Skip page header and navigation

Mae Canolfan Yr Atom yng Nghaerfyrddin wedi croesawu tenant newydd i’w hadeilad yn ddiweddar.

Rhys Young a Kyran Roberts yn sefyll o flaen drysau gwydr Yr Atom.

Affinity Financial yw’r cwmni diweddara’ i ddod yn denantiaid yn Yr Atom. Yn ogystal â bod yn lleoliad ar gyfer cynnal gweithgareddau i bob oed, a gwersi Cymraeg fel rhan o arlwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn nhref Caerfyrddin, mae Yr Atom hefyd yn gartref i nifer o sefydliadau a grwpiau cymunedol, megis Menter Gorllewin Sir Gâr; Menter a Busnes, Cylch Meithrin Myrddin a Merched y Wawr. Mae Caffi’r Atom hefyd yn cael ei rhedeg gan gwmni Alfie’s Coffee, sydd wedi ennill sawl gwobr am eu coffi. Mae nifer o fusnesau lleol hefyd yn denantiaid yn y ganolfan erbyn hyn megis Arwerthwyr tai Evans Bros ar Stryd y Brenin.

Cwmni sy’n darparu Cyngor ariannol annibynnol yw Affinity Financial a sefydlwyd nôl fis Rhagfyr 2021. Mae 3 yn gweithio i’r cwmni, ac mae ganddynt glientiaid ar draws Cymru, yn ogystal â swyddfa yng Nghaerdydd.

Dywedodd Rhys Young, Pennaeth cwmni Affinity Financial ei fod wedi symud ei swyddfa i’r Atom, “gan ei fod mewn lleoliad cyfleus ac yng nghanol tref Caerfyrddin. Mae popeth ar gael yma, ac mae’n braf cael gweithio mewn man lle mae’r awyrgylch yn hyfryd. Roedd maint yr ystafell yn ddelfrydol ar gyfer beth ro’n i’n chwilio amdano fel swyddfa.”

Ychwanegodd Rhys:

“Ein gobaith yn ystod y misoedd nesa’ yw cydweithio gyda’r tenantiaid eraill sydd yn Yr Atom, gan wneud y mwyaf o ddefnydd yr adeilad.”

Nododd Caryl Jones, Rheolydd Yr Atom:

“Mae’n bleser i groesawu Rhys a’i gwmni Affinity Financial yma i’r Atom. Erbyn hyn mae ein ystafelloedd tenantiaid yn llawn ac mae’n hyfryd i gael amrywiaeth o gwmniau a sefydliadau yma yn Yr Atom. Mae’n braf i gael y tenantiaid yma o ddydd i ddydd, mae’n ychwanegu at fwrlwm y Ganolfan ac mae’n bleser cael y cyfle i gydweithio gyda’r tenantiaid. Rwy’n edrych ymlaen i barhau i gydweithio yn ystod y flwyddyn, a hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddynt yn ystod 2023.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau