Skip page header and navigation

Mae’r dyluniadau terfynol wedi cael eu datgelu ar gyfer brandio prosiect â’r nod o helpu Abertawe i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Datblygwyd brandio Prosiect Sero Abertawe gan Agi Olah, myfyriwr Dylunio Graffeg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

Yn sefyll rhwng pedwar o gynrychiolwyr Prosiect Sero, mae Agi Olah yn dal gliniadur sydd ar agor yn wynebu’r camera, yn arddangos logo swyddogol y prosiect.

Bydd y brandio a ddatgelwyd yng Nghynhadledd Economi Werdd De-orllewin Cymru 2023 yn Arena Abertawe yn cael ei ddefnyddio’n awr fel rhan o brosiectau y bydd aelodau Grŵp Llofnodwyr Gweithredu ar Newid yn yr Hinsawdd a Natur yn ymwneud â hwy.

Yn ogystal â Chyngor Abertawe, mae 13 o aelodau eraill o’r grŵp:

Mae’r rhain yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, Coastal Housing, Pobl, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Coleg Gŵyr Abertawe, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe, Partneriaeth Natur Leol Abertawe, Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Afallen, Fforwm yr Amgylchedd Abertawe ac Ardal Gwella Busnes (AGB) Abertawe.

Meddai’r Cyng. Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, “Rydym wedi gosod targed i Abertawe ddod yn ddinas sero net erbyn 2050.

Mae nifer y sefydliadau sydd eisoes wedi ymuno â’r grŵp llofnodwyr yn dangos pa mor ymrwymedig yw Abertawe i gyrraedd y targed hwnnw ond gobeithiwn y bydd brandio Prosiect Sero Abertawe yn annog mwy fyth o sefydliadau i ymuno’n fuan.

“Mae’n bwysig bod y cyngor, busnesau a phreswylwyr yn gweithio’n agos gyda’i gilydd ar y daith i sero net, ac mae’r brandio y mae Agi wedi’i ddatblygu’n fedrus yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o’r holl brosiectau y bwriedir iddynt ein helpu i gyrraedd ein nod.

“Hoffwn ddiolch i Agi a phawb a fu’n rhan o hyn yn PCYDDS am eu gwaith caled oherwydd bydd cynlluniau sydd wedi’u brandio dan Brosiect Sero Abertawe yn y dyfodol yn helpu i sicrhau ein bod yn gadael dinas mor gynaliadwy â phosib i’n plant a’r cenedlaethau i ddod.

Gofynnwyd i Agi ddatblygu’r brandio terfynol ar gyfer Prosiect Sero Abertawe ar ôl i’w chysyniadau dylunio cychwynnol ennill cystadleuaeth a gynhaliwyd gan PCYDDS yn gynharach eleni ar ran y Grŵp Llofnodwyr Gweithredu ar Newid yn yr Hinsawdd a Natur. Yn Abertawe rydym yn cyflwyno prosiectau drwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) a’r Grŵp Llofnodwyr Gweithredu ar Newid yn yr Hinsawdd a Natur, ac rydym yn cydweithio’n rhanbarthol ar brosiectau trafnidiaeth ac ynni, y maent i gyd yn bwriadu sicrhau trawsnewidiad teg a chyfiawn i economi ddatgarbonedig sy’n anelu at Sero Net erbyn 2050.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau