Skip page header and navigation

Mae gwaith ffotograffiaeth Hannah Davies, Cyn-fyfyriwr diweddar o’r cwrs Celf a Dylunio Sylfaen yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi cael ei ddewis yn rhan o arddangosfa fyd-eang yn India.

Dwy ddynes yn edrych ar cyanotypes (printiau ffotograffig glas) sy’n cael eu harddangos ar wal wen.

Yn cynrychioli cwrs Sylfaen y Drindod Dewi Sant, mae gwaith Hannah yn ymddangos yn rhan o arddangosfa Diwrnod Cyanoteip y Byd sy’n arddangos yn Chennai, India, ac a gynhelir gan Biennale Ffotograffau Chennai (CPB). Mae ei gwaith i’w weld ochr yn ochr â gwaith artistiaid o bob rhan o’r byd.

Ar ôl cwblhau ei chwrs Sylfaen, dewisodd Hannah barhau â’i hastudiaethau yn y Drindod Dewi Sant ac mae hi bellach yn fyfyriwr Ffotograffiaeth Ddogfennol yn ei blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Celf Abertawe.

Meddai Katherine Clewett, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Celf a Dylunio Sylfaen yn y Drindod Dewi Sant: “Fe wnaeth myfyrwyr Sylfaen y llynedd arddangos gwaith yn rhan o’r Biennale Ffotograffau Rhyngwladol yn India, a oedd yn cynnwys y prosiect Communities of Choice.

“Prosiect cydweithredol India-Cymru yw Communities of Choice rhwng Sefydliad Biennale Ffotograffau Chennai a Ffotogallery yng Nghymru, y mae’r Drindod Dewi Sant yn gosod y tasgau ar ei gyfer i artistiaid ymateb iddynt.

“Fe wnaeth myfyrwyr o’n cwrs Sylfaen ni, gan gynnwys Hannah, ac o brifysgol yn India, ymateb i’r briff a osodwyd gennym yng Ngholeg Celf Abertawe, a chafwyd cyfnewid diwylliannol-creadigol hyfryd yn sgil hynny.”

Cyanotype o ddynes yn eistedd mewn llystyfiant ffrwythlon; mae popeth mewn arlliwiau glas sy’n tueddu i droi’n wyn tua’r blaendir.

Meddai Sagithya B, curadur Diwrnod Cyanoteip y Byd: “Diolch [Hannah] am gymryd rhan yn Arddangosfa Diwrnod Cyanoteip y Byd ac am anfon dy brintiau hardd. Rydym yn falch iawn o ddweud fod y printiau wedi’u gosod ochr yn ochr â gwaith gan artistiaid dawnus o bob rhan o’r byd. Mae’r gosodiad a’r sioe wedi cael ymateb hynod gadarnhaol gan ymwelwyr.”

Dywedodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau yn y Drindod Dewi Sant: “Rydym wrth ein bodd fod Hannah wedi cael ei dewis ar gyfer yr arddangosfa ryngwladol hon. Mae ein rhaglen Tyst AU Sylfaen Celf a Dylunio’n rhoi profiadau dysgu gwych i fyfyrwyr a chyfle i wneud cysylltiadau rhyngwladol fel y rhain.

“Mae Hannah wedi mynd â’r wybodaeth a’r profiad hwn gyda hi ar ei rhaglen radd yn ein hadran Ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf Abertawe, sydd wedi’i rhestru yn 1af yng Nghymru gan y Guardian University Guide 2024.”

Mae dynes yn archwilio’r cyanotypes sydd i’w gweld yn yr arddangosfa.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau