Skip page header and navigation

Mae Emily Gray wedi diolch i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) am effaith drawsnewidiol ei MA mewn Addysgeg Leisiol ar-lein. Gwnaeth Emily, sy’n rheoli practis addysgu preifat, ymestyn ei gwersi ar-lein yn ystod y pandemig a chwiliodd am ffordd gynhwysfawr i gyfoethogi ei sgiliau addysgu. 

A photo of Emily Gray posing

Gwnaeth cofrestru ar yr MA mewn Addysgeg Leisiol yn PCYDDS ganiatáu i Emily ymgorffori damcaniaeth yn ei dull addysgu ymarferol. Meddai: “Mae’r cwrs yn darparu beth bynnag sydd arnoch chi angen iddo wneud. Defnyddiais y llyfrgell a’r darlithoedd i hybu fy arfer, a defnyddiais fy modylau i ymchwilio i safonau addysgu conservatoire.

 “Mae archif wybodaeth y llyfrgell yn hollol anhygoel. Cafodd y darlithoedd eu recordio, ac nid yn unig oedd y cynnwys yn berthnasol i mi fel athro, ond hefyd fel perfformiwr. Roeddwn yn gallu rhoi’r rhan fwyaf o’r llyfrgell helaeth ar waith yn ymarferol ar unwaith, yn bennaf gan ddod yn ymwybodol yn feirniadol o rinweddau ffisiolegol a seicoacwstig sylfaenol o gynhyrchu’r llais. Mae dysgu’n gwbl hunan-gyfeiriol ar y cwrs hwn, felly gallwn ganolbwyntio ar y rhannau o’m harfer roeddwn yn llai hyderus ohonynt.”

Amlyga Emily effaith y cwrs ar ei chanu a’i haddysgu, gan bwysleisio’r angen am hyfforddiant ffurfiol wrth hyfforddi canu. Gwnaeth cydweithio gyda’r Voice Study Centre, arbenigwyr ym maes Addysgeg Leisiol, gyfoethogi ei phrofiad dysgu ymhellach, gan ganiatáu iddi ffynnu yn ei maes.

Roedd y cwrs, gyda’i bwyslais ar fethodoleg ymchwil, wedi rhoi i Emily gariad o’r newydd at ymchwil ac athroniaeth, gan symud ei ffocws proffesiynol tuag at ddysgu pwrpasol. Er gwaethaf heriau jyglo cymhwyster meistr rhan amser a thri rôl llawrydd, cafodd Emily gysur yn y gymuned gefnogol a ffurfiodd gyda’i charfan fyd-eang.

Nid ar chwarae bach mae ymgymryd â hyn. Gall fod yn unig. Cysylltais â nifer o fyfyrwyr yn fy ngharfan, ac fe ddaethom yn grŵp o ffrindiau clos. Roedd myfyrwyr fy ngharfan wedi’u lleoli ym mhob cwr o’r byd. Gwnaethom gwrdd dros zoom a chefnogi ein gilydd, gan rannu syniadau ac erthyglau perthnasol. Gwnaethom greu cymuned o arfer sy’n dal i gwrdd i drafod addysgeg ymhlith pethau eraill, er ein bod ni i gyd wedi gorffen ein cwrs.”

Meddai Lowri Harris, Rheolwr Rhaglen Arfer Proffesiynol yr MA mewn Addysgeg Leisiol: “Mae’n bleser gen i fod yn dyst i effaith drawsnewidiol ein rhaglen ar ymarferwyr proffesiynol fel Emily Gray. Mae ein hymrwymiad i ddysgu hyblyg, cynnwys cyfoethog, ac ymdeimlad cryf o gymuned yn adlewyrchu ein hymrwymiad i godi safonau addysgeg leisiol. Rydym yn grymuso myfyrwyr i lywio dysgu hunan-gyfeiriol, gan sicrhau bod eu taith wedi’i nodi â rhagoriaeth, twf, a safbwyntiau ffres ym myd hyfforddiant llais.” 

Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i ddarparu Fframwaith Arfer Proffesiynol sy’n annog myfyrwyr i ymgysylltu, adfyfyrio, ac adnabod meysydd i’w gwella. Mae’r gwaith ar y cyd â’r Voice Study Centre yn ategu ymrwymiad PCYDDS i feithrin rhagoriaeth mewn addysgeg leisiol.

Ychwanegodd Julie Crossman, Tiwtor Arweiniol MA mewn Addysgeg Leisiol PCYDDS: “Ein hymrwymiad i hyblygrwydd, cynnwys cynhwysfawr, a dull cefnogol yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu’r maes. Cred Julie mewn grymuso myfyrwyr i gofleidio dysgu hunan-gyfeiriol, hwyluso eu taith tuag at ragoriaeth a gorwelion newydd ym maes hyfforddiant lleisiol.”

Bellach, mae Emily yn gobeithio astudio ar gyfer PhD i blymio’n ddyfnach i safonau conservatoire, newid mewn blaenoriaethau mae hi’n ei briodoli i effaith symbylol ei hastudiaethau meistr yn PCYDDS.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau