Skip page header and navigation

Mae Canolfan S4C Yr Egin yn edrych ymlaen at Gynhadledd Antur yr Egin a fydd i’w cynnal fel rhan o Ŵyl Ffilmiau Antur Yr Egin yn y ganolfan yng Nghaerfyrddin fis Mawrth. 

Llun o gefn gwlad Cymru gyda sbwriel
Llun: Mari Huws

Yn dilyn llwyddiant cynhadledd Antur Yr Egin yn 2022 a chais llwyddiannus arall i Gronfa Grantiau Cydweithredol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol bydd cynhadledd eleni i fyfyrwyr Prifysgolion a Cholegau Addysg Bellach Cymru, yn ymgymryd â’r brif thema o ymateb i gynaliadwyedd amgylcheddol ar gyfer ffilm a theledu a heriau newid hinsawdd. 

Bwriad y gynhadledd undydd hwn yw cynnig trafodaeth, esiamplau, ac ymateb i heriau hinsawdd wrth greu cynnwys cynaliadwy a chost effeithiol gan gynnig cyfle i fyfyrwyr ar draws y wlad drafod a myfyrio gan ystyried sut i ymateb yn gadarnhaol i’r heriau yn eu gwaith coleg ac wrth fynd ymlaen i’r byd gwaith. 

Bydd Ryan Chappell, Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Dibenion Cymdeithasol S4C ; Huw Erddyn o Gwmni Da ac Elin Jones o Boom Cymru yn ymysg y rhai sy’n cyfannu eu arbenigedd;  a sgwrs arbennig gyda Mari Huws, gwneuthurwr ffilm sy’n byw ac yn gweithio bellach fel Warden ar Ynys Enlli.

Meddai Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu Canolfan S4C Yr Egin: 

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod â myfyrwyr Addysg Uwch o nifer o Brifysgolion Cymru ynghyd mewn person ac ar-lein ar gyfer y gynhadledd, yn gyfle iddynt ddysgu gan bobl proffesiynol o’r sector yn ogystal â rhwydweithio a’i gilydd. Mae meithrin talent ac amlygu llwybrau gyrfa wrth wraidd yr hyn rydym yn gwneud yma yn Yr Egin a mae sicrhau bod gwneuthurwyr y dyfodol yn ystyried heriau hinsawdd a chreu cynnwys cynaliadwy yn ofnadwy o bwysig i ni fel canolfan. Rydym yn falch iawn o gael cynnig y gynhadledd undydd yma a chydweithio gyda’r Prifysgolion diolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.” 

Amcan y gynhadledd Antur ydi cau’r bwlch rhwng y diwydiant a’r myfyrwyr gyda’r ffocws ar gynnwys o themâu amgylcheddol a/neu ffilmiau byd natur. Yn gefnlen i’r cyfan bydd gŵyl ffilm Antur Yr Egin, gyda dangosiadau o ffilmiau, canran uchel wedi eu saethu yng Nghymru, ynghyd â sgyrsiau, thrafodaethau a gweithdai. Mae’r ŵyl ffilm yn gyfle i ddathlu ffilmiau sydd wedi eu creu ac ystyried effeithiau amgylcheddol cynhyrchu yn ogystal â chyfleoedd i leihau effaith ei cynhyrchiad.

Lluniwyd y gynhadledd ar y cyd rhwng prifysgolion y Drindod Dewi Sant, Aberystwyth, Bangor ac Abertawe. Dywedodd Dr Geraint Ellis, Uwch Ddarlithydd Cyfryngau o Brifysgol Bangor: 

“Mae digwyddiadau fel y gynhadledd hon yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael cyngor gwerthfawr gan unigolion sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol, ac i wneud cysylltiadau pellach. Mae’n braf hefyd gweld sefydliadau addysg ar draws Cymru yn cydweithio fel hyn, diolch i gefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fel cyn-gynhyrchydd ffeithiol, dwi’n credu hefyd fod y gwneuthurwyr dogfen eu hunain yn elwa o’r profiad o adfyfyrio ar eu gwaith a rhannu eu profiadau a’u syniadau gyda chynulleidfa ifanc.”

Elfen bwysig yn ystod y Gynhadledd bydd y rhwydweithio ymysg y myfyrwyr gyda chyfleoedd i drafod, ystyried, archwilio a chwestiynu ar lafar yn y Gymraeg gan ddatblygu hyder. 

Mae’r gynhadledd yn ymateb i Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig sy’n galw am weithredu i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac i warchod ein cefnforoedd a’n coedwigoedd. Mae Nod 13  - Gweithredu Hinsawdd yn pwysleisio pwysigrwydd sylfaenol cynaliadwyedd amgylcheddol heddiw. Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn fater heriol o hyd i sector ynni a theithio dwys megis y sector ffilm a theledu. 

Ychwanegodd Ffion Hughes, Rheolwr Academaidd y Coleg Cymraeg.

“Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hynod falch i gefnogi digwyddiad traws ddisgyblaethol sy’n cyfuno’r cyfryngau a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae gwaith blaengar yn cael ei wneud yn y ddau faes yng Nghymru ac mae’n wych bod myfyrwyr gwahanol brifysgolion yn medru elwa ar y digwyddiad.” 

Maes croeso i myfyrwyr, colegau, a phrifysgolion gysylltu os ydynt yn dymuno mynychu’r gynhadledd wyneb yn wyneb neu am dderbyn dolen i wylio’r ffrwd byw drwy ebostio helo@yregin.cymru 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau