gymuned drwy ddarparu arbenigwyr addysg cymwysedig a llawn gwybodaeth ar gyfer y maes.  

“Ein gobaith yw y bydd yr wythnos gyflogadwyedd yn darparu cyfle i archwilio llwybrau gwahanol, gan siarad â graddedigion drwy sesiynau gwybodaeth sy’n egluro manylion ynghylch y broses dderbyn ac yn rhoi hyder i’r dyfodol.  Bydd yn gyfle i ofyn cwestiynau, rhwydweithio a chasglu gwybodaeth hanfodol er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch addysg a gyrfaoedd.  

“Rydym ni’n gofalu am ein myfyrwyr ac yn gobeithio eu cefnogi wrth iddyn nhw ddilyn eu dymuniad i weithio gyda phlant a phobl ifanc, gan ganiatáu iddyn nhw gael dylanwad cadarnhaol ar fywydau plant a’u teuluoedd.”

Cynhelir y noson raddedigion ar 22 Ionawr am 5.30pm, ac am nifer o flynyddoedd mae wedi bod yn gyfle i arddangos y mentrau niferus o ran cyflogaeth a busnes mae myfyrwyr wedi ymwneud â nhw ers graddio. Hefyd mae’r tîm Plentyndod, Ieuenctid ac Astudiaethau Addysg wrth eu boddau i glywed cynifer o straeon o lwyddiant a chlywed sut mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i ddylanwadu ar lesiant a hawliau plant a phobl ifanc, ynghyd â chynhwysiant a dysgu ar draws Cymru a thu hwnt.  

Meddai Dr Nichola Welton, Cyfarwyddwr Academaidd Dros Dro:

“Mae ein hwythnos Gyflogadwyedd ar gyfer Plentyndod, Ieuenctid ac Astudiaethau Addysg yn ôl yn 2024, gan alluogi myfyrwyr unwaith eto i ymwneud ag ystod lawn o weithgareddau a fydd yn cyfoethogi eu profiad academaidd gan ddarparu cyfleoedd a phrofiadau a fydd yn datblygu cyflogadwyedd, gwybodaeth a sgiliau.

“Bydd yn cynnwys darlithwyr gwadd i ysbrydoli, cyfleoedd hyfforddi achrededig (Cymorth Cyntaf, Diogelu), mynychu ffeiriau gyrfaoedd, sesiynau am gyfleoedd ôl-raddedig, a datblygu sgiliau newydd drwy weithdai dysgu drwy brofiad.”

I gael rhagor o wybodaeth am y noson raddedigion ac wythnos gyflogadwyedd, cysylltwch â: g.tinney@uwtsd.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau