Skip page header and navigation

Mae Coleg Celf Abertawe PCYDDS yn cefnogi arddangosfa Adref Oddi Cartref Ysgolion Noddfa Abertawe ac Abertawe Dinas Noddfa trwy gynnal gweithdai i ddisgyblion.

Dwylo’n gweithio gyda deunyddiau crefft syml: papur, siswrn, glud a phennau ysgrifennu.

Mae’r arddangosfa i’w gweld yn theatr Volcano’r ddinas ar hyn o bryd. Ariannwyd y diwrnod hwyl Celf a Dylunio, a fu’n archwilio themâu a godwyd gan yr arddangosfa, gan Bartneriaeth Ymestyn yn Ehangach De Cymru ac Ehangu Mynediad PCYDDS.

Gan weithio gyda disgyblion o ysgol Gynradd Eglwys Gadeiriol San Joseff, yr Ysgol Noddfa gyntaf yng Nghymru a gydlynodd yr arddangosfa, ac Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan, er mwyn cefnogi eu cais Ysgol Noddfa, cyflwynwyd diwrnod llawn o weithdai gan Goleg Celf Abertawe. Roedd y gweithdai hyn ar thema’r Cartref ac ar ffurf prosiect llyfrau sbonc a gynlluniwyd gan un o fyfyrwyr darlunio trydedd flwyddyn PCYDDS, Izzy Coombs.

Crëwyd llyfrau plyg unigol ar ffurf tŷ gan y disgyblion a fu’n cymryd rhan. Roedd yr ystafelloedd yn cynnwys darluniadau’n ymwneud â’u syniadau a thrafodaethau ar eu tŷ perffaith.

Cydnabu Abertawe fel ail Ddinas Noddfa’r DU ym mis Mai 2010, a’r gyntaf yng Nghymru. Ar 21 Mehefin 2010, cynhaliwyd dathliad yn Neuadd Brangwyn i nodi’r cyrhaeddiad hwn.

Mudiad llawr gwlad cenedlaethol yw Dinas Noddfa sy’n ymroddedig i greu diwylliant o letygarwch a chroeso, yn enwedig i ffoaduriaid sy’n ceisio noddfa rhag rhyfel ac erledigaeth. 

Mae Abertawe Dinas Noddfa, sy’n grŵp gwirfoddol, yn gwahodd pob sefydliad, grŵp lleol, ac unigolion i ymuno i helpu i wneud Abertawe’n falch o fod yn fan diogel.

Meddai’r Arweinydd Ysgolion Noddfa yn San Joseff, Cerian Appleby: “Mae Ysgolion Noddfa i bawb: yr ysgol ei hun, disgyblion, rhieni, cymunedau, pobl leol, a phobl sy’n ceisio lloches. Mae’n ffordd i ymgysylltu ceiswyr noddfa a theuluoedd â’u cymunedau ac addysgu athrawon a phlant am yr hawl ddynol i noddfa. Ysgolion ydyn nhw sy’n falch o fod yn fan diogel a chynhwysol i bawb.

“Rydym yn falch o fod yn rhan o’r rhwydwaith Ysgolion Noddfa a’r mudiad croeso ehangach, sydd â’r nod o wireddu’r weledigaeth hon ac annog pobl ledled Cymru i gefnogi Cymru yn ei nod o fod y Genedl Noddfa gyntaf.” 

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau yn PCYDDS: “Fel Cyfarwyddwr Academaidd ar gyfer Coleg Celf Abertawe a Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Eglwys Gadeiriol San Joseff, rwy’n falch iawn inni allu cefnogi Ysgol Gynradd Eglwys Gadeiriol San Joseff ac Ysgol Gyfun Gatholig yr Esgob Vaughan trwy’r diwrnod hwyl Celf a Dylunio a fu’n archwilio’r thema ‘Noddfa’.

“Fel Coleg Celf sydd wedi’i leoli yng nghanol Abertawe, mae’n hynod bwysig i ni ein bod ni’n gallu cefnogi ein cymuned ehangach. Rydym yn aelod addawedig o Abertawe Dinas Noddfa, ac mae ein drysau ar agor i’n cymunedau cyfagos bob amser.”

Nodyn i’r Golygydd

Mae PCYDDS yn Brifysgol Ehangu Cyfranogiad – ac mae’n ymroddedig i bolisi o ehangu mynediad a denu grwpiau mwy amrywiol o fyfyrwyr, i hwyluso cyfleoedd i grwpiau o fyfyrwyr a chyfleoedd i astudio.

Mae ALLGYMORTH @ COLEG CELF ABERTAWE, PCYDDS yn cynnig ystod eang o weithgareddau ymgysylltu sy’n cyflwyno profiad y coleg celf mewn lleoliad prifysgol modern. Yn ogystal â Diwrnodau Agored y Brifysgol a Diwrnodau Blasu mewn adrannau unigol, rydym yn cynnig teithiau cyflwyniadol o gyfleusterau ac adrannau’r coleg celf, gweithdai hanner tymor sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu eich portffolio a rhoi cyfle i ymgeisio i goleg celf hyd yn oed os nad ydych wedi astudio celf y tu hwnt i TGAU, a chymorth wedi’i bersonoli i’ch helpu i gyflawni eich potensial creadigol llawn.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost:  rebecca.davies@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau