Skip page header and navigation

Daeth grŵp o 22 o fyfyrwyr Celf Gain sy’n astudio yng Ngholeg Celf Abertawe,  Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, i ymweld ag arddangosfa gelf fwyaf blaenllaw yn Fenis.

Golygfa ar draws y lagŵn tuag at nenlinell Fenis ar fachlud haul.

Teithiodd myfyrwyr o’r brifysgol i’r Eidal gyda thiwtoriaid y cwrs i ymweld ag Arddangosfa Gelf Ryngwladol Biennale Fenis, y digwyddiad celf gyfoes mwyaf a hynaf yn y byd.

O dan y teitl  Llaeth Breuddwydion ac wedi’i guradu gan Cecilia Alemani,  mae Biennale 2022 yn gofyn cwestiynau perthnasol megis “Sut mae diffiniad y ‘dynol’ yn  newid? ”  ac yn cynnwys artistiaid sy’n archwilio “cynrychiolaeth cyrff a’u gweddnewidiad; y berthynas rhwng unigolion a thechnolegau; a’r cysylltiad rhwng cyrff a’r Ddaear” - yr holl bethau y gall myfyrwyr Celf Gain gyfoes gysylltu â nhw ac ymateb iddyn nhw.

Mae lleoliad Fenis yn caniatáu i fyfyrwyr gyd-destunoli  a chymharu celf gyfoes yr arddangosfa  â champweithiau artistig a phensaernïol o’r gorffennol, a hynny o fewn  arwyddocâd hanesyddol y ddinas  yn bwerdy masnachu rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin.  

Tri myfyriwr yn eistedd yn chwerthin wrth droed wal farmor.

Alex Duncan, darlithydd Celf Gain yn Y Drindod Dewi Sant, oedd wedi trefnu’r daith, ac meddai: “Yn anad dim, rhoddodd y daith gyfle i fyfyrwyr brofi ffordd wahanol o fyw. Mae morlyn Fenis yn cynnwys dwsinau o ynysoedd na ellir eu cyrraedd ond mewn cwch ac ar droed; ni chaniateir cerbydau na hyd yn oed beiciau.

“Mae Fenis yn ddinas fyw, nid parc thema, ac mae’n cynnwys rhai o’r enghreifftiau gorau o baentio, cerflunio, cerddoriaeth a champweithiau llenyddol a welodd y byd erioed.  Mae’n swigen ficrocosmig sy’n gefndir i artistiaid cyfoes o bob cwr o’r byd rannu eu hymdrechion creadigol.  Roeddwn i’n falch o  helpu’r myfyrwyr i brofi hyn.”

Ychwanega Owain Sparnon, Artist Preswyl yn Y Drindod Dewi Sant, a fynychodd y daith: “Er i’r Biennale ei hun ddechrau 127 mlynedd yn ôl, erbyn heddiw mae’n llythrennol yn teimlo ar y blaen o ran materion cyfoes y byd megis yr argyfwng hinsawdd wrth i’r morlyn llanw lapio a gorlifo ymyl gwareiddiad.


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: ella.staden@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau